Swydd Wag -- Penodi Cynrychiolydd Llywodraeth Cymru Aelod o'r Bwrdd - Visit Britain
Manylion y swydd
Cynhelir Cyfarfodydd Bwrdd Visit Britain oddeutu chwe gwaith y flwyddyn (bydd yr aelod yn cael ei dalu am ddau ddiwrnod fesul cyfarfod er mwyn gallu paratoi) a hefyd bydd Visit Britain yn talu costau Teithio a Chynhaliaeth.
Rôl y corff
Llywodraeth Cymru
Mae twristiaeth yn gwneud cyfraniad mawr i economi Cymru. Mae cyfanswm y gwariant blynyddol gan dwristiaid/ymwelwyr yng Nghymru yn oddeutu £6.3 biliwn. Mae Cymru yn denu mwy na 10 miliwn o ymweliadau dros nos bob blwyddyn. Mae'r rhaniad ar hyn o bryd yn oddeutu 90% o ymwelwyr o Brydain a 10% o ymwelwyr rhyngwladol gyda gwariant wedi'i rannu oddeutu 80% o'r DU a 20% yn rhyngwladol.
Mae Cymru wedi gweld cynnydd blynyddol cyson mewn nifer a gwariant ymweliadau rhyngwladol ers 2012 (ymweliadau 2016 1.07 miliwn, gwariant £444 miliwn). Fodd bynnag , mae cynyddu ein cyfran o'r holl ymweliadau rhyngwladol i'r DU yn parhau i fod yn her gyda dim ond ychydig o dan 3% o deithiau a 2% o wariant yng Nghymru. O ran swyddi, mae 131,200 (10% o'r gweithlu yng Nghymru) yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol ym maes Twristiaeth. Ar y cyfan, mae twristiaeth yn cyfrannu at 5.7% o'r holl Werth Ychwanegol Gros i economi Cymru.
Mae Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru (2013-2020) Partneriaeth ar gyfer Twf (https://gov.wales/topics/culture-tourism-sport/tourism/partnership-for-growth-strategy/?skip=1&lang=cy) yn pennu amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu twristiaeth mewn dull cynaliadwy a chynyddu ei chyfraniad at lesiant economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru. Ei nod cyffredinol yw cynyddu enillion twristiaeth yng Nghymru 10% neu fwy erbyn 2020.
Mae polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru wedi'u hamlinellu yn - Llewyrch i Bawb (https://gov.wales/newsroom/firstminister/2017/170919-new-national-strategy-for-a-more-prosperous-wales/?skip=1&lang=cy), Cynllun Gweithredu Economaidd Llywodraeth Cymru, (https://gov.wales/topics/businessandeconomy/economic-action-plan/?skip=1&lang=cy) Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015).
Mae'r Cynllun Gweithredu Economaidd yn nodi twristiaeth fel Sector Sylfaen gan gydnabod y cyfraniad sylweddol y mae twristiaeth yn ei wneud i economi Cymru ac yn pennu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad twristiaeth drwy farchnata, sgiliau, cyfleusterau, darparu digwyddiadau mawr a darparu cynnyrch twristiaeth o safon.
Llywodraeth y DU
Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod twristiaeth wedi cyfrannu dros £62 biliwn yn uniongyrchol i economi y DU yn 2014, sy'n cyfrif am dros 3% o Werth Ychwanegol Gros y DU. Yn 2016, lansiodd y Prif Weinidog y Cynllun Gweithredu ar Dwristiaeth y mae'r Llywodraeth yn bwriadu ei ddefnyddio i ddatblygu'r diwydiant twristiaeth ymhellach, a lledaenu manteision twf ledled Prydain, drwy annog mwy o ymwelwyr i deithio y tu hwnt i Lundain.
Am Visit Britain
Mae Visit Britain (yr Awdurdod Twristiaeth Prydeinig blaenorol) wedi bodoli ers Deddf Datblygu Twristiaeth 1969. Mae'n anelu at ddatblygu gwerth twristiaeth i Brydain, gan weithio mewn partneriaeth â'r diwydiant, gwledydd a rhanbarthau, ac yn adrodd i'r Ysgrifennydd Gwladol dros faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Blaenoriaethau'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Visit Britain yw:
● Marchnata Prydain dramor i sbarduno twf mewn twristiaeth hamdden a busnes rhyngwladol;
● Cynnal gweithgareddau penodol i ddatblygu a marchnata twristiaeth yn Lloegr, yn bennaf drwy weithredu'r gronfa Discover England, a gweithgarwch i gefnogi ymweliadau busnes a digwyddiadau ar gyfer cyrchfannau yn Lloegr; a
● Cefnogaeth i gyflawni Cynllun Gweithredu Twristiaeth y Prif Weinidog, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2016.
