Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae’r cyfarfodydd wedi bod yn cael eu cynnal yn rhithwir ers dechrau'r pandemig Covid-19 yn swyddfeydd y Bwrdd, Bronllys, Aberhonddu.
£9,360 y flwyddyn.  
4
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gomisiynydd ac yn ddarparwr gofal iechyd uniongyrchol, ac yn wahanol i fyrddau iechyd eraill yng Nghymru mewn perthynas â chyfran y gwasanaethau a ddarperir i'r boblogaeth gan ddarparwyr gofal iechyd eraill.

Mae cyllideb y bwrdd iechyd tua £300m. Mae 50% yn cael ei wario ar ofal eilaidd ac arbenigol, mae 20% yn cael ei wario ar ofal sylfaenol a 30% ar wasanaethau a ddarperir yn uniongyrchol. 

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Addysgu Polwys ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithgar mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd o ran materion allweddol.
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn.
  • Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.

  • Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall ei rôl a'i waith;
  • Y gallu i wneud y swyddogion gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth
  • Deall egwyddorion llywodraethiant da.

Dyddiadau cyfweliadau

18 Ionawr 2021
22 Ionawr 2021

Dyddiad cau

27/11/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus, yr Uned Cyrff Cyhoeddus E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys a rôl yr Aelodau Annibynnol, cysylltwch â:

Vivienne Harpwood, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Ffôn: 01874 712643

E-bost: vivienne.harpwood@wales.nhs.uk 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.