Swydd Wag -- Penodi 6 Aelod - Cyngor y Gweithlu Addysg
Manylion y swydd
Ni fydd yr Aelodau yn cael eu talu am eu gwasanaeth ond byddant yn cael costau teithio, cynhaliaeth a threuliau eraill sy'n gysylltiedig â'u gwaith i'r Cyngor.
Y Cyngor fydd yn penderfynu ynghylch ad-dalu costau a ysgwyddir gan gyflogwyr aelodau'r Cyngor wrth iddynt ymgymryd â gwaith y Cyngor. Fel arfer, gall cyflogwr hawlio'r gyfradd gyflenwi ddyddiol, yn ddibynnol ar gyflogaeth yr aelod.
Yn achos aelod sy'n hunangyflogedig, gall y Cyngor ad-dalu unrhyw golledion sy'n deillio o fusnes y Cyngor, hyd at lefel y gyfradd gyflenwi ddyddiol gyfwerth. Bydd angen tystiolaeth o statws cyflogedig – a thystiolaeth o'r colledion eu hunain – i gefnogi unrhyw hawliad. Y Cyngor fydd yn penderfynu ar y gyfradd a delir mewn ad-daliad o'r fath. Telir symiau o'r fath drwy system gyflogres y Cyngor, gydag unrhyw ddidyniadau statudol wedi'u gwneud.
Rôl y corff
Cyngor y Gweithlu Addysg yw'r rheoleiddiwr annibynnol yng Nghymru ar gyfer athrawon a staff cymorth mewn ysgolion a gynhelir a lleoliadau Addysg Bellach, yn ogystal â Gweithluwr Cymorth Ieuenctid a phobl sydd ynghlwm wrth ddysgu seiliedig ar waith.
- O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, prif amcanion a swyddogaethau'r Cyngor yw: cyfrannu at wella safonau addysgu ac ansawdd y dysgu yng Nghymru;
- cynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol ymysg athrawon a phobl eraill sy'n cefnogi addysgu a dysgu yng Nghymru;
- diogelu buddiannau dysgwyr, rhieni a'r cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn y gweithlu addysg.
Mae'r Cyngor yn gyfrifol am:
- sefydlu a chynnal Cofrestr Ymarferwyr Addysg;
- cynnal Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol ar gyfer y gweithlu addysg;
- ymchwilio i, a gwrando ar, honiadau o ymddygiad proffesiynol annerbyniol, anghymhwysedd proffesiynol difrifol neu droseddau perthnasol a allai fwrw amheuaeth ar briodoldeb ymarferydd i ymarfer;
- achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon a monitro cydymffurfiaeth â meini prawf cenedlaethol;
- darparu cyngor i Lywodraeth Cymru ac eraill ynghylch materion sy'n gysylltiedig â'r gweithlu addysg ac addysgu a dysgu;
- monitro Sefydlu a gwrando ar apeliadau Sefydlu (lle y bo'n berthnasol) ar gyfer athrawon;
- hybu gyrfaoedd yn y gweithlu addysg;
- ymgymryd â gwaith penodol mewn perthynas ag addysgu a dysgu ar gais Llywodraeth Cymru.
Ariennir Cyngor y Gweithlu Addysg gan ffioedd cofrestru ymarferwyr, ond mae'n derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gweithgareddau canlynol yr ymgymerir â hwy ar ein rhan:
- gweinyddu dyfarnu Statws Athro Cymwys (SAC);
- Trefniadau cyllido, olrhain a chofnodi ar gyfer Sefydlu, y Radd Meistr mewn Ymarfer Addysgol a Datblygiad Proffesiynol Cynnar;
- datblygu a chynnal y Pasbort Dysgu Proffesiynol;
- gwrando ar apeliadau Sefydlu a chyhoeddi tystysgrifau Sefydlu;
- Achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon.
O dan Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, prif amcanion a swyddogaethau'r Cyngor yw.
Yr Aelodau
Mae gan Gyngor y Gweithlu Addysg bedwar aelod ar ddeg. Penodir saith aelod yn uniongyrchol drwy system penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru a phenodir saith aelod yn dilyn enwebiadau gan ystod o randdeiliaid a restrir yn yr Atodlen i Reoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Aelodaeth a Phenodi) (Cymru) 2014 (fel y'i diwygiwyd). Penodir aelodau'r Cyngor am gyfnod o bedair blynedd. Y Cyngor sy'n gosod ei gyfeiriad strategol ei hun, ac ef sy'n gyfrifol am ei lywodraethiant.
