Swydd Wag -- Aelod Annibynnol (Technoleg Gwybodaeth) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd bob deufis fel arfer mewn gwahanol leoliadau ar draws y Bwrdd Iechyd, ond oherwydd COVID 19 mae'r rhain yn cael eu cynnal yn rhithwir ar hyn o bryd. Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol amrywiol bwyllgorau hefyd, a chynhelir y cyfarfodydd naill ai bob deufis neu'n chwarterol.
£15,936 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn un o sefydliadau mwyaf y GIG yn Ewrop. Rydym yn cyflogi rhyw 14,500 o staff, ac yn gwario rhyw £1.4 biliwn y flwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws y De a'r Canolbarth ar gyfer ystod o feysydd arbenigol.

Ein gweledigaeth yw creu cymuned lle nad yw'ch cyfle i fyw bywyd yn iach yn dibynnu ar bwy ydych chi na ble rydych yn byw. 

Disgrifiad o'r swydd

Bydd angen i chi ddangos:

  • Dealltwriaeth o sut y gall rheoli gwybodaeth a thechnoleg ddigidol helpu i wella iechyd a gofal cymdeithasol;
  • Sut y gellir defnyddio gwybodaeth a data i gefnogi darparu gofal iechyd a chymdeithasol diogel o ansawdd uchel; a
  • Dealltwriaeth o lywodraethu gwybodaeth mewn perthynas ag ansawdd, diogelwch, diogeledd a chywirdeb a defnydd effeithiol o wybodaeth;
  • Profiad o ddefnyddio technolegau digidol i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
  • Dealltwriaeth o bolisi a chyd-destun cyfreithiol rheoli gwybodaeth a thechnoleg ddigidol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Bydd angen i chi allu dangos y canlynol hefyd:

Y gallu i “Roi Cleifion yn Gyntaf”.

Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill.

Y gallu i werthfawrogi a pharchu eraill.

Y gallu i gyfathrebu'n agored ac yn onest.

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael eich penodi.

Dyddiadau cyfweliadau

30 Tachwedd 2020
4 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

30/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus:  Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol,  cysylltwch â Charles Janczewski, Caerdydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. Ffôn: 029 2183 6011 E-bost: Charles.Janczewski@wales.nhs.uk 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ewch i'w gwefan: http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/home

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.