Mae strategaeth twristiaeth Visit Britain yn pennu yr hyn y gall Prydain ei wneud i sicrhau bod twristiaeth ryngwladol yn cynnig y manteision economaidd mwyaf posibl a sut y gall amcanion marchnata a pholisi gyd-fynd â'i gilydd. Mae'n anelu at ddenu 40 miliwn o ymwelwyr rhyngwladol y flwyddyn, gan wario £31.5 biliwn, erbyn 2020. https://www.visitbritain.org/britain-tourism-strategy.
Disgrifiad o'r swydd
Mae disgwyl i holl Aelodau'r Bwrdd gyfrannu'n effeithiol at waith cyffredinol y Bwrdd. Prif gyfrifoldebau Aelodau'r Bwrdd fydd:
- Cynnig cyfraniad effeithiol i'r Bwrdd a chefnogi Cadeirydd y bwrdd fel y bo angen.
- Helpu'r Cadeirydd i sicrhau bod polisïau a strategaeth Visit Britain yn adlewyrchu ac yn sbarduno strategaeth Llywodraeth y DU ar gyfer twristiaeth drwy'r Cynllun Gweithredu Twristiaeth, ac yn cyflawni'r Cytundeb Rheoli rhwng Yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a Visit Britain.
- Hyrwyddo Prydain dramor fel cyrchfan i ymwelwyr a chenfogi effeithiolrwydd rhwydwaith Visit Britain o dros 20 o swyddfeydd dramor.
- Sicrhau bod Visit Britain yn gweithio yn dryloyw ac yn agos at Croeso Cymru.
- Sicrhau bod Visit Britain yn buddsoddi cymaint â phosib mewn twristiaeth a hyrwyddo Prydain (gan gynnwys gweithgareddau hyrwyddo ar ran Cymru) dramor drwy gysylltu â phartneriaid a gweithgarwch masnachol, gan sicrhau bod gweithgarwch o'r fath yn parhau o fewn cwmpas gwariant y sector cyhoeddus.
- Sicrhau cydweithio ar draws rhwydwaith eang o brif randdeiliaid, yn benodol y byrddau twristiaeth cenedlaethol, Sefydliadau Rheoli Cyrchfannau, llywodraeth leol a Partneriaethau Mentrau Lleol (awdurdodau lleol a busnesau yn cydweithio arweinwyr y diwydiant twristiaeth a sefydliadau sy'n cynrychioli diwydiant.
Bod yn bresennol fel y bo angen yng nghyfarfodydd 'Bwrdd Rheoli Twristiaeth' Llywodraeth Cymru a darparu adborth o gyfarfodydd Bwrdd Visit Britain.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Dylai ymgeiswyr fedru dangos bod ganddynt:
- Y gallu i weithio mewn tîm o Aelodau'r Bwrdd i gyflawni amcanion a chynnig her a chymorth effeithiol i'r sefydliad
- Y gallu i ddangos profiad ar lefel uwch/bwrdd mewn twristiaeth ryngwladol neu ddomestig neu faes perthnasol;
- Y gallu i feithrin perthnasau gwaith cadarn a phositif ac ennyn parch.
- Dealltwriaeth o sefyllfa gystadleuol Cymru yn rhyngwladol a'r cyd-destun gwleidyddol y mae twristiaeth yn gweithredu o'i fewn; a
- Profiad o weithgareddau digidol, technoleg neu farchnata;
Y Gymraeg
- Ystyrir bod Sgiliau Iaith Gymraeg yn 'ddymunol' ar gyfer pob Aelod o'r Bwrdd, ar y lefel a nodir isod:
- Dealltwriaeth - Yn gallu deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau bob dydd. Darllen - yn gallu darllen a deall rhai geiriau a brawddegau sylfaenol.
