Swydd Wag -- Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (NED) (gyda phrofiad o gyllid, archwilio a risg)

Manylion y swydd

Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf
Cynhelir cyfarfodydd yng Nghaerdydd yn yr Hwb Gwyddorau Bywyd, 3 Sgwâr y Cynulliad, Bae Caerdydd, ond gallai cyfarfodydd gael eu cynnal mewn lleoliadau eraill ar rai achlysuron. Cynhelir cyfarfodydd o bell ar hyn o bryd oherwydd pandemig Covid-19.

Bydd aelodau’n derbyn £282 y dydd (hyd at uchafswm o £15,000 y flwyddyn) (Pro rata).                                                  

Telir costau teithio a chynhaliaeth yn unol â therfynau cydnabyddedig.

1
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd LSHW gan Lywodraeth Cymru ac mae’n un o elfennau cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwyddorau Bywyd yng Nghymru, sy’n anelu at ddarparu twf uchelgeisiol yn y sector, i sicrhau datblygiad parhaus y maes yng Nghymru i gyflawni effaith economaidd sylweddol. Mae LSHW yn sbarduno newid systematig a thrawsnewidiol yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn creu dyfodol gwell i bobl Cymru. Ein rôl ni, drwy lens gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid ac integreiddio portffolios fel yr amlinellir yn Ffyniant i Bawb a Cymru Iachach, yw ysbrydoli arloesedd a chydweithredu rhwng diwydiant, iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau ymchwil i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i bobl a theuluoedd ar draws y wlad. I sbarduno newid, rydym yn gweithio gyda GIG Cymru er mwyn deall problemau a chanfod sut y gall arloesi helpu i ddarparu gwell gofal. Rydyn ni’n helpu busnesau i greu atebion o ran iechyd a gofal cymdeithasol. Rydyn ni’n creu cysylltiadau sy’n galluogi pobl a sefydliadau i weithio mewn partneriaeth. Ein cenhadaeth yw cyflymu’r broses o ddatblygu a mabwysiadu atebion arloesol i sicrhau gwell iechyd a lles. Ein gweledigaeth yw sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran arloesedd ym maes iechyd, gofal a lles. Bwrdd LSHW sy’n gosod y weledigaeth strategol ar gyfer y sefydliad ifanc ac arloesol hwn sydd mewn sefyllfa unigryw i allu cynorthwyo datblygu a defnyddio cynnyrch arloesol ar draws Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.Sefydlwyd LSHW fel is-gwmni annibynnol hyd-braich i Lywodraeth Cymru. 

Rôl y Bwrdd

Bydd Bwrdd yr Hwb yn cynnwys Cadeirydd a hyd at 9 Aelod o’r Bwrdd. Y dasg fydd sicrhau bod trefniadau rheoli effeithiol ar waith i roi sicrwydd ynghylch rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol.

 

Disgrifiad o'r swydd

  • darparu arweinyddiaeth effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion heriol;
  • hyrwyddo safonau uchel yng nghyswllt cyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • sicrhau bod gweithgareddau Grŵp LSHW yn cael eu cynnal yn effeithlon a
  • monitro perfformiad yn effeithiol i sicrhau bod LSHW yn bodloni ei amcanion, ei nodau a’i dargedau perfformiad;
  • sicrhau bod strategaethau yn cael eu datblygu ar gyfer cyflawni amcanion LSHW yn unol â’r polisïau a’r blaenoriaethau a sefydlwyd gan LSHW mewn cydweithrediad â Gweinidogion Cymru a rhanddeiliaid eraill perthnasol, er enghraifft, cyflogeion, cwsmeriaid a darparwyr cyllid;
  • sicrhau bod Gweinidogion yn cael yr holl wybodaeth am unrhyw newidiadau sy’n debygol o effeithio ar gyfeiriad strategol yr LSHW neu ar ba mor gyraeddadwy yw ei dargedau, a'r camau y mae angen eu cymryd i ddelio â newidiadau o'r fath;
  • sicrhau bod trefniadau bancio LSHW yn ddigonol ar gyfer ei ddibenion;
  • sicrhau y rhoddir trefniadau effeithiol ar waith i ddarparu sicrwydd ynghylch rheoli risg, gan gynnwys diogelwch gwybodaeth, llywodraethu, archwilio mewnol, archwilio allanol a rheolaeth fewnol, yn unol â gofynion statudol a rheoleiddiol cymwysadwy a, phan fo hynny’n berthnasol, Codau Ymarfer neu ganllawiau eraill sy'n gymwys i'r sector gwasanaethau ariannol;

 

Bydd aelodau’r Bwrdd yn:

 

