Swydd Wag -- ~~OPPORTUNITY_TITLE_77A409CF-85BC-4EBF-8A2E-C87E71E103EB~~
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi esblygu, dros y ddau ddegawd diwethaf, i fod yn un o'r gwasanaethau ambiwlans mwyaf datblygedig yn glinigol yn y byd.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn gwasanaethu dros dair miliwn o bobl yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ystod amrywiol o gymunedau ar draws ardal o ryw 8,000 milltir sgwâr.
Mae'r Ymddiriedolaeth yn ymateb i 2000 o alwadau brys bob dydd, ac yn ychwanegol at ddefnyddio'r ambiwlans argyfwng traddodiadol neu gerbyd ymateb cyflym, mae'n gallu cynnig cyngor yn fwyfwy dros y ffôn neu driniaeth yn y lleoliad neu yn y cartref. Mae gan yr Ymddiriedolaeth hefyd dimau sy'n gallu ymateb i ddigwyddiadau mwy cymhleth neu ddigwyddiadau mawr.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol ymysg pethau eraill, yn:-
Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ei rheoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn.
Gallu cyfrannu at brosesau ‘llywodraethu ac ariannu’ yr Ymddiriedolaeth, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'n hanfodol bod Cyfarwyddwyr Anweithredol yn dangos y priodoleddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
Deall problemau a blaenoriaethau iechyd mewn perthynas ag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Y Ddeddf Diogelu Data.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus PublicAppointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl y Cyfarwyddwr Anweithredol, cysylltwch â Martin Woodford, Cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. E-bost: Martin.Woodford@wales.nhs.uk
I gael rhagor o wybodaeth am Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, gallwch fynd i'w gwefan: http://www.ambulance.wales.nhs.uk/.
Anogir ymgeiswyr posibl hefyd i ddysgu mwy am Wasanaeth Ambiwlans Cymru trwy gysylltu'n uniongyrchol â'r Ymddiriedolaeth. Byddant yn cynnig y cyfle i chi ddod i un o'u gorsafoedd ambiwlans neu fangre arall, mewn lle sy'n lleol ichi lle bo modd, i gyfarfod ag aelodau'r Bwrdd a staff allweddol eraill. Dylai ymgeiswyr cysylltu â naill ai Martin.Woodford@wales.nhs.uk neu keith.cox@wales.nhs.uk
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar 03000 616095, neu e-bost: publicappointments@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-25546c74a314/candidate/register
I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Cyfarwyddwr Anweithredol (3 swydd) Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac yna cliciwch y botwm ‘Gwneud cais’ ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf y gwnewch gais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy'ch cyfrif.
Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu cael gweld y ffurflen gais. I wneud cais bydd angen ichi lanlwytho datganiad personol a CV i'r adran 'Rhesymau dros ymgeisio' ar y ffurflen gais ar-lein. Y datganiad personol yw eich cyfle chi i ddangos sut yr ydych yn bodloni'r meini prawf hanfodol a manyleb y person.
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.