Swydd Wag -- Penodiadau Aeold (Cwricwlwm) - Cymwysterau Cymru

Manylion y swydd

Cymwysterau Cymru
Cymwysterau Cymru, Adeilad Q2, Lôn Pencarn, Parc Imperial, Coedcernyw Casnewydd, NP10 8AR
£282 y diwrnod ar sail yr ymrwymiad amser mwyaf o 36 diwrnod y flwyddyn ynghyd â chostau teithio a chostau eraill o fewn rheswm.
36
blwyddyn

Rôl y corff

Trosolwg

Ym mis Medi 2015, daeth Cymwysterau Cymru yn gyfrifol am reoleiddio cyrff dyfarnu ac am sicrhau ansawdd cymwysterau yng Nghymru ac eithrio graddau. Mae Cymwysterau Cymru, fel corff statudol annibynnol, mewn sefyllfa dda i sicrhau bod y cymwysterau a gynigir yng Nghymru yn cyflawni anghenion dysgwyr, cyflogwyr a'r economi. 

 

Cymwysterau Cymru yw'r prif awdurdod ar gymwysterau yng Nghymru, a bydd yn rhoi cyngor proffesiynol i Weinidogion Cymru ar faterion perthnasol yn ogystal â gwybodaeth, cyngor a chymorth i amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae'n cyfathrebu ynghylch gwerth ein cymwysterau yng Nghymru a thu hwnt.

 

Bydd Cymwysterau Cymru yn annibynnol ar Lywodraeth Cymru. Mae’n cymryd penderfyniadau proffesiynol ac annibynnol ar gymwysterau. Mae’n arwain ar agweddau ar ddatblygu polisi cymwysterau. Mae’n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch sut mae wedi cyflawni ei swyddogaethau, a sut mae'n bwriadu eu cyflawni.                     

 

Llywodraethiant

Mae'r corff yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, ac mae'n atebol felly am y ffordd y mae'n rheoli ei gyllid cyhoeddus.  Fodd bynnag, mae  gan  Gymwysterau Cymru rhywfaint o annibyniaeth i gyflawni ei swyddogaethau cymwysterau, ac mae'n atebol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru amdanynt. Mae gan Fwrdd Cymwysterau Cymru Gadeirydd annibynnol a rhwng 8 a 10 o aelodau anweithredol.

 

Mae'r broses o benodi aelodau anweithredol yn dilyn Cod Ymarfer y Comisiynydd ar gyfer Penodiadau gan Weinidogion i Gyrff Cyhoeddus.

 

Rôl y Bwrdd

Rôl y bwrdd yw llywodraethu'n gryf ac arwain yn effeithiol, a datblygu cynllun strategol ar gyfer Cymwysterau Cymru a phennu amcanion heriol.  Mae'r bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o atebolrwydd cyhoeddus ac yn cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian.  Mae'n sicrhau bod gweithgareddau Cymwysterau Cymru yn cael eu cyflawni yn effeithlon ac yn effeithiol, a bydd yn monitro perfformiad i sicrhau bod y corff yn cyflawni'n llawn ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad.   

Mae'r Bwrdd wedi sefydlu trefniadau llywodraethu trosfwaol ac yn dirprwyo ei swyddogaethau i swyddogion drwy gynllun dirprwyo sy'n cwmpasu materion ariannol ac anariannol.

Disgrifiad o'r swydd

  1. Rhoi cyfeiriad ac arweinyddiaeth strategol, gan hyrwyddo perfformiad uchel a dal y corff i gyfrif yn erbyn ei gynlluniau strategol a chorfforaethol.

  2. Sicrhau priodoldeb, rheoleidd-dra, darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd yng ngwaith y corff ac y dilynir saith egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion Nolan).

  3. Ynghyd ag aelodau eraill y Bwrdd, sicrhau bod y corff yn cyflawni ei nodau a'i amcanion statudol.

  4. Gweithredu fel hyrwyddwr y sefydliad, a'i nodau a'i amcanion. Bod yn fodel rôl ar gyfer staff a rhanddeiliaid.

  5. Cydweithio i feithrin perthynas â phob unigolyn a grŵp perthnasol, gan gynnwys adrannau allweddol o fewn Llywodraeth Cymru, yn enwedig yr Adran Addysg a Sgiliau.

 

Tasgau Allweddol


 

Bydd yr aelodau yn helpu'r Cadeirydd i gyflawni cyfrifoldebau'r Bwrdd o ran: -

 

  • pennu cyfeiriad a pholisïau strategol y corff;

 

  • sicrhau bod y corff yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol;

 

  • sicrhau bod y corff yn cael ei reoli'n briodol ac yn effeithiol, er mwyn gweithredu mewn ffordd briodol, ddarbodus, effeithlon ac effeithiol;

 

  • sicrhau ei fod yn ddoeth wrth wario'r arian cyhoeddus a roddwyd i'r sefydliad.

