Ymlaen i'r cynnwys

Swydd Wag -- Penodi Aelod - Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Manylion y swydd

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Caiff cyfarfodydd y Pwyllgor eu cynnal yng Nghaerdydd gan amlaf; fodd bynnag, efallai y caiff cyfarfodydd eu cynnal ledled Cymru ar adegau.

Caiff aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru eu contractio am 21 diwrnod y flwyddyn, ar honorariwm o £3,717.00 y flwyddyn, a gaiff ei dalu'n fisol mewn ôl-daliadau ar un rhan o ddeuddeg o'r gyfradd flynyddol drwy gredyd banc.  Nid yw'r honorariwm yn bensiynadwy, mae'n  ddarostyngedig i ddidyniad Yswiriant Gwladol a threth.  Bydd yr Asiantaeth hefyd yn pennu unrhyw amrywiad yn y tâl cydnabyddiaeth blynyddol.  Mae'r hawl i'r tâl cydnabyddiaeth hwn dan y Ddeddf yn dod i ben ar ddiwedd eich cyfnod yn y swydd.

Er ein bod yn croesawu ceisiadau gan Weision Sifil a gweithwyr sector cyhoeddus eraill, mae Canllawiau Penodiadau Cyhoeddus y Swyddfa Weithredol yn nodi: "Mae angen i ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyhoeddus fod yn ymwybodol na ddylai unrhyw un dderbyn tâl ddwywaith o'r pwrs coeddus am yr un cyfnod o amser. O ganlyniad, mae'n bosibl na fydd ymgeiswyr sydd eisoes yn gweithio yn y sector cyhoeddus yn gallu hawlio tâl cydnabyddiaeth am benodiad cyhoeddus os caiff y dyletswyddau eu cyflawni mewn cyfnod y maent eisoes yn derbyn tâl gan y sector cyhoeddus."  Bydd yr egwyddorion hyn yn berthnasol wrth benodi aelodau i'r Pwyllgor.

21
blwyddyn

Rôl y corff

Gwahoddir ceisiadau i fod yn aelodau o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.  Mae'r nodyn hwn yn cynnwys manylion y Pwyllgor, y dyletswyddau perthnasol, gan gynnwys ymrwymiad amser, tâl cydnabyddiaeth a gwybodaeth am sut i wneud cais. 

Cefndir

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn gweithredu fel bwrdd cynghorol i'r Asiantaeth Safonau Bwyd.  Caiff aelodau'r Pwyllgor eu penodi gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr Adran Iechyd, yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999.  Diffinir y rôl statudol fel a ganlyn:
 

"Bydd pwyllgor cynghorol yng Nghymru er mwyn cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau (gan gynnwys materion penodol sy’n effeithio ar Gymru)."


Dylai aelodau sydd wedi'u penodi i'r Pwyllgor gydymffurfio ar bob adeg â'r Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, a osodwyd gan Bwyllgor Nolan ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Atodiad C). 

 

Beth yw'r Asiantaeth Safonau Bwyd?

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn Adran Annibynnol Anweinidogol y Llywodraeth a sefydlwyd gan Ddeddf Seneddol ym mis Ebrill 2000 fel corff gwarchod diogelwch bwyd, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd.  Mae ei chylch dylanwad yn amrywio ar draws yr holl gadwyn fwyd, o blaladdwyr a meddyginiaethau milfeddygol hyd at ddiogelwch bwyd a safonau bwyd mewn siopau, bwytai a siopau tecawê.  Mae'r ASB yn gweithio'n agos â chyrff eraill megis awdurdodau lleol, adrannau eraill y Llywodraeth ac Asiantaethau Gweithredol er mwyn sicrhau y caiff rheoliadau ar ddiogelwch a safonau bwyd eu gorfodi er mwyn diogelu defnyddwyr.  Caiff gwaith ymchwil ac arolygon eu comisiynu gan ystod o ffynonellau (gan gynnwys Pwyllgorau Cynghori annibynnol, arbenigwyr unigol a chyrff sydd â diddordeb) er mwyn sicrhau bod polisïau'n seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf a'r gorau sydd ar gael.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod angen i'r ASB reoli peryglon bwyd yn wyneb gwybodaeth anghyflawn neu anghytuno ymysg arbenigwyr.

