Swydd Wag -- Penodi Is-Gadeirydd - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Oni chytunir fel arall gan Bwyllgor Cydnabyddiaeth y Bwrdd Iechyd, Pencadlys y Bwrdd Iechyd ym Mhort Talbot fydd y man gwaith dynodedig, er y byddai disgwyl i ddeiliad y swydd geisio bod yn weladwy ar draws y sefydliad
Bydd yr Aelod Annibynnol yn cael £56,316 y flwyddyn a delir mewn ôl-daliadau yn fisol neu'n chwarterol, fel y cytunwyd â'r Bwrdd Iechyd.   
13
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.   

Mae ganddo boblogaeth o tua 390,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  

Disgrifiad o'r swydd

Bydd yr Is-gadeirydd yn:-

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Disgwylir iddynt ddwyn barn annibynnol i'r Bwrdd ar faterion perfformiad, penodiadau allweddol, edrych ymlaen ac atebolrwydd; 
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;  
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
  • Yn dod, ymhen amser, i ddeall y busnes y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol
  • Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.
  • Cefnogi’r Cadeirydd, a gallu dirprwyo yn ei habsenoldeb.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Gwybodaeth a Phrofiad

  • Profiad o arwain a datblygu sefydliad preifat, cyhoeddus neu drydydd sector llwyddiannus, a'r gallu i edrych i'r dyfodol a chynnig arweiniad strategol;

  • Profiad o gyfrannu'n effeithiol ar lefel Bwrdd ac i gefnogi datblygiad bwrdd unedol;

  • Profiad o gadeirio pwyllgorau, sicrhau craffu cadarn tra'n cynnal agenda glir ac ymdeimlad o bwrpas;

  • Profiad o oruchwylio'r gwaith o gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth yn effeithiol a dealltwriaeth o pryd a sut i ofyn am fwy o fanylion heb golli persbectif aelod annibynnol (anweithredol);

  • Y gallu i ddadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn

  • Y gallu i weithio gyda'r cyfarwyddwyr er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn arwain y sefydliad yn effeithiol. Lle y bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y cyfarwyddwyr gweithredol i gyfrif am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

  • Y gallu i gyfrannu at brosesau Llywodraethu'r Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau

  • Profiad o weithio mewn cymunedau a thimau amlddisgyblaethol ac â rhanddeiliaid allweddol mewn llywodraeth leol.

  • Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r gallu i ddangos a hyrwyddo arweinyddiaeth gynhwysol.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2020
11 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

23/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol. Ffôn: 03000 255454, e-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: (01639 683379 E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/863/home

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.