Swydd Wag -- Aelodau - Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlwyd y Pwyllgor Cynghori ar Reoliadau Adeiladu yn wreiddiol yn 1962 o dan adran 9 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961 (sydd bellach wedi’i disodli gan adran 14 o’r Ddeddf Adeiladu) i gynghori’r Ysgrifennydd Gwladol priodol ynghylch ymarfer ei bwerau i wneud rheoliadau adeiladu ac ar faterion eraill perthnasol yng Nghymru a Lloegr. Yn ymarferol, gofynnir am farn y Pwyllgor Cynghori ar bob polisi a mater technegol perthnasol sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu yng Nghymru. Mae’r Pwyllgor Cynghori felly’n fwrdd seinio pwysig ar gyfer materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar y diwydiant adeiladu ac, mewn ffordd, ar y diwydiant adeiladwaith ehangach, fel arfer cyn ymgynghori’n ffurfiol â’r holl randdeiliaid.
Penodir aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu fel aelodau annibynnol a fydd yn cynrychioli meysydd arbenigedd a phrofiad penodol, ac nid fel cynrychiolwyr penodol sefydliadau arbennig. Mae’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio’n chwilio am bedwar aelod ychwanegol at aelodau’r Bwrdd presennol i gynrychioli’r meysydd y cyfeirir atynt isod dan ‘Fanyleb y Person’ yn yr ymarfer recriwtio presennol.
Diffinnir y Pwyllgor Cynghori fel panel cynghori statudol ac mae hefyd wedi cael ei ddynodi’n Bwyllgor Cynghori Gwyddonol o dan God Ymarfer y Llywodraeth ar gyfer Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol 2001.
Penodir aelodau Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu gan Weinidogion Cymru. Mae Gweinidogion Cymru’n gyfrifol am wneud a diwygio’r rheoliadau adeiladu yng Nghymru, a byddant yn noddi ac yn ymgynghori â’r Pwyllgor Cynghori drwy swyddogion yn y Gyfarwyddiaeth Gynllunio. Darperir yr Ysgrifenyddiaeth gan y Gyfarwyddiaeth Gynllunio.
Disgrifiad o'r swydd
Cynorthwyo Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu yn ei rôl statudol o ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru (drwy swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gynllunio fel arfer) ar ymarfer eu pwerau i wneud rheoliadau adeiladu yn ymwneud â Chymru, ac ar faterion eraill perthnasol.
Y prif ddyletswyddau:
• Bod yn bresennol ym mhrif gyfarfodydd Pwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu, wedi darllen y papurau a ddarparwyd ymlaen llaw, a rhoi barn a chyngor ar gynigion, a rhannu arbenigedd a phrofiad. Ymateb yn yr un modd i geisiadau am farn a chyngor y gofynnir amdanynt drwy ohebiaeth rhwng cyfarfodydd.
• Eistedd ar Weithgorau’r Pwyllgor Cynghori a grwpiau/paneli eraill, fel y bo’n briodol, er mwyn helpu i ddatblygu polisi a chynigion technegol sy’n ymwneud â rheoliadau adeiladu, ac adrodd yn ôl i’r prif Bwyllgor.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Y Prif Sgiliau a Rhinweddau Personol sy’n Ofynnol
Gallu a pharodrwydd i ddeall a dehongli gwybodaeth sensitif a rhoi sylwadau a chyngor ar faterion polisi – rhai ohonynt y tu allan i’ch maes arbenigedd chi o bosibl;
Doethineb, gwrthrychedd, didueddrwydd a gonestrwydd;
Sgiliau cyfathrebu da, yn enwedig ar lafar, a’r gallu i weithio’n adeiladol gydag eraill ar y Pwyllgor er mwyn cael consensws cyffredinol a i ymgysylltu ag eraill o’r diwydiant er mwyn cefnogi a chyfrannu tuag at waith y Pwyllgor a’r Gyfarwyddiaeth Gynllunio;
Dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol pan fo’n briodol;
Dealltwriaeth glir o ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan ac ymrwymiad iddynt .
Yn ogystal â’r sgiliau a’r rhinweddau personol a amlinellwyd uchod bydd angen i’r aelodau ddangos profiad mewn o leiaf un o’r setiau sgiliau arbenigol a ganlyn:
• Pensaernïaeth
• Rheoli Adeiladu Sector Preifat
• Sector adeiladau tai bach ac/neu fawr
• Adeiladau Busnes
• Cynlluniau Personau Cymwys
• Gwneuthurwyr cynhyrchion Adeiladu neu Ddefnyddiau
• Anghenion pobl anabl
• Syrfëwr meintiau neu Syrfëwr Adeiladu
• Gwasanaethau Adeiladu, Sifil, Peirianneg fecanyddol neu drydanol
• Cynaliadwyedd
Gwybodaeth a Phrofiad Hanfodol
• Hanes blaenorol neu wybodaeth broffesiynol yn y diwydiant adeiladu neu broffesiynau perthnasol i’r sectorau uchod.
• Profiad o ddydd i ddydd yn y sector adeiladu trwy ddefnyddio’r rheoliadau adeiladu a dealltwriaeth o ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol
• Barn gadarn a’r gallu i wneud penderfyniadau a chyfathrebu a gweithio yn effeithiol fel rhan o dîm
Dymunol
• Sgiliau yn y Gymraeg. Rydym yn dymuno dod o hyd i unigolyn sy'n gallu cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae disgwyl i bob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth o broffil ieithyddol Cymru a chefnogi pob ymgais i gydymffurfio â Safonau arfaethedig y Gymraeg.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.