Swydd Wag -- Penodi 2 Aelod - Cyngor Celfyddydau Cymru (Cymraeg Hanfodol)
Manylion y swydd
Rôl y corff
A ydych yn credu y gall y celfyddydau newid bywydau?
A ydych yn credu y dylent fod ar gael i bawb?
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn credu y pethau hyn ac wedi ymrwymo i sicrhau diwylliant bywiog, amrywiol a chynhwysol a sector celfyddydau sy'n gynaliadwy ac arloesol.
Cefndir
Sefydlwyd Cyngor Celfyddydau Cymru drwy Siarter Frenhinol ym 1994. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a ariennir yn bennaf drwy gymorth grant gan Lywodraeth Cymru. Mae hefyd yn elusen gofrestredig yn ddarostyngedig i'r Gyfraith Elusennau ac mae'n un o bedwar Dosbarthwr Loteri yng Nghymru.
Fel a nodir yn y Siarter Brenhinol, swyddogaeth y Cyngor yw:
a) datblygu a gwella gwybodaeth am y celfyddydau, y ddealltwriaeth ohonynt a’u hymarfer;
b) sicrhau bod y celfyddydau yn fwy hygyrch i’r cyhoedd yng Nghymru;
c) cynghori Llywodraeth Cymru a chyrff perthnasol eraill a chydweithio â hwy
ch) cyflawni'r swyddogaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Diffinnir rôl Aelodau'r Cyngor yn Nogfen y Fframwaith Rheoli. Fel rhan o delerau ac amodau'r cyllid, mae gan Aelodau'r Cyngor gyfrifoldebau unigol a chorfforaethol i Lywodraeth Cymru.
Ynglŷn â Cyngor Celfyddydau Cymru
Yn rhinwedd ei swyddogaeth fel asiantaeth cyllido a datblygu'r celfyddydau yng Nghymru, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn:
cefnogi ac yn datblygu gweithgarwch celfyddydol o ansawdd uchel - mae'n buddsoddi arian cyhoeddus, sy'n cael ei ddarparu gan y trethdalwyr, a'i ddyrannu gan Lywodraeth Cymru, gan helpu'r celfyddydau i ffynnu yng Nghymru
datblygu a chyflawni blaenoriaethau strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer y celfyddydau – mae'n sicrhau bod dulliau, prosesau a gweithdrefnau priodol ar waith i gyflawni yn erbyn yr agenda strategol a osodir gan Lywodraeth Cymru, fel a amlinellir yn y brif ddogfen strategaeth (y Rhaglen Lywodraethu ar hyn o bryd) a'r llythyr Cylch Gwaith Blynyddol
dosbarthu cyllid y Loteri – yn sgil derbyn ceisiadau i'w raglenni cyllid, mae'n buddsoddi mewn prosiectau sy'n datblygu gweithgarwch celfyddydol newydd, gan gefnogi unigolion a sefydliadau
rhoi cyngor am y celfyddydau – mae staff a chynghorwyr Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynrychioli'r ffynhonnell fwyaf o arbenigedd a gwybodaeth ym maes y celfyddydau yng Nghymru
rhannu gwybodaeth – mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn ganolbwynt cenedlaethol ar gyfer rhwydwaith o wybodaeth am y celfyddydau yng Nghymru. Mae gan y Cyngor hefyd gysylltiadau rhyngwladol cryf yn y DU a thu hwnt
codi proffil y celfyddydau yng Nghymru – mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn llais cenedlaethol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru, gan sicrhau bod pobl yn ymwybodol o ansawdd, gwerth a phwysigrwydd celfyddydau'r genedl
cynhyrchu mwy o arian ar gyfer economi'r celfyddydau – mae mentrau fel y Cynllun Casglu - sef cynllun y Cyngor i annog mwy o bobl i brynu celf - a'r gwaith i sicrhau cyllid Ewropeaidd, yn dod â mwy o arian i mewn i economi'r celfyddydau
dylanwadu ar gynllunwyr a phenderfynwyr – mae'r celfyddydau ar gael mewn llawer o wahanol leoliadau. Maent yn gallu cael effaith ddramatig ar ansawdd bywyd pobl, ac ar y lleoedd y maen nhw'n byw ac yn gweithio ynddynt. Mae'r celfyddydau hefyd yn aml yn ganolog i fentrau ar gyfer adfywio cymdeithasol ac economaidd. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwarae rôl allweddol i sicrhau bod cyfraniad y celfyddydau yng Nghymru yn cael ei gydnabod, ei werthfawrogi a'i ddathlu.
Disgrifiad o'r swydd
Swyddogaeth a chyfrifoldebau
Swyddogaeth Aelod o'r Cyngor
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, caiff swyddogaeth Aelod o'r Cyngor ei ddiffinio fel Dogfen Fframwaith Rheoli sydd hefyd yn rhoi amlinelliad o delerau ac amodau cyllid Llywodraeth Cymru i Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn pennu'r agenda strategol ar gyfer y celfyddydau yng Nghymru. Mae'n dymuno annog cyfraniad gweithredol at y celfyddydau, a phrofiadau diwylliannol o safon uchel fod ar gael i bawb, waeth ble y maent yn byw neu eu cefndir.
