Swydd Wag -- Undeb Llafur Aelodau Annibynnol (Dymunol Cymru) - Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Manylion y swydd
Rôl y corff
Ein Gwasanaethau
- Gwasanaethau sylfaenol a chymunedol: Meddygfeydd, Deintyddion, Fferylliaeth ac Optometreg ac amrywiaeth o wasanaethau therapi cymunedol dan arweiniad timau iechyd cymunedol
- Gwasanaethau acíwt yn ein dau brif Ysbyty Prifysgol ac Ysbyty Plant: darparu ystod eang o driniaethau ac ymyriadau meddygol a llawfeddygol
- Iechyd y Cyhoedd: rydym yn helpu cymunedau Caerdydd a’r Fro drwy ddarparu ystod o gyngor a chanllawiau yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ac iechyd ataliol
- Canolfan drydyddol: rydym hefyd yn gwasanaethu poblogaeth ehangach ar draws Cymru a’r DU yn aml, gyda thriniaethau arbenigol a gwasanaethau cymhleth megis gwasanaethau niwrolawdriniaeth a gwasanaethau sy’n ymwneud ’r galon.
Mae rôl aelod y Bwrdd yn canolbwyntio ar bedwar maes allweddol:-
- Strategaeth – cyfrannu at ddatblygiad strategol a gwneud penderfyniadau
- Perfformiad – sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol yn ogystal â thîm effeithiol yn gweithredu ar lefel uchaf y sefydliad. Helpu i egluro pa benderfyniadau sydd i'w gwneud gan y Bwrdd ac yna sicrhau bod y gweddill yn cael eu dirprwyo'n glir a dwyn y rheolwyr i gyfrif am eu perfformiad o ran bodloni nodau ac amcanion y cytunwyd arnynt trwy herio a chraffu'n bwrpasol, a monitro'r gwaith o adrodd am berfformiad.
- Risg – sicrhau bod gwybodaeth ariannol yn gywir, a bod rheolaethau ariannol a systemau rheoli risg a sicrwydd yn gadarn a bod modd eu hamddiffyn
- Ymddygiad – cynnal y safonau moesegol uchaf o ran uniondeb a chywirdeb a chydymffurfio'n llawn â'r Cod Ymddygiad. Dylai aelodau'r bwrdd ddangos trwy eu hymddygiad eu bod yn canolbwyntio ar eu cyfrifoldebau tuag at ddinasyddion, y sefydliad a'i randdeiliaid
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:-
- Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithgar mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd gyda materion allweddol
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol
- Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn
- Gallu cyfrannu at brosesau ‘llywodraethu ac ariannu’ y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae’n hanfodol bod gan Aelodau Annibynnol y rhinweddau canlynol:-
Gwybodaeth a Phrofiad
- Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd
- Y gallu i wneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
- Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth
- Dealltwriaeth o beth yw llywodraethu da ac Egwyddorion Nolan
- Dealltwriaeth o Gydraddoldeb a grwpiau o bobl sydd nodweddion gwarchodedig megis hil, anabledd, rhyw a chyfeiriadedd rhywiol.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Cysylltiadau:
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol – Undebau Llafur, cysylltwch Charles Janczewski, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Ffôn: 02921836011
E-bost: Charles.Janczewski@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.