 

Bydd yr aelodau hefyd yn helpu'r Cadeirydd i gynrychioli'r Bwrdd. Disgwylir i'r aelodau:

 

  • greu Bwrdd effeithiol, drwy annog aelodau'r Bwrdd i gymryd rhan weithredol yn y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd, a chadeirio, neu gymryd rhan yn ôl y gofyn, mewn un neu ragor o bwyllgorau'r Bwrdd;

 

  • sicrhau bod y corff cyfan yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am benderfyniadau'r Bwrdd;

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Mae Cymwysterau Cymru'n gobeithio recriwtio aelod gydag arbenigedd yn y meysydd canlynol:
 


Meini Prawf Hanfodol

 

  1. Cwricwlwm – profiad o lunio a gweithredu cwricwlwm ysgol uwchradd (1 swydd)

 

  • Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn uwch arweinydd sydd wedi bod yn uwch arweinydd yn ddiweddar sydd â phrofiad o ddatblygu a gweithredu cwricwlwm uwchradd. Gan eich bod wedi datblygu, gweithredu a gwerthuso cwricwlwm eich ysgol, byddwch yn deall yr heriau ynghlwm â hyn a'r manteision posibl i ddysgwyr. Byddwch yn gweithredu mewn
    dull sy'n rhoi'r dysgwr yn gyntaf ac yn ein helpu i sicrhau bod dysgwyr wastad wrth galon yr hyn a wnawn

        2.  Cyllid  – profiad o ddarparu goruchwyliaeth ariannol strategol ac arbenigol, dealltwriaeth dda o gyllid yn y sector cyhoeddus yn
             ddelfrydol  (1 swydd).

 

  • Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus gymhwyster cyfrifyddiaeth cydnabyddedig (yn ddelfrydol, gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) a bydd ganddo brofiad o weithio ar lefel Bwrdd neu Bwyllgor yn darparu goruchwyliaeth ariannol strategol ac arbenigol. Byddwch yn gyfforddus yn rhoi arweiniad i aelodau'r Bwrdd ac yn gallu cydweithio â'ch
    cyd-aelodau wrth ystyried materion ariannol ar gyfer y sefydliad dros y tymor byr a'r tymor hirach.



Rhaid i chi hefyd ddangos (ar gyfer y ddwy swydd):

   

  • y gallu i gynrychioli Cymwysterau Cymru yn gyhoeddus, ac i drafod materion yn effeithiol ar lefel uwch a chyda'r prif randdeiliaid;

 

  • y gallu a'r profiad i graffu ar ein gwaith er mwyn sicrhau y gellir rheoli unrhyw ddiwygiadau i gymwysterau, a bod y cymwysterau hynny yn ennyn diddordeb ac yn diwallu'r weledigaeth a fwriedir;

 

  • y gallu i gyflwyno syniadau ffres mewn trafodaethau am faterion ymarferol a strategol y tu allan i faes eich arbenigedd;

 

  • dealltwriaeth dda o waith Cymwysterau Cymru a'r gwaith y mae'n ei wneud gyda rhanddeiliaid;

 

  • y gallu i oruchwylio, cyfarwyddo a/neu wneud penderfyniadau mewn cyfnodau gwleidyddol neu ariannol ansicr;

 

  • dealltwriaeth eang o faterion sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru.  Gallai’r ymgeiswyr fod wedi datblygu’r wybodaeth hon drwy wneud unrhyw fath o waith, gan gynnwys gweithio yn y gymuned, gwaith gwirfoddol neu gefndir proffesiynol. Bydd gennych werthfawrogiad cryf o anghenion dysgwyr yn y Gymru fodern

 

Meini prawf dymunol

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol ond nid yn hanfodol.   

Dyddiadau cyfweliadau

18 Chwefror 2018
22 Chwefror 2018

Dyddiad cau

25/01/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltu:


I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Ffôn: 029 2082 5454

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Cymwysterau Cymru a rôl Aelodau'r Bwrdd, cysylltwch â naill ai:

 

Rebecca Olney, Cangen Nawdd Cymwysterau Cymru ar:

Ffôn: 03000 256959

E-bost: Rebecca.Olney@llyw.cymru

 

 

Helen Bushell, Pennaeth Llywodraethu Corfforaethol Cymwysterau Cymru ar:

Ffôn: 07711 819665

E-bost: Helen.Bushell@cymwysteraucymru.org  


Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.  

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.