Swydd Wag -- Cadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn gwasanaethu cymunedau ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Cwm Rhymni Uchaf, De Powys, Gogledd Caerdydd a Gorllewin y Fro. Mae pencadlys y Bwrdd Iechyd yn Nhŷ Ynysmeurig yn Abercynon, lle cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd y Bwrdd a'r Pwyllgor. Weithiau, cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd mewn lleoliadau eraill o fewn ardal y Bwrdd Iechyd. Disgwylir i Gadeiryddion fod yn bresennol mewn digwyddiadau a gweithgareddau a gynhelir yn ardal y Bwrdd Iechyd hefyd.
£59,760 y flwyddyn. Bydd hawl gennych gael ad-daliad, os yw'n briodol, yn erbyn derbynebau ar gyfer costau teithio a chynhaliaeth a fydd yn codi wrth wneud gwaith i'r Bwrdd Iechyd. Rhaid hawlio treuliau o fewn tri mis o fynd i gostau, oni bai bod amgylchiadau eithriadol. Gellid talu costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill, os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol eraill a fydd yn codi wrth wneud gwaith i'r Bwrdd Iechyd.
15
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf, sy'n cynnwys tua 289,400 o bobl. Mae'r Bwrdd Iechyd yn darparu ystod lawn o wasanaethau ysbyty a gwasanaethau cymunedol, ac yn cyflogi 8,111 o aelodau o staff - sy'n golygu mai'r Bwrdd Iechyd yw'r ail gyflogwr mwyaf yn yr ardal. Mae gwasanaethau'r Bwrdd Iechyd yn cael eu darparu hefyd i bobl sy'n byw yn ardaloedd cyfagos Blaenau Cwm Rhymni, De Powys, Gogledd Caerdydd a Gorllewin y Fro. Yn ychwanegol, caiff rhai gwasanaethau arbenigol eu darparu i ddalgylch ehangach y De.

Rôl y bwrdd

Y tair rôl allweddol sy'n rhan o waith Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i gynnig arweinyddiaeth i'r sefydliad yw:-

• Llunio strategaeth

• Sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y sefydliad i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy

• Ffurfio diwylliant cadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad

Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:-

• Strategaeth – cyfrannu at ddatblygiad strategol a gwneud penderfyniadau

• Perfformiad – sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn ogystal â thîm effeithiol yn gweithredu ar lefel uchaf y sefydliad. Helpu i egluro pa benderfyniadau sydd i'w gwneud gan y Bwrdd ac yna sicrhau bod y gweddill yn cael eu dirprwyo'n glir a dwyn y rheolwyr i gyfrif am eu perfformiad o ran bodloni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt trwy herio a chraffu'n bwrpasol, a monitro'r gwaith o adrodd am berfformiad

• Risg – sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn

• Ymddygiad – cynnal y safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a chywirdeb a chydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymddygiad. Dylai aelodau'r bwrdd ddangos trwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, y sefydliad a'i randdeiliaid

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd yn atebol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon am berfformiad y Bwrdd ac am ei lywodraethu'n effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.

Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:-

• Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws ystod eang o gyfrifoldebau'r Bwrdd Iechyd; yn fewnol drwy'r Bwrdd ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel ehangach y gymuned, yr awdurdodau lleol, y Bwrdd Iechyd Lleol ac yn genedlaethol. Mae hyn yn cynnwys gweithio’n genedlaethol ochr yn ochr â Chadeiryddion Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill;

• Yn sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni'n effeithiol ar y cyd nodau strategol a gweithredol yr Ymddiriedolaeth drwy fodloni nodau, polisïau ac amcanion llywodraethu strategol;

• Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd, ynghyd â chanlyniadau i’r cyhoedd a’r cleifion;

• Yn atebol am berfformiad y Bwrdd Iechyd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol, trwy gytuno ar gynllun cyflawni blynyddol a chynnal gwerthusiad blynyddol o’r llwyddiant yn erbyn y cynllun - yn gyhoeddus gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon;

• Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau a sicrhau datblygiad Tîm Gweithredol effeithiol sy’n canolbwyntio ar gyflawni a chanlyniadau i’r Bwrdd;

• Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu. Mae hyn yn golygu cydweithio a chefnogi enghreifftiau o gynllunio rhanbarthol a chenedlaethol ochr yn ochr â’r amcanion lleol;

• Yn rhoi sicrwydd ac yn llywodraethu'r gwaith o ofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt drwy weithio gyda’r Prif Weithredwr;

• Yn rhoi sicrwydd drwy gadarnhau bod y Bwrdd Iechyd Lleol yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru drwy weithio gyda’r Prif Weithredwr a’r Bwrdd;

• Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Bydd y Cadeirydd yn arddangos y rhinweddau canlynol:-

Gwybodaeth a Phrofiad

• Deall problemau a blaenoriaethau iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'r gallu i ddeall ei rôl a'i waith;

• Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

• Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

• Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae cymhwyso arferion llywodraethu i waith rheoli corfforaethol a chlinigol ac wrth reoli gwybodaeth.

Priodoleddau a Sgiliau Personol

• Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, i edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd Iechyd;

• Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn;

• Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau’r tymor hir a’r tymor byr;

• Sgiliau cyfathrebu gwych, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel

• Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;

• Y gallu i sicrhau bod y bwrdd yn cydweithio’n effeithiol drwy gymryd rhan weithgar yn y broses o wneud penderfyniadau cadarn a thryloyw a chymell a datblygu'r bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau i sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd.

• Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol

• Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

Rhaid i'r Cadeirydd hefyd ddangos:-

Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

27 Ebrill 2017
4 Mai 2017

Dyddiad cau

09/03/17 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch rôl y Cadeirydd, cysylltwch â Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru neu Dr Christopher Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf.

Ffôn: 029 2080 1182 (Dr Goodall) neu 01443 744803 (Dr Christopher Jones).

E-bost: Andrew.Goodall@wales.gsi.gov.uk neu Christopher.D.V.Jones@wales.nhs.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, ewch i'w gwefan: http://cwmtaf.wales/we-are-cwm-taf/

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Wedi ichi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. Bydd rhaid ichi gyflwyno dwy ddogfen i gefnogi eich cais. Dogfen yn ateb y cwestiynau ar dudalen 3 & 4 y ddogfen gwybodaeth i ymgeiswyr yw'r gyntaf. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosibl y bydd eich cais yn cael ei wrthod os byddwch chi’n mynd dros y terfyn hwn, neu'n methu ag ateb y cwestiynau yn eich dogfen ategol. Bydd hefyd o fantais i'r panel dewis os byddwch yn dangos yn glir pa dystiolaeth benodol sy'n berthnasol i ba gwestiwn. Yr arfer cyffredin yw darparu paragraffau unigol mewn perthynas â phob cwestiwn. Bydd y panel dewis yn asesu'r ceisiadau yn erbyn y meini prawf hyn wrth benderfynu pa ymgeiswyr fydd yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer y cam nesaf.

Yr ail ddogfen fydd angen ichi ei chyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 029 2082 5454 neu drwy anfon e-bost i DesgGymorthCydwasanaethau@cymru.gsi.gov.uk

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.