Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol: Y Trydydd Sector - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Manylion y swydd
Rôl y corff
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (y Bwrdd Iechyd Prifysgol) sy'n cynllunio ac yn darparu holl wasanaethau gofal iechyd y GIG i bobl Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a'r siroedd cyffiniol, sef cyfanswm o tua 384,000 o bobl ar draws chwarter arwynebedd tir Cymru.
Mae'n darparu gwasanaethau acíwt, sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anableddau dysgu drwy ysbytai cyffredinol a chymunedol, canolfannau iechyd, meddygon teulu, deintyddion, fferyllwyr ac optometryddion, a safleoedd eraill.
Mae gan y Bwrdd Iechyd Prifysgol bedwar prif ysbyty sef Bronglais yn Aberystwyth, Glangwili yng Nghaerfyrddin, Tywysog Philip yn Llanelli a Llwynhelyg yn Hwlffordd. Hefyd mae ganddo saith ysbyty cymunedol. Yn gwasanaethu'r boblogaeth mae 48 meddygfa, 46 practis deintyddol, 3 practis orthodontig, 48 darparwr gwasanaeth optometrig, 99 fferyllfa gymunedol, a 15 canolfan iechyd, ynghyd â nifer o leoliadau sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, anableddau dysgu a gwasanaethau eraill perthnasol. Caiff gwasanaethau arbenigol iawn a thrydyddol eu comisiynu gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru.
Mae gan y Bwrdd Iechyd drefniadau llywodraethiant a sicrwydd sy'n cael eu datblygu a'u cryfhau'n gyson. Mae cyfrifoldeb ar y Bwrdd i gynnal trefniadau llywodraethiant priodol er mwyn sicrhau ei fod yn gweithredu'n effeithiol ac yn darparu gofal diogel o ansawdd uchel, gan gydnabod yr angen i lywodraethu'r sefydliad yn effeithiol a thrwy wneud hynny godi hyder y cyhoedd a'r rhanddeiliaid. Mae pob un o aelodau'r Bwrdd yn rhannu'r cyfrifoldeb corfforaethol dros lunio strategaeth, sicrhau atebolrwydd, monitro perfformiad a llywio diwylliant, ynghyd â sicrhau bod y Bwrdd yn gweithredu mor effeithiol â phosib. Dyma ran hanfodol o swyddogaeth y bwrdd er mwyn gwella perfformiad, sicrhau bod y gwasanaeth yn canolbwyntio ar fuddiannau'r cleifion a chreu diwylliant sy'n helpu i sicrhau deialog agored.
Yn unol â gwerthoedd craidd y GIG yng Nghymru - a luniwyd i sicrhau llywodraethiant da a chyrraedd safonau gofal uchel (fel y gwelir yn e-lawlyfr llywodraethu'r GIG), mae’r Bwrdd Iechyd Prifysgol yn gosod pwyslais sylweddol ar:
• Roi ansawdd a diogelwch uwchlaw popeth
• Integreiddio gwelliant yn ein gwaith bob dydd
• Canolbwyntio ar atal, gwella iechyd ac anghydraddoldeb
• Gweithio mewn partneriaeth
• Buddsoddi yn y staff.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd Aelodau Annibynnol, ymysg pethau eraill, yn:
• Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd
• Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol, a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
• Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol
• Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, y trydydd sector a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau
• Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau bod y penderfyniadau'n agored ac yn dryloyw.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Bydd Aelodau Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:
Gwybodaeth a Phrofiad
• Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd
• Y gallu i gyfrannu'n effeithiol ar lefel y Bwrdd
• Y gallu i sicrhau bod y swyddogion gweithredol yn atebol am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
• Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth.
Priodoleddau Personol a Sgiliau
Mae'r Bwrdd Iechyd wedi diffinio set o werthoedd craidd cyffredin. I'ch helpu i ddangos eich ymrwymiad i'r gwerthoedd hyn bydd angen ichi ddangos y canlynol:
• Y gallu i “Roi Cleifion yn Gyntaf;
• Y gallu i weithio fel rhan o dîm ac mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol eraill
• Y gallu i werthfawrogi a pharchu eraill
• Y gallu i gyfathrebu'n agored ac yn onest.
Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.
Meini Prawf Hanfodol
Rhaid ichi fod yn weithiwr mewn sefydliad trydydd sector, neu’n aelod o sefydliad o’r fath sy’n gweithredu yn ardal y Bwrdd Iechyd Prifysgol: yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion neu Sir Benfro.
Byddwch yn arddangos:
• Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r trydydd sector yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro
• Y gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â’r trydydd sector mewn amgylchedd bwrdd strategol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus
E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol ar gyfer y Trydydd Sector, cysylltwch â Maria Battle, Cadeirydd neu Joanne Wilson, Ysgrifennydd y Bwrdd:
Ffôn: 01267 239637
E-bost: maria.battle2@wales.nhs.uk neu joanne.wilson4@wales.nhs.uk
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.