Swydd Wag -- Penodi Aelod - Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Doc Penfro

Telir £3,675 y flwyddyn i Aelodau (caiff lefel y tâl ei hadolygu gan Banel Annibynnol). Caiff aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro eu hystyried fel deiliaid swyddi at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, codir treth ar y ffioedd sy'n daladwy, o dan Atodlen E y Ddeddf Trethi a byddant yn ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Caiff y dyledion hyn eu didynnu drwy system gyflogres Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd. Ni chodir TAW ar y ffioedd.

 

Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill a allai godi wrth wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro oddi wrth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro o fewn y terfynau cydnabyddedig. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol wrth i chi wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

4
mis

Rôl y corff

Beth yw'r Parciau Cenedlaethol?

Mae'r Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd rhyngwladol.  Er eu bod yn wledig yn bennaf o ran eu natur maent yn agos at gymunedau trefol ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru, ac ymwelwyr i Gymru, a chyfrannu'n gadarnhaol at economi Cymru. Un o dasgau allweddol Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau y bydd yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lleoedd sydd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach a mwy amrywiol na heddiw, sy'n cael eu mwynhau a’u gwerthfawrogi gan drawstoriad llawn o'r gymdeithas.

 

Beth yw eu swyddogaeth?

Mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

 

  • cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol;

 

  • hybu cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig [y Parc].

 

Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol mae gan Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin llesiant economaidd a chymdeithasol eu cymunedau lleol.

 

Os yw'n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, rhoddir y pwyslais mwyaf ar ddiben cadw a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.

 

Ffyrdd o weithio

Mae'n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheoli Parc Cenedlaethol.  Mae'r Cynllun yn amlinellu'r polisïau ar gyfer rheoli'r Parc a threfnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol.  Mae'n cynnwys polisïau ar gyfer rheoli tir yn y Parc Cenedlaethol ac mae'n ffurfio'r sail ar gyfer cydweithredu nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd gyda thirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat eraill.  Mae ymgynghori yn ystod y gwaith o baratoi'r Cynllun yn caniatáu i bobl gyfrannu at gyflawni polisïau ymarferol ac mae'n hanfodol ar gyfer cydweithredu sympathetig gyda phreswylwyr ac eraill sydd â diddordeb yn y Parc.

 

Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol  Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheoli'r Parc Cenedlaethol a byddant yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol hefyd yn awdurdodau cynllunio ar gyfer eu hardaloedd ac maent yn gyfrifol am lunio cynlluniau datblygu ac am reoli datblygu. 

 

Beth yw eu Strwythur a'u Haelodaeth?

O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae’r tri  Awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig.  Maent yn gyrff corfforaethol gyda phwerau gweithredol.  Mae dibenion y Parciau yr un peth yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn wahanol yn y ddwy wlad.

 

Yng Nghymru caiff dau draean o’r seddi eu llenwi gan gynghorwyr yr Awdurdodau Lleol cyfansoddol er mwyn adlewyrchu buddiannau lleol a chaiff un traean eu llenwi gan benodiadau a wnaed gan Weinidogion Cymru i gynrychioli'r buddiannau cenedlaethol.  Wrth benodi aelodau i fod ar Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, caiff Awdurdodau Lleol eu hannog i ddefnyddio cynghorwyr sy'n cynrychioli wardiau sydd naill ai’n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn ffin y Parc.

 

O ble y daw arian Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol?

Mae Gweinidogion Cymru yn darparu'r rhan fwyaf o’r cyllid i Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant y Parciau Cenedlaethol. Daw dau draean o Grant y Parciau Cenedlaethol yn uniongyrchol wrth Weinidogion Cymru ac mae Awdurdodau’r Parciau yn codi lefi ar eu Hawdurdodau Lleol cyfansoddol ar gyfer y traean sy’n weddill.  Mae grant ychwanegol ar gael oddi wrth Weinidogion Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf a ragnodwyd.  Mae Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol hefyd yn derbyn incwm, er enghraifft, oddi wrth weithgareddau masnachol, ffioedd parcio ceir a ffioedd ceisiadau cynllunio.  Mae'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol  yn anfon llythyr grant strategol blynyddol sy'n amlinellu blaenoriaethau ac amcanion cytunedig Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Rôl yr Aelodau

Mae'n ofynnol i aelodau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i roi o’u hamser i fynychu cyfarfodydd pwyllgor ac Awdurdod llawn yn rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau datblygu aelodau, gweithgorau, digwyddiadau a chynrychioli'r Awdurdod ar gyrff allanol.

 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau – Beth y disgwylir i chi ei wneud?

