Swydd Wag -- Penodi 2 Aelod - Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru: Cyflog ac Amodau Athrawon (Cymraeg Hanfodol)

Manylion y swydd

Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru: Cyflog ac Amodau Athrawon
Mae'r cyfarfodydd yn debygol o gael eu cynnal yng Nghaerdydd ond hefyd yn swyddfeydd addas eraill Llywodraeth Cymru o bryd i'w gilydd.
£300 y diwrnod ynghyd â chostau teithio a chostau eraill o fewn rheswm.
25
blwyddyn

Rôl y corff

Bydd y swyddogaeth i bennu cyflog ac amodau athrawon yng Nghymru yn trosglwyddo i Weinidogion Cymru o 30 Medi 2018 ymlaen o dan Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2018. Bydd angen i’r mecanwaith/proses ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon fod ar waith o fis Medi 2018, fel bod modd cyflwyno’r cyflog ac amodau athrawon cyntaf i’w pennu gan Weinidogion Cymru o fis Medi 2019 ymlaen.

 

Gwnaeth Kirsty Williams AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, gyflwyno datganiad ysgrifenedig i hysbysu Aelodau'r Cynulliad o'i bwriad i ymgynghori ar broses ar gyfer pennu cyflog ac amodau athrawon a sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Annibynnol. Cafodd y datganiad hwn ei gyhoeddi ar 14 Rhagfyr 2017.

 

Cytunodd Kirsty Williams AC, yr Ysgrifennydd Addysg, a Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, i gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori ar y model arfaethedig ar gyfer pennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y cynigion rhwng 9 Mawrth a 4 Mai.

 

Cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig ar 18 Gorffennaf 2018 yn nodi mai'r 'Model Ymgysylltu ag Athrawon' oedd y model a ffefrid. Roedd y datganiad yn hysbysu holl Aelodau'r Cynulliad am ganlyniad y broses ymgynghori gyhoeddus a'r model a fyddai'n cael ei roi ar waith.

 

Rôl Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru


Bydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru cynnwys Cadeirydd a 7 Aelod a fydd yn gyfrifol am gyflwyno argymhellion i'r Llywodraeth ar gyflog ac amodau athrawon ysgol yng Nghymru.

 

Bydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru yn asesu tystiolaeth o rhanddeiliaid allweddol sy’n cynrychioli ysgolion a’r gweithlu athrawon yng Nghymru, gan chwarae rôl hollbwysig o ran herio, cefnogi, cyfeirio a dealltwriaeth o’r heriau y mae ysgolion yng Nghymru yn eu hwynebu.

 

Bydd y swydd hon yn her ddeallusol a dylanwadol i'r unigolyn iawn, a fydd yn cyfrannu at y broses o recriwtio, cadw ac ysgogi gweithlu addysgu effeithiol. Fel aelod o'r Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, byddwch yn dod â'ch arbenigedd eich hun, ynghyd â lefel uchel o allu dadansoddol a sgiliau cyfathrebu cryf ac, yn ddelfrydol, gwerthfawrogiad o faterion gwobrwyo yn y sector cyhoeddus.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd aelodau'r Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru cydweithio, gyda chyfarwyddyd gan y Cadeirydd, i:

  • Ystyried tystiolaeth ysgrifenedig, sylwadau a chynigion gan bartïon;

 

  • Cymryd tystiolaeth lafar gan bartïon;

 

  • Casglu gwybodaeth a data am gyflogau, polisi, materion economaidd ac ariannol a materion yn ymwneud â'r gweithlu;

 

  • Pwyso a mesur tystiolaeth a chynnal dadansoddiad annibynnol;

 

  • Dod i gasgliadau a gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru. 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol

Manyleb y person

Y rhinweddau gofynnol ar gyfer y rôl

 

  • Bydd gofyn i bob ymgeisydd ddangos yn ei gais ysgrifenedig ac yn y cyfweliad sut y mae'n bodloni gofynion y swydd. Rhestrir isod y meini prawf a fydd yn cael eu defnyddio i asesu a oes gan yr ymgeiswyr y galluoedd gofynnol.

 

Meini prawf hanfodol

 

  • Y gallu i weithredu ar lefel strategol o fewn sefydliad cymhleth yn y sectorau preifat, cyhoeddus neu wirfoddol.

 

  • Dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chyflogau ac amodau, datblygiad proffesiynol, arweinyddiaeth, cydnabyddiaeth ariannol, rheoli perfformiad a gwobrwyo a hefyd gwerthfawrogiad o'r cyfyngiadau polisi, ariannol a gweithredol sy'n effeithio ar benderfyniadau ynghylch cydnabyddiaeth ariannol.

 

  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli llawer iawn o wybodaeth gymhleth a sensitif, llunio barn a nodi'r prif faterion polisi, a chyfrannu at argymhellion ymarferol.

 

  • Y gallu i ymgysylltu'n effeithiol a chyda hygrededd ag ystod o randdeiliaid gan gynnwys Gweinidogion, uwch-swyddogion y Llywodraeth ac uwch-gynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur, gan ennill eu parch a chadw eu hyder.

 

  • Dealltwriaeth gadarn o gyfle cyfartal, gwerthoedd gwasanaethau cyhoeddus ac egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt, a'r gallu i weithredu'n ddiduedd a chynnal annibyniaeth y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.



Meini prawf dymunol


  • Dealltwriaeth o gyd-destun polisi gwaith Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y datblygiadau diweddaraf yn y polisi addysg.

 

Yr iaith Gymraeg

  • Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol ar gyfer swydd Cadeirydd y Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru.

Dyddiadau cyfweliadau

21 Ionawr 2019
1 Chwefror 2019

Dyddiad cau

26/11/18 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Noder os gwelwch yn dda:

mae angen ymrwymiad amser ar y rôl 25 diwrnod y flwyddyn (Ym Mlwyddyn 1 (2019) bydd angen y rhan fwyaf o'r dyddiau hyn rhwng mis Mawrth a mis Mehefin).


Cysylltu:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Penodiadau Cyhoeddus

 

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

 

Ryan Taylor

Ffôn: 03000251425

E-bost: Ryan.taylor@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.