Swydd Wag -- Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog Penodi Aelodau (Cymraeg yn Ddymunol)

Manylion y swydd

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Cynhelir cyfarfodydd yr Awdurdod fel arfer ym Mhencadlys yr Awdurdod Parc Cenedlaethol; Plas y Ffynnon, Cambrian Way, Aberhonddu, neu’n rhithwir trwy MS Teams

Bydd Aelod yn cael ei dalu £4,738 y flwyddyn (caiff lefel y gydnabyddiaeth ariannol ei hadolygu gan y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol ac mae’n seiliedig ar ragdybiaeth o o leiaf 44 niwrnod o waith y flwyddyn, gyda diwrnodau ychwanegol yn cael eu hystyried yn elfen gwasanaeth cyhoeddus). Ystyrir aelodau Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. O ganlyniad, bydd yn rhaid talu trethi ar y ffioedd o dan Atodlen E i’r Ddeddf Trethi a bydd yn rhaid talu Yswiriant Gwladol Dosbarth 1. Caiff y rhwymedigaethau hyn eu didynnu drwy system gyflogres Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a thelir y ffi net i ddeiliad y swydd. Nid yw’r ffioedd yn destun TAW. Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill y gellid eu hysgwyddo wrth wneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o’r Awdurdod o fewn y terfynau cydnabyddedig. Efallai y byddwch hefyd yn gymwys i hawlio addaliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra’n gwneud gwaith ar ran Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ynghylch a fyddech yn gymwys i gael lwfansau gofal, cysylltwch ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog:

44
blwyddyn

Rôl y corff

Beth yw Parciau Cenedlaethol?
Mae Parciau Cenedlaethol yn dirweddau o bwysigrwydd rhyngwladol. Er eu bod yn wledig eu natur yn bennaf, maent yn agos at gymunedau trefol ac mae ganddynt botensial sylweddol i gyfoethogi bywydau pobl Cymru ac ymwelwyr â Chymru, ac i gyfrannu’n gadarnhaol at economi Cymru. Un o dasgau allweddol Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yw helpu i sicrhau y bydd yr ardaloedd arbennig hyn, yn y dyfodol, yn lleoedd â thirwedd, bywyd gwyllt a threftadaeth gyfoethocach a mwy
amrywiol na heddiw, wedi’u mwynhau a’u thrysori gan drawstoriad llawn o gymdeithas.


Beth yw eu Rôl?
Mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ddau ddiben statudol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995:

• gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol;
• hyrwyddo cyfleoedd i'r cyhoedd ddeall a mwynhau rhinweddau arbennig [y Parc].


Yn ogystal â cheisio cyflawni eu dau ddiben statudol, mae gan Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol ddyletswydd i feithrin lles economaidd a chymdeithasol eu cymunedau leol.

Os yw’n ymddangos bod gwrthdaro rhwng y dibenion hyn, bydd mwy o bwys ynghlwm wrth y diben o warchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol yr ardal o fewn y Parc Cenedlaethol.


Cyd-destun strategol Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol
Yn yr hinsawdd sydd ohoni, anaml y bu cyfraniad Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol at flaenoriaethau polisi cenedlaethol strategol allweddol yn fwy; o ran adfer natur ac atal colli bioamrywiaeth; lliniaru newid hinsawdd; datgarboneiddio; yr adferiad gwyrdd; a thwristiaeth gynaliadwy, ymhlith eraill.


Dulliau o weithio
Mae’n ofynnol i bob Awdurdod baratoi Cynllun Rheolaeth y Parc Cenedlaethol.  Mae’r Cynllun yn pennu polisïau ar gyfer rheoli’r Parc ac ar gyfer trefnu a darparu gwasanaethau a chyfleusterau gan yr Awdurdod Parc Cenedlaethol i gyflawni dibenion y Parc Cenedlaethol. Mae’n cynnwys polisïau ar gyfer rheoli’r tir yn y Parc Cenedlaethol ac mae’n gosod y sail ar gyfer cydweithio, nid yn unig gyda sefydliadau cadwraeth statudol a gwirfoddol, ond hefyd â thirfeddianwyr cyhoeddus a phreifat
eraill. Mae ymgynghori wrth baratoi’r Cynllun yn caniatáu i bobl gyfrannu at gyflawni polisïau ymarferol ac mae’n hanfodol ar gyfer cydweithredu cydymdeimladol â phreswylwyr a buddiannau eraill yn y Parc.