- Yn gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg.
- Yn gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd.
- Golyga hyn y byddai o fantais i'r ymgeiswyr ddeall sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg a darllen ac ysgrifennu.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Telerau'r Penodiad
Y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon fydd yn penodi, ar ran Llywodraeth Cymru. Mae penodiadau'n cael eu gwneud fel arfer am dair blynedd, a chaiff aelodau eu hail-benodi am dymor arall o dair blynedd. Caiff perfformiad Aelodau'r Bwrdd ei adolygu bob blwyddyn gan y Cadeirydd.
Cyfarfodydd y Bwrdd
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn Llundain ac yn ôl dewis y Cadeirydd, yng Nghymru a'r Alban. Ar hyn o bryd cynhelir cyfarfodydd y bwrdd oddeutu chwe gwaith y flwyddyn. Staff Visit Britain sy'n darparu'r ysgrifenyddiaeth yng nghyfarfodydd y Bwrdd. Hefyd, bydd disgwyl i'r aelod fynd i oddeutu 10 o gyfarfodydd Bwrdd Rheoli Twristiaeth adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru.
Pwy sy'n gymwys i wneud cais?
Dylai ymgeiswyr fod yn bobl sy'n ymddwyn bob amser mewn modd a fydd yn ennyn hyder y cyhoedd.
Yn arbennig, rhaid i'r ymgeiswyr ddatgan a ydynt yn gwybod am unrhyw beth yn eu bywydau preifat neu broffesiynol, a allai achosi embaras iddynt hwy neu i Lywodraeth Cymru petai'n dod yn wybyddus ar ôl eu penodi.
Ymrwymiad Amser
Disgwylir i'r Cadeirydd fod ar gael i weithio am ryw 22 ddiwrnod bob wythnos. Bydd hyn yn cynnwys bod yn bresennol mewn oddeutu chwech o gyfarfodydd bwrdd Visit Britain (dau ddiwrnod i bob cyfarfod er mwyn cael amser i baratoi). Yn ogystal â hyn, bydd disgwyl i'r aelod hefyd fod yn bresennol mewn oddeutu 10 o gyfarfodydd Bwrdd Rheoli Twristiaeth adran Twristiaeth a Marchnata Llywodraeth Cymru - diwrnod ar gyfer pob cyfarfod.
Cydnabyddiaeth ariannol
Rhoddir tâl cydnabyddiaeth o £320 y flwyddyn yn ogystal â Teithio a Chynhaliaeth. Llywodraeth Cymru fydd yn talu'r ffioedd a'r costau ar gyfer bod yn bresennol yn oddeutu deg o Gyfarfodydd Bwrdd Rheoli Twrisitaeth Llywodraeth Cymru.
Cynhelir Cyfarfodydd Bwrdd Visit Britain oddeutu chwe gwaith y flwyddyn (bydd yr aelod yn cael ei dalu am ddau ddiwrnod fesul cyfarfod er mwyn gallu paratoi) a hefyd bydd Visit Britain yn talu costau Teithio a Chynhaliaeth.
Cymorth i Aelodau Anabl
Lle bo hynny'n briodol, caiff pob addasiad rhesymol ei wneud er mwyn galluogi aelodau i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol.
Gwrthdaro buddiannau
Bydd gofyn ichi ddatgan unrhyw fuddiannau preifat a allai fod, neu y gellid dehongli eu bod, yn gwrthdaro â’ch rôl a’ch cyfrifoldebau fel Aelod Bwrdd Visit Britain gan gynnwys buddiannau busnes neu swyddi o awdurdod y tu allan i’ch rôl yn Visit Britain.
Os byddwch yn cael eich penodi, bydd disgwyl ichi hefyd ddatgan y buddiannau hyn ar gofrestr sydd ar gael i'r cyhoedd.
Safonau mewn bywyd cyhoeddus
Bydd disgwyl ichi arddel safonau uchel o ymddygiad corfforaethol a phersonol. Bydd disgwyl i bob ymgeisydd llwyddiannus gadw at 7 egwyddor bywyd cyhoeddus (egwyddorion Nolan); ymrwymiad i ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan
Hyfforddiant Sefydlu
Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus fynychu sesiynau cynefino gyda Llywodraeth Cymru a Visit Britain.
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.