Bydd gan y Cyngor bwyllgorau sefydlog amrywiol a fydd yn cynnwys aelodau o'r Cyngor. Y Cyngor fydd yn penderfynu ar enw bob pwyllgor.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am waith 'Cyngor y Gweithlu Addysg' drwy anfon e-bost i ewc.enquires@llyw.cymru. www.cga.cymru.
Ysgrifenyddiaeth
Darperir cefnogaeth ysgrifenyddiaeth i'r Bwrdd gan yr EWC ei hun.
Bydd gan y Cyngor nifer o bwyllgorau sefydlog a fydd yn cynnwys aelodau'r Cyngor. Bydd y Cyngor yn penderfynu enw pob pwyllgor.
Mae rhagor o wybodaeth am waith 'Cyngor y Gweithlu Addysg' ar gael drwy e-bostio ewc.enquires@llyw.cymru neu drwy fynd i www.ewc.wales.
Disgrifiad o'r swydd
Disgwylir i Aelodau'r Cyngor:
- sicrhau y caiff safonau uchel eu cadw bob amser o ran gweinyddu a gwneud penderfyniadau;
- rhoi trywydd cyffredinol i'r Cyngor drwy oruchwylio'r gwaith o lunio'r Cynllun Strategol;
- sicrhau'r canlyniadau disgwyliedig drwy fonitro perfformiad yn erbyn amcanion a thargedau strategol y cytunwyd arnynt;
- sicrhau nad yw'r Cyngor yn gweithredu tu hwnt i'w rymoedd a'i swyddogaethau, rhai sydd wedi'u diffinio'n statudol neu fel arall, neu unrhyw gyfyngiadau gwariant a nodir yn nhelerau ac amodau Llywodraeth Cymru. Cynghorir aelodau ar y materion hyn fel arfer gan Brif Weithredwr y Cyngor a'i gynghorwyr cyfreithiol;
- parchu penderfyniadau a pholisïau'r Cyngor yn gyhoeddus. Mae aelodau'n Gweithiuo'n gydweithredol ac yn cydnabod bod penderfyniadau'n cael eu gwneud gan fwyafrif, hyd yn oed os ydynt yn anghytuno â'r penderfyniadau hynny.
- meddu ar ddealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da.
I sicrhau bod eich cais yn cael ei brosesu’n gywir, a fyddwch cystal â nodi ar eich datganiad personol os ydych yn ymgeisio am swydd enwebedig. Os ydych, a wnewch chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol:
Manylion y Corff / Sefydliad sydd yn enwebu (os nad ydych wedi’ch enwebu, os na chaiff ei enwebu, anwybyddwch)
Corff / Sefydliad sydd yn enwebu:
Enw’r person sydd yn gwneud yr enwebiad:
Cyfeiriad y Corff / Sefydliad:
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- ddealltwriaeth glir o faterion sy'n ymwneud ag addysg yng Nghymru ac amcanion y Cyngor
- dealltwriaeth o bwysigrwydd cofrestru'n broffesiynol a rheoleiddio'r gweithlu addysg ehangach, a'r manteision sydd ynghlwm wrth wneud hynny
- dealltwriaeth glir o swyddogaethau ac amcanion strategol y Cyngor, a blaenoriaethau ei randdeiliaid;
- mynychu cyfarfodydd, gan baratoi ar eu cyfer a chyfrannu atynt yn llawn;
- darllen, ystyried a dadansoddi dogfennau cymhleth a chyfrannu at drafodaethau ar lefel strategol;
- cyfathrebu'n effeithiol, gan wrando, dylanwadu a herio mewn ffordd adeiladol;
- bod yn rhan o wneud penderfyniadau gan gyfrannu barn ddoeth;
- datblygu cydberthnasau effeithiol a Gweithluo'n dda fel rhan o dîm;
- dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion gwahaniaethol;
- ymrwymiad i Safonau'r Gymraeg a arddelir gan y Cyngor;
- ymrwymiad i 'Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus' Nolan, a'r tair egwyddor ychwanegol a amlinellir yn y Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 (paragraff 4);
- cydymffurfio â'r Cod Ymddygiad ac Arferion Da ar gyfer Aelodau;
- fel y nodir yn adran 3(5) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg (Cymru) 2014, gweithredu fel unigolyn nid fel cynrychiolydd corff neu sefydliad y mae'n aelod ohono, nac unrhyw berson, corff neu sefydliad sydd wedi enwebu'r unigolyn dan sylw.
- dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da.
Sgiliau yn y Gymraeg
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru Gweithluo yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Sgiliau yn y Gymraeg - Hanfodol
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cyswllt:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyngor y Gweithlu Addysg a rôl yr Aelod, cysylltwch â Nick Srdic ymlaen:
Ffôn: 030000 253973
E-bost: Nick.Srdic@llyw.cymru
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.