Mae'r ASB yr un mor atebol i Senedd San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a Llywodraeth Cymru drwy eu Gweinidogion Iechyd perthnasol.  Yn ogystal â'i bencadlys yn Llundain, mae gan yr ASB swyddfeydd yng Nghaerdydd a Belfast, i gefnogi ei gweithrediadau yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ac mae swyddfa ranbarthol arall yng Nghaer Efrog.

Mae'r ASB yn Adran o'r Llywodraeth, ond caiff ei harwain gan Fwrdd yn hytrach na gan Weinidog yn uniongyrchol.  Mae hyn yn ei galluogi i weithio "hyd braich" o'r Llywodraeth.  Atgyfnerthodd y ddeddfwriaeth a sefydlodd yr ASB (Deddf Safonau Bwyd 1999) safle'r ASB, drwy roi pwerau iddi gyhoeddi unrhyw gyngor mae'n ei gynhyrchu, gan gynnwys cyngor i Weinidogion.  Mae un Aelod o Gymru, Dr Ruth Hussey, wedi'i phenodi i Fwrdd y Deyrnas Unedig, ac mae'n cadeirio Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Gan gydnabod bod ystod o gyngor cymhleth ar fwyd sy'n aml yn gwrthgyferbynnu, mae'r ASB yn ceisio sicrhau mai hi yw ffynhonnell cyngor a gwybodaeth mwyaf dibynadwy y Deyrnas Unedig (DU) ar fwyd, ac y gall defnyddwyr fod â hyder ynddi.  Prif egwyddorion yr ASB yw: 


  • rhoi’r defnyddiwr yn gyntaf
  • bod yn agored a thryloyw
  • defnyddio gwybodaeth sy'n seiliedig ar wyddoniaeth a thystiolaeth
  • gweithredu’n annibynnol
  • gorfodi cyfraith bwyd yn deg

Wrth roi'r defnyddiwr yn gyntaf, diogelwch bwyd yw prif flaenoriaeth yr ASB.  Mae'n ceisio darparu gwybodaeth ddealladwy, cywir a dibynadwy i ddefnyddwyr, y gallant seilio eu penderfyniadau am fwyd arni, ac a fydd yn eu helpu i ddeall yr holl faterion mewn perthynas â bwyd, diogelwch bwyd, a deiet a maeth.  Mae'r ASB yn ymroddedig i gefnogi pob defnyddiwr o ran materion bwyd, gan gynnwys y rheiny sydd dan yr anfantais fwyaf yn gymdeithasol ac yn economaidd.

Mae'r ASB yn seilio ei phenderfyniadau a'i chyngor ar y dystiolaeth orau sydd ar gael, gan anelu at sicrhau bod y broses o wneud penderfyniadau mor agored a thryloyw â phosibl, ceisio safbwyntiau partïon sydd â diddordeb cyn dod i gasgliadau, a mae hi bob tro'n esbonio'r rhesymau dros ei phenderfyniadau a chyngor mewn modd syml.  Mae wedi ymrwymo i benderfynu ar faterion polisi yn gyhoeddus ac ar ôl trafodaeth agored.

 

 

Disgrifiad o'r swydd

Sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn 2000 er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r ASB.  Bydd cyngor a gwybodaeth o'r fath ar ddiogelwch bwyd, safonau bwyd a materion perthnasol, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i Gymru.  Mae’n bwysig nodi nad yw’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am gyngor maethol ers i’r swyddogaeth hon gael ei throsglwyddo i Lywodraeth Cymru yn 2010. Mae'n ofynnol bod yr Asiantaeth yn ystyried cyngor neu wybodaeth sy'n rhesymol neu'n ymarferol, p'un a dderbyniwyd y cyngor neu'r wybodaeth ar gais yr Asiantaeth ai peidio.  Caiff aelodau'r Pwyllgor eu penodi gan y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Iechyd y Cyhoedd yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999, er mwyn darparu ystod eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol. 

