Swydd Wag -- Cadeirydd - Cyngor y Celfyddydau Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Cefndir
Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Ariennir Cyngor y Celfyddydau yn bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig o dan y Gyfraith Elusennol ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr y Loteri yng Nghymru.
Dyma amcanion y Cyngor fel y’u nodir yn ei Siarter Frenhinol:
a) i ddatblygu a gwella gwybodaeth am y celfyddydau, eu deall a’u hymarfer;
b) i gynyddu hygyrchedd y celfyddydau i’r cyhoedd;
c) i gynghori a chydweithredu â Llywodraeth Cymru a'r cyrff perthnasol; a
d i gyflawni’r amcanion drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Fel rhan o delerau ac amodau’r cyllid, mae gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldeb fel unigolion ac yn gorfforaethol i Lywodraeth Cymru.
Ynglŷn â Chyngor Celfyddydau Cymru
Fel asiantaeth ariannu a datblygu celfyddydau’r wlad, mae Cyngor y Celfyddydau:
yn cefnogi a datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel – mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, wedi'i ddarparu gan y trethdalwr a’i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, i helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru
yn datblygu ac yn cyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod mecanweithiau, prosesau a gweithdrefnau priodol yn eu lle i gynnal yr agenda strategol a lunnir gan Lywodraeth Cymru, fel y’i nodir yn y ddogfen strategaeth ddiweddaraf (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol
yn dosbarthu arian y Loteri – trwy geisiadau i'w rhaglenni cyllido mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau
yn rhoi cyngor ar y celfyddydau – drwy ei staff a'i ymgynghorwyr, Cyngor y Celfyddydau sydd â'r gronfa fwyaf o arbenigedd a gwybodaeth yn y celfyddydau yng Nghymru
rhannu gwybodaeth – Cyngor y Celfyddydau yw canolfan genedlaethol rhwydwaith o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae ganddo hefyd gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt
yn codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – Cyngor y Celfyddydau yw'r llais cenedlaethol dros y celfyddydau yng Nghymru, gan wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r wlad
yn creu mwy o arian i economi'r celfyddydau - drwy fentrau fel Y Cynllun Casglu - cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celf - a'i waith i sicrhau cyllid Ewropeaidd; mae'r rhain yn dod â mwy o arian i economi'r celfyddydau
yn dylanwadu ar gynllunwyr a phenderfynwyr – mae'r celfyddydau'n digwydd mewn llawer o leoedd gwahanol. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywydau pobl, a'r llefydd y maent yn byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'r celfyddydau hefyd yn aml wrth galon mentrau ar gyfer adfywio economi a chymdeithas, ar gyfer trawsnewid dysgu mewn ysgolion ac ar gyfer hyrwyddo iechyd a lles. Mae Cyngor y Celfyddydau'n chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y cyfraniad y gall y celfyddydau ei wneud yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl y Cadeirydd
Mae'r Cadeirydd yn atebol i Weinidog(ion) Llywodraeth Cymru a gellir ei ddwyn i gyfrif hefyd gan Senedd Cymru / Welsh Parliament. O dan amgylchiadau arferol, rhaid i’r Cyngor a’r Gweinidog gyfathrebu â’i gilydd drwy'r Cadeirydd. Rhaid i'r Cadeirydd sicrhau bod aelodau eraill y Cyngor yn cael gwybod am unrhyw gyfathrebu o’r fath.
Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithredoedd y Cyngor yn cefnogi polisïau strategol ehangach y Gweinidog, a bod y Corff yn gwneud ei waith ag uniondeb. Lle bo hynny’n briodol, rhaid i'r Cadeirydd drefnu bod y polisïau a'r gweithredoedd hyn yn cael eu cyfathrebu a’u rhannu â phob rhan o’r Corff.
Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau penodol fel arweinydd am:
lunio strategaethau'r Cyngor;
sicrhau bod y Cyngor, wrth wneud penderfyniadau, yn ystyried mewn ffordd briodol ofynion statudol a rheolaeth ariannol a'r holl ganllawiau perthnasol gan gynnwys canllawiau a ddarperir gan Weinidogion Cymru;
datblygu perthynas gref ac effeithiol â’r Cyngor a'r sector ehangach.
goruchwylio cynnydd cyffredinol tîm uwch arweinwyr Cyngor Celfyddydau Cymru, gan gynnwys y Prif Weithredwr.
hyrwyddo defnydd darbodus, effeithlon ac effeithiol o staff ac adnoddau eraill;
sicrhau safonau uchel o reoleidd-dra, uniondeb a llywodraethiant; a
cynrychioli barn y Cyngor gerbron y cyhoedd.
