Swydd Wag -- Llywydd - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Manylion y Swydd
Ydych chi am ein helpu i sicrhau bod y Llyfrgell yn ganolog i gynllunio gwybodaeth yng Nghymru, a hefyd ein helpu i ddefnyddio ein sgiliau a’n casgliadau i wella ein gwasanaeth i’r cyhoedd, gan ddenu mwy o ddefnyddwyr o wahanol grwpiau? Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, fel sefydliad cenedlaethol, yn awyddus i wneud gwahaniaeth sylweddol i ddiwylliant, cymdeithas ac economi Cymru. Mae’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth am benodi Llywydd newydd i Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Sefydlwyd Llyfrgell Genedlaethol Cymru (‘y Llyfrgell’) gan y Siarter Frenhinol ar 19 Mawrth 1907 ac fe’i hadnabyddir fel un o lyfrgelloedd mawr y byd. Mae ei chasgliadau yn cynnwys llyfrau a chyfnodolion, llawysgrifau, dogfennau archifol, mapiau a ffotograffau, yn ogystal â pheintiadau, ffilmiau, fideos a recordiadau sain ac archifau a chyhoeddiadau electronig. Mae’r Llyfrgell yn un o lyfrgelloedd adnau cyfreithiol y DU ac mae’n cael ei chydnabod fel y ganolfan ymchwil fwyaf blaenllaw ar gyfer astudiaethau Cymreig a Cheltaidd a hanes teuluol. Mae’n cynnal rhaglen amrywiol o arddangosfeydd drwy gydol y flwyddyn ac yn trefnu darlithoedd, ffilmiau a chynadleddau yn ei hawditoriwm newydd, y Drwm.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru hefyd yn elusen gofrestredig (rhif cofrestredig: 525775) ac yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru (WGSB). Paratowyd ‘Dogfen Fframwaith’ gan CyMAL: Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru (CyMAL) yn 2010 ac mewn ymgynghoriad â’r Llyfrgell Genedlaethol mae’n amlinellu’r amodau a’r telerau sy’n sail i Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth grant i’r Llyfrgell. Ar hyn o bryd mae’r Llyfrgell yn cyflogi 270 o staff. Yn 2015-16 bydd yn derbyn cymorth grant o £10.26 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw prif lyfrgell ac archifdy Cymru. Mae'n ffynhonnell wybodaeth enfawr i bob pwnc, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, ac yn ystorfa fyw o ddiwylliannau cofnodedig Cymru. Mewn gwirionedd mae dau ddimensiwn i’r Llyfrgell Genedlaethol - adeilad ffisegol ysblennydd yn Aberystwyth sy’n gartref i ddeunydd print, llawysgrifau, casgliadau gweledol a chlyweled, a llyfrgell ar-lein sydd ar gael trwy’r rhyngrwyd. Mae gan y Llyfrgell bum swyddogaeth graidd: casglu, cadw, darparu mynediad a gwybodaeth, cyhoeddusrwydd dehongli a chydweithio proffesiynol.
Y Llywydd fydd yn cadeirio Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, sef corff llywodraethu’r Llyfrgell. Mae’r holl Ymddiriedolwyr yn gyd gyfrifol ac yn gyd atebol am y penderfyniadau a wneir gan y Bwrdd. Rôl y Bwrdd yw rhoi arweinyddiaeth effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol; a phennu amcanion heriol. Mae’r Bwrdd yn hyrwyddo safonau uchel o ran atebolrwydd i’r cyhoedd, ac yn cynnal egwyddorion sy’n ymwneud â rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. Mae’n sicrhau bod gweithgareddau’r Llyfrgell yn cael eu cwblhau mewn modd effeithlon ac effeithiol, ac mae’n monitro perfformiad er mwyn sicrhau bod y Llyfrgell yn cyflawni ei nodau a’i hamcanion a’i thargedau perfformiad yn llawn.
Mae Bwrdd Ymddiriedolwyr y Llyfrgell yn cynnwys 15 o Ymddiriedolwyr. Penodir wyth Ymddiriedolwr gan Lywodraeth Cymru a saith gan y Llyfrgell. Mae’r Ymddiriedolwyr yn cynnwys tri Swyddog y Bwrdd, sef Llywydd, Is-lywydd a Thrysorydd. Penodir y Llywydd a’r Is-lywydd gan Lywodraeth Cymru a’r Trysorydd gan y Llyfrgell ei hun.