 

Mae'r Pwyllgor: 

  • yn gweithredu fel cyfrwng cyfathrebu i swyddogion yr Asiantaeth a'i Fwrdd ar faterion penodol
  • yn gweithredu ar y cyd er lles y cyhoedd
  • yn cynghori'r broses o ddatblygu polisi a deddfwriaeth gan yr Asiantaeth
  • yn helpu i sefydlu blaenoriaethau'r Asiantaeth, gan ystyried:
    -        pryderon defnyddwyr
    -        data cadw gwyliadwriaeth neu ymchwil
    -        materion pynciol
    -        barn aelodau'r Pwyllgor

 

Mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd agored a thryloyw drwy

  • gynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn ystod o leoliadau ar draws Cymru;
  • gwrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru;
  • cefnogi'r ASB mewn digwyddiadau cyhoeddus;
  • nodi materion sy'n bwysig i Gymru;
  • cynhyrchu cyngor trylwyr ac ystyrlon.

 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r Pwyllgor wedi

  • cynnal pedwar cyfarfod agored yng Nghymru a dau ddiwrnod datblygu/cyfarfod briffio
  • rhoi cyngor i'r Asiantaeth ar ystod o bynciau, gan gynnwys: adolygiad o'r Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd; gwyddoniaeth yr ASB; cadw gwyliadwraeth ar fwyd a bwyd anifeiliaid; sicrhau mesurau rheoli cymesur ar gyfer "bwydydd sy'n peri risg”; lles anifeiliaid; rhaglen Rheoleiddio ein Dyfodol; Ymadael â’r UE; diddordeb defnyddwyr yn y system fwyd; ymwrthedd gwrthficrobaidd; Digwyddiadau a Gwydnwch: Adroddiad Blynyddol 2017/18; Llaeth Yfed Amrwd; y prosiect model ariannu cynaliadwy; lleihau campylobacter.

 

Cyfrifoldebau cyffredinol aelodau'r Pwyllgor

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn gweithredu fel bwrdd cynghori i'r ASB.  Cylch gorchwyl y Pwyllgor yw:
 

  • rhoi cyngor neu wybodaeth i'r Asiantaeth am faterion sy'n gysylltiedig â'i weithrediadau, gan gynnwys materion sy'n effeithio neu sy'n berthnasol i Gymru'n benodol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Mae'r Pwyllgor yn chwilio am unigolion sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:


Sgiliau a gwybodaeth hanfodol: 

  • Y gallu i feddwl a gweithredu yn strategol ac yn ddadansoddol;
  • Bod yn graff ei farn/barn, gyda lefel uchel o onestrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus, ynghyd â'r gallu i gyfrannu at wneud penderfyniadau anodd;
  • Y gallu i ddadansoddi a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig a thrwy ystod o gyfryngau;
  • Y gallu i wasanaethu un ai heb wrthdaro buddiannau neu i ddangos sut y byddant yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau posibl, boed y rheiny yn rhai go iawn neu'n rhai tybiedig;
  • Profiad o ystyried a deall cyngor, tystiolaeth a dadl wyddonol;
  • Byddai disgwyl i ymgeiswyr fod â phrofiad cefndirol sylweddol mewn un neu fwy o'r disgyblaethau canlynol:
    Gwyddoniaeth (e.e.  Microbioleg, Meddygol, Epidemioleg, Milfeddygol, Maetheg neu Wyddorau Cymdeithasol, newid ymddygiad yn benodol)
    Addysg/Academia  (Yn ddelfrydol mewn perthynas â bwyd-amaeth neu systemau a diogelwch bwyd)
    Cyfathrebu  (e.e. Ymgysylltu â defnyddwyr drwy ystod o gyfryngau, yn enwedig cyfryngau cymdeithasu)
    Cynhyrchu Bwyd (Cefndir cynhyrchu bwyd)
    Arall (e.e. Twyll bwyd, diwydiant bwyd neu'r sector arlwyo/bwytai/gwestai, llunio polisi mewn meysydd perthnasol, mentrau bwyd cymunedol,
    diogelu defnyddwyr, ymchwil defnyddwyr)
     