Rhaid i'r Cadeirydd hefyd:
sicrhau bod holl aelodau'r Cyngor yn cael eu briffio'n llawn ar delerau eu hapwyntiad ac ar eu dyletswyddau, eu hawliau a'u cyfrifoldebau;
arwain y cyngor i ehangu mynediad a chreu sector a sefydliad Celfyddydau cynhwysol, yn unol â Chynllun Gweithredu Cyngor Celfyddydau Cymru ar Ehangu Ymgysylltiad a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru, y Fframwaith Gweithredu ar Anabledd a’r Cynllun Gweithredu LHDTQ.
goruchwylio pob rhan o’r broses Adolygu Buddsoddiant a’r newid i'r model diwygiedig.
sicrhau bod holl aelodau'r Cyngor yn cael hyfforddiant priodol, gan gynnwys ar ofynion elusennau a chyrff sector cyhoeddus o ran rheolaeth ariannol a pharatoi adroddiadau ac ar y gwahaniaethau a allai fodoli rhwng ymarfer yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus;
sicrhau bod y Cyngor yn meddu ar y cydbwysedd sgiliau sy'n briodol i gyfarwyddo busnes y Corff;
pan fydd penodiadau i swyddi ar y Cyngor yn cael eu gwneud gan y Gweinidog, cynghori'r Gweinidog ar anghenion y Corff;
asesu perfformiad aelodau unigol y Cyngor yn unol â'r trefniadau y cytunwyd arnynt gyda'r tîm partneriaeth, ac asesu perfformiad y Prif Weithredwr.
sicrhau bod cod ymddygiad priodol ar gyfer aelodau'r Cyngor, gan gynnwys rheolau a chanllawiau ynghylch buddiannau a gwrthdaro buddiannau aelodau'r Cyngor.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Meini Prawf Hanfodol
Yn eich cais, bydd disgwyl i chi ddangos eich bod yn gallu bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol, a fydd yn cael eu profi ymhellach mewn cyfweliad:
- Profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad cymhleth, aml-ddisgyblaethol, a'r gallu i weithredu mewn amgylchedd o newid;
- Ymrwymiad cryf i ddatblygu rôl y celfyddydau ledled Cymru a meddu ar wybodaeth eang am y sectorau celfyddydol, diwylliant, treftadaeth a/neu’r diwydiannau creadigol. Gwerthfawrogiad o'r cyd-destunau diwylliannol, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn gweithredu ynddynt; ac o’i rwymedigaethau dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- Prawf o gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb. Ymrwymiad y gellir ei ddangos i ehangu mynediad a chyfranogiad yn y celfyddydau ledled Cymru;
- Gallu dangos tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da, atebolrwydd a chyfrifoldeb ariannol, gan gynnwys cyllid y sector cyhoeddus yn ddelfrydol;
- Profiad o wneud penderfyniadau cadarn ac o roi arweiniad wrth ddatblygu atebion a strategaethau strategol, creadigol a diduedd i gyflawni nodau tymor hir;
- Dangos y gallu i feithrin perthynas effeithiol ar draws sectorau a gweithredu fel llysgennad i'r celfyddydau. Yn ennyn hyder rhanddeiliaid ar bob lefel, gan gynnwys Gweinidogion;
- Ymrwymiad i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan..
Meini Prawf Dymunol:
- Profiad o'r diwydiannau celfyddydol, diwylliannol, treftadaeth neu greadigol mewn cyd-destun Cymreig.
- Y Gymraeg (fel y nodir isod) neu ymrwymiad i ddatblygu'r sgiliau hyn o fewn dwy flynedd
- Profiad neu ddealltwriaeth o weithgareddau masnachol a chreu incwm, gan gynnwys codi arian, a'r gallu i gymhwyso hyn i sefydliadau celfyddydol, a/neu
- Profiad neu ddealltwriaeth o gymhwyso technoleg ddigidol er mwyn hyrwyddo’r celfyddydau a’u gwneud yn gynaliadwy.
Rydym yn croesawu ceisiadau yn arbennig gan fenywod, pobl anabl a phobl ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.