Swydd Wag -- Penodi Aelodau - Bwrdd Cynghori’r ar yr Economi a Thrafnidiaeth (Cymraeg Hanfodol)

Manylion y swydd

Bwrdd Cynghori’r ar yr Economi a Thrafnidiaeth
Cynhelir cyfarfodydd yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru a byddant yn cael eu cynnal y tu allan i Gaerdydd o dro i dro.
Gall Cadeirydd y Bwrdd hawlio tâl o £282 y cyfarfod yn ogystal â threuliau.
6
blwyddyn

Rôl y corff

Established in May 2018 on an initial transition basis, a public appointments process is now taking place to finalise the membership for the longer-term.

The Board will comprise 12 members including a Chair and will provide regular, creative and high-quality advice to the Cabinet Secretary for Economy and Transport to help improve economic development in Wales in line with the priorities and vision set out in the Economic Action Plan.

Disgrifiad o'r swydd

Mae Llywodraeth Cymru’n gwerthfawrogi cyngor perthnasol, amserol o ansawdd da gan ffynonellau allanol ac mae Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth (y Bwrdd) yn bodoli i gryfhau’r capasiti hwnnw i ddarparu cyngor allanol cadarn a heriol.

Bydd y Bwrdd yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:

  • Darparu cyngor rheolaidd, creadigol o ansawdd uchel i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i helpu i wella datblygiad economaidd yng Nghymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r weledigaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
  • Sganio’r gorwel i amlygu meysydd lle bydd yna heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, gan ddefnyddio arbenigedd unigolion a chyfunol i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n cyfiawnhau sylw pellach gan felly helpu i lywio rhaglen waith y Bwrdd.
  • Ymateb i geisiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet ac uwch swyddogion am gyngor, gan herio a phrofi materion, polisïau a chynigion allweddol fel y bo’n briodol.
  • Nodi arferion gorau a gwersi gan wledydd a rhanbarthau eraill yn y DU a thramor; a dangos sut gellid defnyddio enghreifftiau o’r fath i lywio ffordd o feddwl yng Nghymru.
  • Awgrymu materion penodol a fyddai’n elwa ar adolygiadau byr, cyflym a gynhelir gan grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol neu arbenigedd ychwanegol y gallai fod angen ei gyfethol o dro i dro i’r Bwrdd yn dibynnu ar ei raglen waith.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol

Manyleb y person

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y meini prawf hanfodol canlynol:

  • Gwybodaeth am y busnes a’r amgylchedd economaidd a’r heriau cyfredol, tueddiadau’r dyfodol, a chyfleoedd ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
  • Ymwybyddiaeth o’r arferion gorau yn rhyngwladol ym maes datblygu economaidd.
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol lle bo’n briodol; ac
  • Ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan.

Y Gymraeg

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Mae dwy swydd ar y Bwrdd yn gofyn am y Gymraeg fel sgil hanfodol.

Dylai pob ymgeisydd ddangos ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarnhaol o bwysigrwydd y Gymraeg mewn Cymru ddwyieithog gyda gwerthfawrogiad o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith.

Dyddiadau cyfweliadau

9 Ionawr 2019
9 Ionawr 2019

Dyddiad cau

03/12/18 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Nodwch os gwelwch yn dda, byddwn yn ystyried eich ceisiadau ar y dyddiadau cyfweliad a nodwyd uchod.  Fel nodwyd yn y ddogfen ‘Gwybodaeth i Ymgeiswyr’ uchod, ni fyddwn yn cynnal cyfweliadau ar gyfer y penodiadau hyn, ond byddwn yn penodi ar sail ystyriaeth o’ch cais gan y panel.  

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:

 

Penodiadau Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth a rôl y Cadeirydd cysylltwch ag Emma Watkins, Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru.

 

Ffôn: 03000 257783

E-bost: Emma.Watkins@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â’r Uned Penodiadau Cyhoeddus ar 03000 61 6095 neu e-bostiwch penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

 

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.