*Noder nad yw cylch gwaith yr ASB yng Nghymru yn cynnwys ymdrin â maeth.

  

Sgiliau a gwybodaeth delfrydol/hanfodol:

  • Ymroddiad i fwyd neu faterion defnyddwyr / mewnwelediad defnyddwyr o fewn cyd-destun Cymru;
  • Deall rôl aelod Pwyllgor sefydliad cyhoeddus mawr a'r holl gyfrifoldebau perthnasol;
  • Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un o’r rolau ac yn ddelfrydol ar gyfer yr ail rôl.

 

Ym mhob un o'r rhain, bydd y rheiny sydd â'r mwyaf o allu i helpu i wireddu Cynllun Strategol yr Asiantaeth fel rhan o strwythur colegol yn cael blaenoriaeth.  Bydd y penodiad yn ystyried cydbwysedd y sgiliau sydd ar y Pwyllgor.  Mae Strategaeth yr ASB a Chynllun Strategol 2015-2020, ynghyd ag Atodiad Cymru a Chynllun Cyflenwi Strategaeth Gwyddoniaeth, Tystiolaeth a Gwybodaeth 2015-2020 ar gael ar wefan yr ASB drwy: https://www.food.gov.uk/wales/about-fsa-wales/cymru/amdanomni/about-the-fsa

 

Dyddiadau cyfweliadau

13 Awst 2018
17 Awst 2018

Dyddiad cau

19/07/18 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Cyfarfodydd cyhoeddus

Fel rhan o ymroddiad y Pwyllgor i fod yn agored, mae lleiafswm o chwe chyfarfod y flwyddyn yn cael eu cynnal yn gyhoeddus, a gall unrhyw aelod o’r cyhoedd neu’r wasg sydd â diddordeb eu mynychu. Yn ystod bob cyfarfod, mae cyfle i aelodau o'r cyhoedd ofyn cwestiynau i'r siaradwyr ac aelodau'r Pwyllgor.  Mae'n bosibl y bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yn swyddfa'r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghaerdydd, fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd cyfarfodydd y Pwyllgor yn cael eu cynnal ledled Cymru hefyd, ac mae angen i'r aelodau fod yn barod i deithio yn ôl yr angen.  Gan fod y cyfarfodydd hyn yn gyhoeddus, ac yn cael eu cynnal yn ôl amserlen dynn, mae angen i aelodau'r Pwyllgor allu siarad yn glir ac yn hyderus yn gyhoeddus, a gallu gwneud eu cyfraniadau mewn modd cryno.  Caiff trafodaethau sy'n ymdrin â busnes mewnol y Pwyllgor, megis materion sefydliadol a chynlluniau gwaith am y dyfodol, eu cynnal yn sesiynau cynllunio'r Pwyllgor yn gyffredinol, a chânt eu cynnal mewn sesiynau caeëdig.

Ymrwymiad Amser

Mae'r rôl yn cynnwys ymrwymiad amser o oddeutu 2/3 diwrnod y mis, gan gynnwys cyfarfodydd Pwyllgor ac amser paratoi.  Mae'n bosibl y bydd hefyd gofyn i chi ymgymryd â dyletswyddau eraill y Pwyllgor mewn mannau eraill pan fo'r angen yn codi, er enghraifft cyfrannu at is-bwyllgor i'r Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, a sefydlir i ystyried maes pwnc penodol, neu gynrychioli'r Pwyllgor mewn digwyddiad arall.  Bydd holl gostau rhesymol ar gyfer teithio a chynhaliaeth yn cael eu had-dalu.

