Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd - Bwrdd Cynghori’r ar yr Economi a Thrafnidiaeth
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Llywodraeth Cymru’n gwerthfawrogi cyngor perthnasol, amserol o ansawdd da gan ffynonellau allanol ac mae Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth (y Bwrdd) yn bodoli i gryfhau’r capasiti hwnnw i ddarparu cyngor allanol cadarn a heriol.
Bydd y Bwrdd yn cyflawni’r dyletswyddau canlynol:
- Darparu cyngor rheolaidd, creadigol o ansawdd uchel i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth i helpu i wella datblygiad economaidd yng Nghymru yn unol â’r blaenoriaethau a’r weledigaeth a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu ar yr Economi.
- Sganio’r gorwel i amlygu meysydd lle bydd yna heriau a chyfleoedd yn y dyfodol, gan ddefnyddio arbenigedd unigolion a chyfunol i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n cyfiawnhau sylw pellach gan felly helpu i lywio rhaglen waith y Bwrdd.
- Ymateb i geisiadau gan Ysgrifennydd y Cabinet ac uwch swyddogion am gyngor, gan herio a phrofi materion, polisïau a chynigion allweddol fel y bo’n briodol.
- Nodi arferion gorau a gwersi gan wledydd a rhanbarthau eraill yn y DU a thramor; a dangos sut gellid defnyddio enghreifftiau o’r fath i lywio ffordd o feddwl yng Nghymru.
- Awgrymu materion penodol a fyddai’n elwa ar adolygiadau byr, cyflym a gynhelir gan grwpiau gorchwyl a gorffen pwrpasol neu arbenigedd ychwanegol y gallai fod angen ei gyfethol o dro i dro i’r Bwrdd yn dibynnu ar ei raglen waith.
Disgrifiad o'r swydd
Bydd disgwyl i’r Cadeirydd:
- Gadeirio cyfarfodydd y Bwrdd.
- Darparu gweledigaeth ac arweinyddiaeth rhagorol.
- Darparu mewnbwn diduedd ac annibynnol i drafodaethau, a chasglu safbwyntiau gwahanol ynghyd ar y materion dan sylw.
- Meithrin perthynas waith agos ag arbenigwyr a sefydliadau.
- Gweithio gyda’r ysgrifenyddiaeth i sicrhau cofnodion digonol a chyhoeddedig o’r holl gyfarfodydd.
- Mynychu cyfarfodydd y Gweinidog os oes angen.
- Sicrhau cydymffurfiaeth â’r Safonau a geir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus.
- Rheoli perfformiad aelodau’r bwrdd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y meini prawf hanfodol canlynol:
- Gwybodaeth am y busnes a’r amgylchedd economaidd a’r heriau cyfredol, tueddiadau’r dyfodol, a chyfleoedd ar lefel Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.
- Y gallu i feddwl a gweithredu’n strategol ac adlewyrchu hyn wrth ddarparu cyngor cadarn.
- Ymwybyddiaeth o’r arferion gorau yn rhyngwladol ym maes datblygu economaidd.
- Dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i faterion cydraddoldeb ac arferion gwahaniaethol heriol lle bo’n briodol; ac
- Ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Nodwch os gwelwch yn dda, byddwn yn ystyried eich ceisiadau ar y dyddiadau cyfweliad a nodwyd uchod. Fel nodwyd yn y ddogfen ‘Gwybodaeth i Ymgeiswyr’ uchod, ni fyddwn yn cynnal cyfweliadau ar gyfer y penodiadau hyn, ond byddwn yn penodi ar sail ystyriaeth o’ch cais gan y panel.
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â’r:
Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Bwrdd Cynghori’r Gweinidog ar yr Economi a Thrafnidiaeth a rôl y Cadeirydd cysylltwch ag Emma Watkins, Polisi Economaidd, Llywodraeth Cymru.
Ffôn: 03000 257783
E-bost: Emma.Watkins@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â’r Uned Penodiadau Cyhoeddus ar 03000 61 6095 neu e-bostiwch penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.