Bydd yr Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chynghorau Tref a Chymuned wrth baratoi Cynlluniau Rheolaeth y Parc Cenedlaethol, a bydd yn chwarae rhan allweddol yn natblygiad y Cynllun Datblygu Lleol. Yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol hefyd yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer eu hardal ac maent yn gyfrifol am lunio cynlluniau datblygu ac am reoli datblygu.


Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw'r awdurdod cynllunio lleol ar gyfer Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Rhaid i'r Awdurdod gydbwyso gofynion cynnal economi ffyniannus a chymunedau bywiog ag anghenion y dirwedd ysblennydd hon. Mae Cynllun Datblygu Lleol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn darparu sail ar gyfer cyflawni dibenion statudol yr Awdurdod yn ogystal â hyrwyddo lles cymdeithasol ac economaidd ei gymunedau.


Beth yw eu Strwythur a’u Haelodaeth?
O dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995 a Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 mae’r tri Awdurdod Parc Cenedlaethol Cymreig yn Awdurdodau Lleol â diben arbennig.  Maent yn gyrff corfforaethol sydd â phwerau gweithredol. Mae dibenion y Parciau yr un fath yng Nghymru a Lloegr ond mae aelodaeth yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ym mhob gwlad yn wahanol.


Yng Nghymru, caiff dwy ran o dair o’r seddi eu llenwi gan gynghorwyr Awdurdodau Lleol cyfansoddol i adlewyrchu buddiannau lleol ac un rhan o dair drwy benodiadau a wneir gan Weinidogion Cymru i gynrychioli’r budd cenedlaethol. Wrth benodi aelodau i eistedd ar Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, anogir Awdurdodau Lleol i ddefnyddio cynghorwyr sy’n cynrychioli wardiau naill ai’n gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ffin y Parc. Mae gan bob Aelod statws cyfartal ni waeth pwy sy’n eu penodi i’r
Awdurdod.


Ble mae Awdurdodau y Parciau Cenedlaethol yn cael eu harian?
Mae Gweinidogion Cymru yn darparu’r rhan fwyafrif o’u cyllid i Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ar ffurf Grant y Parc Cenedlaethol. Daw dwy ran o dair o’r Grant o Weinidogion Cymru yn uniongyrchol, gyda’r traean sy’n weddill yn cael ei godi gan yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol o’u Hawdurdodau Lleol cyfansoddol. Mae grant ychwanegol ar gael gan Weinidogion Cymru ar gyfer gwariant cyfalaf penodol. Mae gan Awdurdodau Parciau Cenedlaethol incwm hefyd, er enghraifft, o weithgareddau
masnachu, ffioedd parcio ceir a ffioedd ceisiadau cynllunio. Mae’r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi cyhoeddi llythyr tymor y llywodraeth yn ddiweddar yn nodi blaenoriaethau ac amcanion cytûn ar gyfer yr Awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Yn ogystal, mae’r Awdurdodau Parciau Cenedlaethol yn denu incwm grant sylweddol o ffynonellau ariannu allanol eraill.

Disgrifiad o'r swydd

Mae aelodau Awdurdod y Parc Cenedlaethol (APC) yn gyfrifol, yn unigol ac ar y cyd, i Lywodraeth Cymru am roi arweiniad effeithiol i’r APC, am bennu ei bolisi ac am sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcanion o fewn y fframwaith statudol, polisi ac ariannol a bennwyd ar ei gyfer. Mae gan Aelodau ddyletswydd i weithredu bob amser o fewn y gyfraith, yn ddidwyll ac er budd gorau’r Parc Cenedlaethol, ac i fod yn ofalus wrth sicrhau nad yw eu sefyllfa gyhoeddus yn cael ei pheryglu o blaid buddiannau preifat ar unrhyw adeg, neu’n arwain at amheuaeth bod hyn wedi’i wneud. Mae gennych statws cyfartal ar yr Awdurdod fel pob aelod arall, p’un a yw wedi’i benodi/phenodi gan Weinidogion Cymru neu gan Awdurdod Lleol, er gwaethaf unrhyw brofiad neu sgiliau penodol y gallech chi neu aelodau eraill eu cynnig.


Rôl Aelodau
Mae’n ofynnol i Aelodau APCau ddeall a dangos ymrwymiad i ddibenion y Parc Cenedlaethol a bod yn barod i ymrwymo’r amser sydd ei angen i fynychu cyfarfodydd llawn yr Awdurdod a’r pwyllgorau yn rheolaidd, yn ogystal â digwyddiadau datblygu aelodau, gweithgorau, digwyddiadau, a chynrychioli’r Awdurdod ar gyrff allanol.