Mae’r Bwrdd yn cyfarfod oddeutu seithwaith y flwyddyn a chadeirir y cyfarfodydd gan y Llywydd. Bydd y Llywydd presennol, sef yr Athro Syr Deian Hopkin, yn gadael y swydd ar ddiwedd mis Tachwedd 2015.
Er mai’r Bwrdd sy’n gyfrifol yn y pen draw am bopeth y mae’r Llyfrgell yn ei wneud, y Prif Weithredwr a Llyfrgellydd sy’n atebol i’r Ymddiriedolwyr am reoli gweithredol o fewn y sefydliad o ddydd i ddydd. Mae ganddo ef yn ei dro Dîm Gweithredol sy’n cynnwys Pennaeth Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus; Pennaeth Adnoddau Corfforaethol; ac Ysgrifennydd a Phennaeth Llywodraethiant. Mae’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, a’i Dîm Gweithredol, yn cefnogi’r Bwrdd drwy sicrhau bod y Llyfrgell yn cyflawni ei nodau ac amcanion corfforaethol ac yn cyflawni ei hystod lawn o swyddogaethau.
Rhaid i’r Ymddiriedolwyr fod yn glir am natur eu perthynas â’r cyhoedd. Rôl y Bwrdd yw arwain ac adolygu gwaith y Llyfrgell er mwyn diogelu budd y cyhoedd a hefyd sicrhau atebolrwydd i’r cyhoedd. Mae’r Ymddiriedolwyr yn atebol i’r cyhoedd, a dylent ddatblygu deialog sy’n meithrin ac yn cynnal cysylltiadau priodol â’r bobl y maent yn eu gwasanaethu. I’r perwyl hwnnw, mae’r Bwrdd wedi creu Corff Ymgynghorol gyda 32 o aelodau, sy’n cynnwys rhanddeiliaid allweddol a chynrychiolwyr o blith aelodau’r cyhoedd a defnyddwyr y Llyfrgell. Fel arfer, mae’r Corff yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn, ac mae’n rhoi adroddiad o’i drafodion i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr eu hystyried.
Bydd y Llywydd yn un o Ymddiriedolwyr y Llyfrgell. Mae gan bob Ymddiriedolwr gyfrifoldebau fel ymddiriedolwr elusen ac fel aelod o Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru. Nodir y rhain yng nghyngor y Comisiwn Elusennau ar y berthynas rhwng elusennau a’r wladwriaeth (http://www.charity-commission.gov.uk/publications/rr7.asp) a’r Ddogfen Fframwaith, sy’n nodi Telerau ac Amodau’r cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r Llyfrgell.
Ni fwriedir i gyfranogiad Ymddiriedolwr fod yn gyfranogiad sy’n seiliedig ar gyfarfodydd yn unig. Gwahoddir ymddiriedolwyr i fynychu digwyddiadau yn y Llyfrgell ac i fod yn llysgenhadon y tu allan i’r Llyfrgell. Fe’u gwahoddir o bryd i’w gilydd i ymuno â gweithgorau’r Llyfrgell lle y byddai eu profiad o gymorth ymarferol arbennig.
Fel Ymddiriedolwyr byddwch yn:
• Darparu arweiniad effeithiol i’r Llyfrgell
• Hyrwyddo safonau uchel ym maes cyllid cyhoeddus
• Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi’n drylwyr ar gyfer y cyfarfodydd hynny
• Cyfrannu at benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau er mwyn cyflawni amcanion cyffredinol y Llyfrgell
• Sicrhau bod gweithgareddau’r Llyfrgell yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol
• Monitro perfformiad y Llyfrgell er mwyn sicrhau ei bod yn cyflawni ei nodau, ei hamcanion a’i thargedau o ran perfformiad yn llawn
• Sicrhau bod dulliau rheoli’r Llyfrgell yn sicrhau gwerth am arian o fewn fframwaith o arferion gorau, rheoleidd-dra a phriodoldeb
SWYDD LLYWYDD
DISGRIFIAD O’R RÔL
Mae Siarter Frenhinol y Llyfrgell yn datgan y bydd yna Lywydd a fydd yn cadeirio’r Bwrdd Ymddiriedolwyr. Y Llywydd sy’n gyfrifol am lunio strategaethau’r Bwrdd, ac am sicrhau bod y Bwrdd yn ystyried ei ofynion rheoli statudol ac ariannol mewn modd priodol wrth wneud ei benderfyniadau. Y Llywydd fydd yn sicrhau bod polisïau a gweithredoedd y Bwrdd yn gydnaws â’r gofynion a’r polisïau strategol ehangach sydd wedi eu pennu gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Rheoliadau a fabwysiadwyd gan y Bwrdd yn gosod allan pwerau eang i’r Llywydd mewn perthynas ag ymddygiad cyfarfodydd gan gynnwys penderfyniadau ar faterion sensitif fel yn achos eitemau i’w trafod yn gyfrinachol, a gohiriadau.