Bydd y penodiad am ddwy neu dair blynedd i ddechrau. Mae modd adnewyddu am dymor ychwanegol ar argymhelliad y Cadeirydd, ac yn destun perfformiad boddhaol, yn ystod y cyfnod cyntaf yn y swydd.  Caiff penderfyniadau terfynol ar benodiadau ac ail-benodiadau eu gwneud gan y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol.  Nid oes unrhyw rhagdybiaeth awtomatig am ailbenodiadau, ac mae rhagdybiaeth cryf na fydd unrhyw unigolyn yn treulio mwy na dau dymor nac yn gwasanaethu mewn unrhyw swydd am yn hirach na deng mlynedd.


Noder bod y Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd o ran y ffordd y maent yn gweithredu a gallai’r cyfrifoldebau cyffredinol a nodwyd yn y paragraffau uchod fod yn destun newid oherwydd hyn.



Cyfle Cyfartal 

Mae penodiadau cyhoeddus yn seiliedig ar egwyddorion teilyngdod, gydag asesiad annibynnol a phroses agored a thryloyw.  Mae'r Pwyllgor yn ymroddedig i gyflawni amrywiaeth ymysg ei aelodau.  Croesewir ceisiadau gan bobl sydd wedi'u cymhwyso'n addas ac sy'n gallu cynrychioli buddiannau'r cyhoedd yng Nghymru, heb ystyried hil, crefydd, cefndir ethnig, rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, oed nac anabledd.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais? 

Dylai'r ymgeiswyr fod yn unigolion sy'n gallu ymddwyn ar bob adeg mewn modd a fyddai'n cynnal hyder y cyhoedd. 

Yn benodol, gofynnir bod ymgeiswyr yn datgan p'un a ydynt yn ymwybodol o unrhyw beth yn eu bywyd preifat neu bersonol a fyddai'n codi cywilydd arnyn nhw neu ar Lywodraeth Cymru pe byddai'n dod i'r amlwg petaent yn cael eu penodi.

Bydd gofyn i aelodau ddatgan eu holl fuddiannau personol neu fusnes y gall aelod rhesymol o'r cyhoedd fod o'r farn y byddai'n dylanwadu ar eu barn.  Bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi'n flynyddol mewn cofrestr o fuddiannau.  Ni fydd cysylltiad masnachol, proffesiynol nac ariannol, na gwasanaeth fel cyflogai mewn diwydiannau cysylltiedig â bwyd neu amaethyddiaeth yn achos o wrthdaro buddiannau yn awtomatig a fyddai'n eithrio penodiad i'r Pwyllgor Cynghori (er y dylid datgelu unrhyw gysylltiad cyfredol neu hanesyddol yr ymgeisydd neu ei bartner/ei phartner yn y cais).

Dylech nodi'n benodol y gofyniad i chi ddatgan buddiannau preifat a all fod, neu y gellir eu canfod i fod, yn gwrthdaro â'r rôl a'r cyfrifoldebau fel Aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru, gan gynnwys unrhyw fuddiannau busnes a safleoedd o awdurdod tu allan i'r rôl ar Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Os byddwch yn cael eich penodi, bydd disgwyl ichi hefyd ddatgan y buddiannau wrth gael eich penodi a fydd yn cael eu gosod ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.

 

Safonau mewn bywyd cyhoeddus 

Bydd disgwyl ichi ddangos safonau uchel o ran ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd gofyn i bob ymgeisydd llwyddiannus danysgrifio i'r Cod Ymarfer i Aelodau Bwrdd Cyrff Cyhoeddus. Mae'r ddogfen hon ar gael drwy:

http://www.bl.uk/aboutus/governance/blboard/Board%20Code%20of%20Practice%202011.pdf

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 0300 0616095 / 0300 0253762 neu drwy anfon e-bost i PublicAppointments@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.