Disgrifiad o'r Swydd
Bydd disgwyl i Aelodau'r Bwrdd:
- Cymryd rhan a chyfrannu yn effeithlon at weithgareddau'r Cyngor, yn benodol diffinio a datblygu ei gyfeiriad strategol, a phennu a chyflawni amcanion heriol, a chefnogi polisi Llywodraeth Cymru;
- Gweithredu mewn modd sy'n hybu safonau uchel o ran priodoldeb a chyllid cyhoeddus;
- Sicrhau bod gweithgareddau'r Llyfrgell yn cael eu cynnal mewn modd effeithlon ac effeithiol;
- Sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei nodau, ei amcanion a'i dargedau perfformiad ei hun a'r Llywodraeth;
- Sicrhau bod dulliau rheoli'r Cyngor yn rhoi gwerth am arian o fewn fframwaith o arferion da, rheoleidd-dra a phriodoldeb;
- Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol; a
- Penodi Prif Weithredwr, a gymeradwyir gan Lywodraeth Cymru, os bydd angen.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Sgiliau Hanfodol
Hoffai Llywodraeth Cymru benodi unigolion a all ddangos y canlynol:
· Gwybodaeth helaeth o'r celfyddydau yng Nghymru a dealltwriaeth o flaenoriaethau a pholisïau presennol Llywodraeth Cymru;
· Dealltwriaeth o'r heriau cyfredol sy'n wynebu sefydliadau diwylliannol, CCC a'r rheini sy'n gweithio yn y celfyddydau sy'n gallu meddwl yn
greadigol ar sut y gellir mynd i'r afael â'r heriau hynny;
· Tystiolaeth o hanes, gwybodaeth neu brofiad o weithio o fewn un o'r mathau canlynol o gelfyddyd/meysydd:
- Profiad a dealltwriaeth o sut y gall y celfyddydau gael effaith ar lesiant cymunedau amrywiol ledled Cymru.
- Cerddoriaeth, Dawns, llenyddiaeth (yn y Gymraeg neu'r Saesneg),
- Profiad a dealltwriaeth o faterion sy'n gysylltiedig â'r celfyddydau a'r posibiliadau o fewn Llywodraeth Leol neu Addysg Uwch,
- Sgiliau entrepreneuraidd a allai fod o fudd i sefydliadau celfyddydol.
- Hanes blaenorol sy'n dangos sgiliau gwneud penderfyniadau cryf, yn seiliedig ar sgiliau dadansoddi cadarn a gweledigaeth strategol;
- profiad o gyfathrebu'n effeithiol ar bob lefel; yn enwedig y gallu i fod yn llysgennad i Gyngor Celfyddydau Cymru, gan ddangos pwyll a doethineb wrth ymdrin â rhanddeiliaid;
- Dealltwriaeth o egwyddorion llywodraethu da.
- Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb a hyrwyddo mynediad at, a chysylltiad â'r celfyddydau; ac
Ymrwymiad i 'saith egwyddor bywyd cyhoeddus' Nolan, a dealltwriaeth ohonynt.
Rydym yn croesawu'n arbennig geisiadau oddi wrth fenywod, pobl anabl ac unigolion â chefndir ethnig lleiafrifol sy'n gyfarwydd â'r celfyddydau yng Nghymru, a sydd â diddordeb gwirioneddol yng ngwaith Cyngor Celfyddydau Cymru, ac sy'n gallu cyfrannu at sicrhau ei fod yn gorff cyhoeddus o fri.
I gael eich hystyried, mae'n rhaid ichi allu dangos bod gennych y nodweddion, y sgiliau a'r profiad i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi. Mae'n rhaid i'ch datganiad personol gynnwys y pedwar pwynt bwled cyntaf uchod. Os ydych yn mynd ymlaen i gyfweliad, byddwch yn cael eich profi ar y rhestr gyflawn o sgiliau sydd wedi'u hamlinellu yn y pwyntiau bwled.
- Y Gymraeg
Mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y 2 swydd hon.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Manylion Cyswllt:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: Penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
Am ragor o wybodaeth ynghylch swyddogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a swyddogaeth yr Aelodau, cysylltwch ag Andrew Stevenson (Llywodraeth Cymru) ar 0300 025 5936 neu ar andrew.stevenson@gov.wales neu Angela Thomas (Cyngor Celfyddydau Cymru) ar 029 2044 1302 neu ar angela.thomas@arts.wales
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r Penodiadau Cyhoeddus - penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.
For further information about Public Appointments in Wales, please visit www.gov.wales/publicappointments.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.