Mae’r Rheoliadau hefyd yn caniatáu i’r Llywydd fod yn aelod o Bwyllgor y Swyddogion sy’n gallu gweithredu â galluoedd llawn y Bwrdd mewn perthynas â materion sydd angen sylw brys a phenderfyniadau arnynt rhwng cyfarfodydd.
Yn ogystal â gofynion Ymddiriedolwr, sy’n cael eu nodi uchod, y Llywydd sy’n:
• cadeirio pob cyfarfod o Fwrdd yr Ymddiriedolwyr;
• cadeirio Pwyllgorau eraill y Llyfrgell (ac eithrio’r Pwyllgor Archwilio) yn absenoldeb y Cadeirydd a benodwyd;
• cyfarfod â’r Gweinidog noddi (sydd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth) bob chwe mis;
• cysylltu â swyddogion eraill ac aelodau’r Bwrdd yn ôl yr angen;
• cysylltu â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd ac Ysgrifennydd y Bwrdd yn ôl yr angen;
• cynrychioli’r Llyfrgell yn ei hymwneud â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, yn bennaf pan fydd gofyn iddo/iddi ymwneud â’r Gweinidog neu un o Bwyllgorau’r Cynulliad;
• cynrychioli’r Llyfrgell mewn digwyddiadau cyhoeddus.
Mae’r Llywydd yn gyfrifol am sicrhau bod y Llyfrgell yn:
• cynrychioli barn y Bwrdd yn effeithiol a chywir;
• datblygu ei pherthynas allweddol â Llywodraeth Cymru, cyrff sectorau a rhanddeiliaid allweddol eraill;
• cyflawni’n effeithiol ei hamcanion statudol, ei swyddogaethau a’i dyletswyddau cyffredinol ac yn arfer ei phwerau cyfreithiol yn briodol;
• gwireddu strategaethau a chynlluniau’r Bwrdd ar gyfer y dyfodol ac yn darparu ei gwasanaethau yn unol â thargedau a dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt. Mae’r Llywydd hefyd:
• yn cynrychioli’r Llyfrgell gerbron y wasg;
• yn cyfarwyddo datblygiad, polisïau a chynlluniau strategol y Llyfrgell;
• ar y cyd â’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd, yn cyfleu cynlluniau’r Llyfrgell, a’r hyn y mae wedi ei chyflawni i randdeiliaid, yn cynnwys staff y Llyfrgell, Llywodraeth Cymru a’r cyhoedd;
• yn sicrhau bod Aelodau’r Bwrdd yn gweithredu’n unol ag arfer da o ran llywodraethu ac egwyddorion safonau bywyd cyhoeddus Nolan;
• yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i benodi Aelodau’r Bwrdd a sicrhau eu bod yn cael sesiwn gynefino a chymorth effeithiol;
• gydag aelodau’r Bwrdd, yn sefydlu, monitro ac adolygu trefniant llywodraethu, strwythurau, systemau a phrosesau; ac
• yn cyfarwyddo, cefnogi a rheoli’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd yn cynnwys cytuno ynglŷn ag amcanion a chynnal gwerthusiad blynyddol, ar ôl ymgynghori â’r Is-lywydd a’r Trysorydd.