  • dangos ac yn hyrwyddo Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus (Nolan)
  • chwarae rhan weithredol mewn trafodaethau, gan ddarparu eich cyngor, rhoi eich barn a herio, a chefnogi’r Bwrdd ar faterion allweddol.
  • cefnogi’r Prif Swyddog Gweithredol o ran penodi staff uwch a mentora staff presennol.
  • cyfrannu at ddatblygu a chynnal diwylliant iach ar draws y sefydliad.
  • cyfrannu at waith y Bwrdd gan ddefnyddio’ch annibyniaeth, eich profiad a’ch gwybodaeth flaenorol, a’ch gallu i gamu’n ôl o reolaeth weithredol o ddydd i ddydd.
  • llwyr ddeall y busnes drwy ymwneud yn weithredol, sefydlu mecanweithiau effeithlon ar gyfer gwneud y gorau o gyfleoedd economaidd o’r sector gwyddorau bywyd i gynorthwyo iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
  • dadansoddi gwybodaeth gymhleth a’i hadolygu’n feirniadol, a chyfrannu at wneud penderfyniadau, datblygu strategaeth ac arwain cynllun gweithredol y busnes yn gadarn.
  • goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau gan sicrhau atebolrwydd a bod yn agored o ran dyrannu a defnyddio adnoddau
  • cyflawni llywodraethu effeithlon ar y sefydliad, yn ei holl ffurfiau integredig.
  • meithrin perthnasoedd gwaith agos gydag arbenigwyr a sefydliadau o fewn y sector ar lefel genedlaethol a rhyngwladol a gweithredu fel eiriolwr ar ran LSHW.
  • gwasanaethu ar unrhyw rai o is-bwyllgorau’r Bwrdd, megis yr is-bwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC) neu’r
  • Is-bwyllgor Adnoddau Dynol a Thaliadau (HRRC) a chadw gwybodaeth yn gyfoes ynghylch unrhyw fater sy’n codi.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol

  • Profiad o ddal rôl uwch ymarferydd cyllid gyda phrofiad ar lefel bwrdd o archwilio a rheoli risg (1 swydd).
  • Cymhwyster ariannol perthnasol.
  • Profiad o archwilio, llywodraethu a chydymffurfiaeth ar lefel bwrdd.
  • Aelod profiadol o bwyllgor neu is-bwyllgor.
  • Gallu cyfrannu at drafodaethau, cynnig her a chymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.
  • Dealltwriaeth o’r rhwymedigaethau cysylltiedig â gwasanaethau ar fwrdd a’r hygrededd i wneud hynny.
  • Gallu cynrychioli’n gredadwy ystod eang o bersbectifau er enghraifft drwy fod â rhwydwaith cadarn eisoes yn ei le neu’r gallu i ddatblygu a chynnal rhwydwaith credadwy ac effeithiol.
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol ardderchog.
  • Diddordeb amlwg a gwybodaeth a dealltwriaeth o’r sector gan gynnwys yr heriau a’r cyfleoedd sydd ar gael.

Meini Prawf Dymunol 

  • Aelod profiadol o bwyllgor neu is-bwyllgor.
  • Diddordeb mewn modelau newydd o iechyd, gofal cymdeithasol a lles
  • Profiad o weithio ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat.

Dyddiadau cyfweliadau

9 Tachwedd 2020
13 Tachwedd 2020

Dyddiad cau

15/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru. 

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar y swydd wag a chlicio ‘Ymgeisio’ yn y gornel isaf ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf y byddwch yn gwneud cais am swydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru oddi ar system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru.   Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, a bydd modd i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd eich cais, neu unrhyw geisiadau eraill a wneir gennych, drwy eich cyfrif cofrestredig. 

Ar ôl i chi gofrestru, byddwch yn gallu mynd at y ffurflen gais.  I wneud cais, bydd angen i chi lwytho datganiad personol a CV i’r adran ‘Rhesymau dros ymgeisio’ ar y ffurflen gais ar-lein. 

 Datganiad Personol

Y datganiad personol yw eich cyfle chi i ddangos sut yr ydych yn cwrdd â phob un o’r meini prawf a nodir ym manylion y person isod. Mater i chi yw sut y dewiswch gyflwyno’r wybodaeth. Fodd bynnag, dylech anelu at ddarparu enghreifftiau manwl sy’n dangos sut y mae eich gwybodaeth a’ch profiad yn cyfateb â phob un o’r meini prawf, ac yn disgrifio beth oedd eich swyddogaeth chi o ran cyflawni canlyniad penodol. Bydd o fudd i’r panel dethol hefyd pe gallech nodi’n eglur pa dystiolaeth benodol a ddarperir gennych sy’n ymwneud â pha feini prawf. Mae darparu paragraffau ar wahân yng nghyswllt pob maen prawf yn arferiad cyffredin.

Ni ddylai eich datganiad personol fod yn hwy na dwy dudalen.  Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd y tu hwnt i’r cyfyngiad hwn. 

CV

Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys manylion byr am eich swydd gyfredol neu eich swydd fwyaf diweddar a’r dyddiadau pryd y buoch yn y swydd hon.  Nodwch unrhyw benodiadau gan Weinidogion yn y presennol neu’r gorffennol. 

Amserlen ddangosol

Dyddiad cau:                                 15 Hydref 2020

Tynnu rhestr fer:                           w/c 19 Hydref 2020

Cyfweliadau:                                 w/c 9 Tachwedd 2020

Datganiad Amrywiaeth

Cred Llywodraeth Cymru y dylai aelodau byrddau cyrff cyhoeddus adlewyrchu’r gymdeithas yng Nghymru - pobl o bob cefndir - i’w helpu i ddeall anghenion pobl a gwneud penderfyniadau gwell.  Dyma pam fod Llywodraeth Cymru yn annog ystod eang ac amrywiol o unigolion i wneud cais am benodiadau i gyrff cyhoeddus.  Mae croeso penodol i geisiadau gan yr holl grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, gan gynnwys menywod, pobl dan 30 oed, pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig, pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsryweddol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.