Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro : Penodi Cadeirydd

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Ardaloedd Caerdydd a Bro Morgannwg yn ogystad ag yr draws De a Chanolbarth Cymru
£69,840 y flwyddyn
15
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn un o sefydliadau mwyaf y GIG yn Ewrop. Rydym yn cyflogi rhyw 14,500 o staff, ac yn gwario rhyw £1.4 biliwn y flwyddyn ar ddarparu gwasanaethau iechyd a llesiant i boblogaeth o ryw 472,400 o bobl sy'n byw yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg Rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws y De a'r Canolbarth ar gyfer ystod o feysydd arbenigol. 

Ein gweledigaeth yw creu cymuned lle nad yw'ch cyfle i fyw bywyd yn iach yn dibynnu ar bwy ydych chi na ble rydych yn byw.

 
Fel Bwrdd Iechyd Addysgu mae gennym gysylltiadau agos â'r sector Prifysgolion. Gyda'n gilydd rydym yn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan weithio ar yr un pryd ar ymchwil sy'n anelu at ddod o hyd i ffyrdd o wella clefydau.

Disgrifiad o'r swydd

Disgrifiad o'r rôl

Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru.

Bydd Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:-

 Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;

Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;

Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;

Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;

Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;

Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;

Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;

Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a bennwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;

Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus ac ennyn hyder y cyhoedd


Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
Gallu paratoi'r rhan fwyaf o waith ysgrifenedig yn y Gymraeg
Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
Rhugl

Manyleb y person

Manyleb y Person

Bydd y Cadeirydd yn dangos y priodoleddau canlynol:-

 

Gwybodaeth a Phrofiad

Hanfodol

Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;

Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;

Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.

Dymunol

Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;

Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

 

Priodoleddau a Sgiliau Personol

Hanfodol

Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd;

Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau tymor hir a thymor byr;

Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;

Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;

Y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;

Dymunol

Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a thrafod cadarn

Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel

Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;

Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.

Rhaid i’r Cadeirydd hefyd ddangos:-

Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt.

Dyddiadau cyfweliadau

10 Chwefror 2020
14 Chwefror 2020

Dyddiad cau

17/01/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

[p]I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:[/p][p]Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol[/p][p]Ffôn: 03000 255454[/p][p]E-bost: [url="mailto:publicappointments@gov.wales"]PublicAppointments@llyw.cymru[/url]. [/p][p]I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â: [/p][p]Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.[/p][p]Ffôn: 03000 251182 (Dr Goodall)[/p][p]E-bost: [url="mailto:Andrew.Goodall@gov.wales"]Andrew.Goodall@llyw.cymru[/url]. [/p][p]Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: [u]"]http://www.cardiffandvaleuhb.wales.nhs.uk/home>[/url][/u] [/p][p]Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu anfonwch e-bost i [url="mailto:publicappointments@gov.wales"]publicappointments@llyw.cymru[/url]. [/p][p]I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i [url="http://www.gov.wales/publicappointments"]www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.[/url][/p][p] [/p]

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-en-GB/mobile-0/appcentre-3/brand-2/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y lle gwag ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a chlicio ar ' gwneud cais ' ar y gornel waelod ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf i chi wneud cais am swydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Bydd angen i chi gofrestru unwaith yn unig, a byddwch yn gallu cadw'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill a wnewch, drwy eich cyfrif cofrestredig.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen i chi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol.

Mae'r ddogfen gyntaf yn ddatganiad personol sy'n ateb y cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o'r wybodaeth ar gyfer ymgeiswyr. Ni ddylai'r ddogfen hon fod yn fwy na dwy ochr o bapur A4. Efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. Mae'r ail ddogfen ategol yn CV llawn a chyfredol.

Dylid lanlwytho'r ddwy ddogfen i'r adran "rhesymau dros wneud cais" ar y ffurflen gais ar-lein.


 

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.