 

Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn gyfrifol, yn unigol, ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am ddarparu arweinyddiaeth effeithiol i Awdurdod y Parc Cenedlaethol, ar gyfer gosod ei bolisïau a sicrhau ei fod yn diwallu ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, polisi ac ariannol a osodwyd iddo. Mae dyletswydd ar yr aelodau i weithredu’n unol â’r gyfraith ar bob adeg, yn ddidwyll ac er budd pennaf y Parc Cenedlaethol, a bod yn ofalus i sicrhau nad yw eu safle cyhoeddus yn cael ei beryglu er budd buddiannau preifat ar unrhyw adeg, na chodi amheuaeth bod hyn wedi digwydd.

 

Mae’r tasgau allweddol yn cynnwys:

 

  • Arwain Awdurdod y Parc Cenedlaethol, yn arbennig er mwyn diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol a gosod amcanon heriol;
  • Sicrhau bod gweithgareddau Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a'u hyrwyddo mewn modd mor effeithlon ac effeithiol ag y bo modd;
  • Sicrhau bod strategaethau'n cael eu datblygu ar gyfer cyflawni dibenion a dyletswyddau cyffredinol y Parc Cenedlaethol, yn unol â'r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru;
  • Monitro perfformiad Awdurdod y Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn;
  • Sicrhau bod dull Awdurdod y Parc Cenedlaethol o reoli, rheoleiddio a monitro ei weithgareddau, yn ogystal â gweithgareddau’r cyrff eraill y gallai fod yn eu hariannu neu eu cefnogi, yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol;
  • Hyrwyddo amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol.

 


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Pa sgiliau neu wybodaeth sydd eu hangen arnoch?

 

Dewisir unigolion ar sail eu rhinweddau a phrofiadau personol ac nid fel cynrychiolwyr o sefydliadau neu grwpiau arbennig. I lwyddo yn y rôl hon mae’n bwysig eich bod yn gallu defnyddio’ch sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sydd o gymorth i gyflawni’r dibenion statudol y dynodwyd y Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer.

 

Bydd y Parc Cenedlaethol yn elwa ar sgiliau a gwybodaeth amrywiol ei aelodau. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unigolion sydd â phrofiad yn un neu fwy o’r meysydd canlynol:

 

  • ymgysylltu â phobl ifanc;
  • gweithio gyda chymunedau, grwpiau cymunedol ac unigolion o gefndiroedd amrywiol;
  • cynllunio defnydd tir;
  • gwarchod yr amgylchedd hanesyddol, adeiledig a diwylliannol;
  • tirwedd a dylunio;
  • y celfyddydau;
  • ynni adnewyddadwy;
  • amaethyddiaeth.

 

Yn eich cais, ceisiwch ddangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau neu’r profiad canlynol:

 

  • y gallu i gyflwyno persbectif cenedlaethol i waith y Parc;
  • dealltwriaeth o Barciau Cenedlaethol, a pha faterion sydd yn effeithio ar eu gwaith yn genedlaethol, ac ar y cymunedau o fewn y Parciau Cenedlaethol;
  • profiad o weithio gyda sefydliadau blaenllaw eraill a thystiolaeth o ddatblygu a chraffu ar gynlluniau a gwella perfformiad;
  • gweithio mewn tîm;
  • ymwneud ag ystod eang o grwpiau ac unigolion, gan ddysgu am eu hanghenion/safbwyntiau;
  • mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer un swydd ac yn ddymunol i ddwy swydd. Bydd disgwyl i’r person sy’n cael ei benodi/phenodi i’r swydd lle mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol gyfrannu at waith y Parc trwy gyfrwng y Gymraeg.

 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt brofiad blaenorol o weithio ar fyrddau o fewn y sector cyhoeddus.

 

Bydd disgwyl i’r ymgeiswyr llwyddiannus feddu ar wybodaeth am “Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus” Nolan a Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 ac ymrwymo iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

29 Mawrth 2019
12 Ebrill 2019

Dyddiad cau

07/02/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Digwyddiadau estyn allan

 

Cynhelir dau ddigwyddiad estyn allan lle bydd modd i aelodau’r cyhoedd fwrw heibio i ddysgu mwy am Awdurdod y Parc Cenedlaethol a’i waith. Mae croeso cynnes i bawb. Cynhelir y digwyddiadau rhwng 3pm-7pm ar;

 

  • Ddydd Mawrth 22ain Ionawr – Gwesty Giltar, Dinbych y Pysgod

 

  • Dydd Iau, 24ain Ionawr – Gwesty Bae Abergwaun

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.