Mae tasgau allweddol yn cynnwys:
• Helpu i arwain yr Awdurdod Parc Cenedlaethol wrth ddiffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol ac wrth bennu amcanion heriol;
• Sicrhau bod gweithgareddau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn cael eu cynnal a’u hyrwyddo mewn modd mor effeithlon ac effeithiol â phosib;
• Sicrhau bod strategaethau yn cael eu datblygu i fodloni dibenion a dyletswyddau yr Awdurdod Parc Cenedlaethol, yn unol â polisïau a blaenoriaethau a nodir gan Lywodraeth Cymru;
• Monitro perfformiad yr Awdurdod Parc Cenedlaethol er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau, ei amcanion a’i dargedau perfformiad yn llawn;
• Sicrhau bod rheoli, rheoleiddio a monitro gweithgareddau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol, yn ogystal â rhai unrhyw gyrff eraill y gall eu noddi neu eu cefnogi, yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb a chymryd rhan yn y broses cynllunio gorfforaethol;
• Helpu’r Awdurdod Parc Cenedlaethol i hyrwyddo amcanion datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb a chynhwysiant cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Pa sgiliau neu wybodaeth sydd eu hangen arnoch?
I gael eich ystyried, rhaid i chi fedru dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi. Yr ydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion nad oes ganddynt brofiad blaenorol o weithio ar fyrddau sector cyhoeddus. Dewisir unigolion ar sail teilyngdod, yn erbyn y meini prawf hanfodol ac nid fel cynrychiolwyr sefydliadau neu grwpiau penodol.

Er mwyn llwyddo yn y rôl hon mae’n bwysig eich bod yn gallu cymhwyso eich sgiliau a’ch profiad mewn ffyrdd sy’n helpu i gyflawni’r dibenion statudol y dynodwyd y Parciau Cenedlaethol ar eu cyfer (gweler yr ail baragraff yn Atodiad B).

Bydd yr Awdurdod yn elwa o allu manteisio ar ystod eang o sgiliau a gwybodaeth yn ei aelodaeth. Bydd angen i chi fedru dod â phersbectif cenedlaethol i’w waith, gan gydnabod ei rôl a’i gyfraniad at ddyheadau Cymreig (yn enwedig er lles cenedlaethau’r dyfodol) tra’n adnabod cyfraniad y Parc i fywyd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol bob dydd.


Meini Prawf Hanfodol

  • Y gallu i wneud cyfraniad cryf i Awdurdod y Parc drwy gymryd rhan yn effeithiol ac yn adeiladol ar ei bwyllgorau a’i weithgorau, gan weithio mewn modd colegol ar bob amser;
  • Y gallu i weithredu'n effeithiol mewn rôl strategol neu genedlaethol, gan ddarparu cyfeiriad i dîm gweithredol yr Awdurdod;
  • Y gallu i gyfathrebu’n glir ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd;
  • Gwerthfawrogiad o bolisi ac arfer presennol Parciau Cenedlaethol a dealltwriaeth o gyd-destun Deddfwriaethol a gwleidyddol Cymru mewn perthynas â thirweddau a’r amgylchedd;
  • Dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i’r deg egwyddor yng Ngorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (gweler Atodiad D);
  • Gwybodaeth neu brofiad o hyrwyddo cynhwysiant ac amrywiaeth mewn cyddestun perthnasol. Gallai enghreifftiau gynnwys:
  • profiad byw o anfantais neu allgáu,
  • hyrwyddo cydraddoldeb yn rhagweithiol i bobl â nodweddion gwarchodedig,
  • a/neu unigolion sydd â phrofiad proffesiynol megis mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ariannol ac iechyd, neu chwalu rhwystrau i gynhwysiant.
  • Mae sgiliau a phrofiad mewn un neu fwy o’r meysydd canlynol hefyd yn hanfodol:
  • Yr Argyfwng Hinsawdd a Natur – gweithredu atebion ymarferol a gweithio gyda chymunedau lleol i symud ymlaen â newid;
  • Y cyd-destun newydd ar gyfer cymorth amaethyddol a datblygu gwledig ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd;
  • Cydbwyso’r angen i reoli twristiaeth yn gynaliadwy ag anghenion cymunedau lleol;
  • Archwilio, llywodraethu a chyllid, gyda phwyslais ar ofynion y sector gyhoeddus;
  • Cynllunio gwlad a thref.


Sgiliau dymunol
Gall profiad o weithio i elusen, bod yn ymddiriedolwr, rhedeg busnes neu weinyddiaeth gyhoeddus ar lefel uwch fod yn fanteisiol ond nid yw'n hanfodol o gwbl.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Tachwedd 2022
8 Tachwedd 2022

Dyddiad cau

10/10/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.