Er mwyn bod yn effeithiol mae’r Bwrdd angen Ymddiriedolwyr ag ystod eang o arbenigedd a phrofiad. Fel Ymddiriedolwr, byddech yn helpu i benderfynu ar bolisïau, strategaethau a blaenoriaethau o ran gweithgareddau craidd y Llyfrgell. Dylech fedru defnyddio eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch profiad i ddarparu tystiolaeth o’ch gallu yn y meysydd a ganlyn:
• ymroddiad a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell;
• cyfrannu’n effeithiol mewn trafodaethau, wrth wneud penderfyniadau ac mewn dadleuon;
• cydweithio’n agos â chyd-Ymddiriedolwyr;
• profiad rheoli mewn cyd-destun busnes, sefydliadol, gweinyddol neu gyd-destun arall, gan werthfawrogi’r gwahaniaeth rhwng y swyddogaeth strategol a’r swyddogaeth weithredol;
• dealltwriaeth o’r berthynas rhwng y Llyfrgell a Llywodraeth Cymru;
• dealltwriaeth o’r sector diwylliannol yn ei gyfanrwydd;
• y gallu i weithio mewn amgylchedd dwyieithog ac ymroddiad cryf i ddwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg yn y maes diwylliannol ac yng nghymunedau Cymru, yn ogystal â pharch tuag atynt a dealltwriaeth ohonynt;
• ymrwymiad i faterion cydraddoldeb a herio ymarferion gwahaniaethol lle bo hynny’n briodol;
• ymroddiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan (https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life).
Mae rôl y Llywydd yn gofyn am berson o statws a gweledigaeth sy’n medru arwain sefydliad cenedlaethol. Bydd gan y Llywydd hefyd y sgiliau a’r rhinweddau a ganlyn yn ogystal â sgiliau Ymddiriedolwr a restrir ym mharagraff 13 uchod:
• Profiad o weithredu ar lefel Bwrdd neu o fewn unrhyw sefydliad cyfatebol o ran ei gymhlethdod;
• y gallu i wahaniaethu rhwng cyfrifoldebau gweithredol a chyfrifoldebau anweithredol a sefydlu perthynas weithiol gyda’r Prif Weithredwr a Llyfrgellydd;
• hanes o ddangos ymrwymiad i sicrhau cydraddoldeb ac amrywedd;
• y gallu i feithrin cysylltiadau effeithiol a chynrychioli Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
• sgiliau llysgenhadol a chyfathrebu cryf y gellir eu defnyddio i ddylanwadu ar unigolion a sefydliadau allanol i fod ag agwedd gadarnhaol at y Llyfrgell. Mae hyn yn berthnasol i’r berthynas â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a chyda darpar roddwyr, partneriaid a’r wasg;
• y sgiliau angenrheidiol i gadeirio cyfarfodydd, gan gynnwys cyfarfodydd Bwrdd yr Ymddiriedolwyr, mewn ffordd effeithiol, adeiladol a chynhwysol;
• y gallu i weithredu fel arweinydd anffurfiol o’r Llyfrgell, agor arddangosfeydd, croesawu ymwelwyr pwysig, ymweld â lleoliadau eraill ac yn y blaen;
• sgiliau o’r radd flaenaf mewn siarad cyhoeddus, mewn meithrin perthynas ag eraill, mewn trafod ac eirioli;
• y gallu i siarad ac ysgrifennu Cymraeg a Saesneg yn rhugl.
Gellir hawlio oddi wrth y Llyfrgell gostau teithio a threuliau rhesymol eraill yr aed iddynt wrth weithio ar ran y Bwrdd, a hynny o fewn y terfynau cydnabyddedig. Gallech hefyd fod yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau yn gysylltiedig â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra byddwch yn gweithio ar ran y naill gorff neu’r llall.
Nid yw Ymddiriedolwyr yn cael cydnabyddiaeth ariannol. Ar gais Llywodraeth Cymru (ac yn unol â’i pholisi o roi cydnabyddiaeth i aelodau Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru) cytunodd cyn-Lys Llywodraethwyr y Llyfrgell i gynnwys ymhlith ei gynigion i ddiwygio’r Siarter y gallu i roi cydnabyddiaeth ariannol i aelodau’r Bwrdd. Fodd bynnag, er nad yw’n gwrthwynebu hyn, mae’r Comisiwn Elusennau wedi ei gwneud yn glir y bydd yn rhaid i unrhyw gynnig yn y dyfodol i ddefnyddio’r pŵer i dalu Ymddiriedolwyr yn gyffredinol, neu Ymddiriedolwyr unigol, gael ei gyfiawnhau i’r Comisiwn fel rhywbeth sydd er lles yr Elusen.
Yr Iaith Gymraeg
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad Cau
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.