Swydd Wag -- Aelod - Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Manylion y swydd

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol
Cynhelir cyfarfodydd yn rhithiol, yng Nghaerdydd a ledled Cymru
£282 y dydd. Mae gan Aelodau hawl hefyd i gael  costau teithio a threuliau eraill o fewn terfynau rhesymol
1
mis

Rôl y corff

Ym mis Hydref 2021, cyhoeddwyd yr Adolygiad Deng Mlynedd o Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (yr adolygiad). Gwnaeth yr adolygiad annibynnol argymhellion yn ymwneud â gweithredu Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) a’r cymorth ysgrifenyddol y mae’n ei gael gan Lywodraeth Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru’n cytuno gyda’r argymhelliad y dylai corff ar wahân i Lywodraeth Cymru roi cymorth ysgrifenyddol i’r Panel, gan y byddai hyn yn atgyfnerthu annibyniaeth gweithrediad a swyddogaethau’r Panel ac osgoi gwrthdaro buddiannau o fewn Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig galluogi’r Comisiwn (y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru presennol) i ddarparu cymorth ysgrifenyddol, gan dynnu’r swyddogaeth oddi ar Lywodraeth Cymru. Mae’r Comisiwn eisoes yn gorff corfforaethol ac yn gallu cyflogi staff, cynnal asedau, yn gorfod sefydlu pwyllgor archwilio, a llunio cyfrifon. Mae Gweinidogion Cymru felly’n credu, yn ogystal â mynd i’r afael â’r argymhelliad yn yr Adolygiad yn ymwneud â’r swyddogaeth ysgrifenyddol, bydd y trefniadau hyn yn sicrhau bod gweithrediad y Panel yn dryloyw ac yn effeithiol.

Mae Gweinidogion Cymru’n cynnig y dylid mynd ymhellach nag argymhellion yr Adolygiad drwy ddiddymu’r Panel a throsglwyddo ei swyddogaethau i’r Comisiwn. Byddai hyn yn golygu y byddai un set o gomisiynwyr yn penderfynu ar nifer y cynghorwyr ar draws Cymru, y trefniadau etholiadol, a chydnabyddiaeth tâl y cynghorwyr. Mae synergedd sylweddol yn y gwaith hwn sy’n dibynnu ar yr un data yn ymwneud â rôl cynghorwyr, y materion sy’n effeithio ar y rôl honno a dealltwriaeth o’r cymunedau y mae cynghorwyr yn eu cynrychioli.

Mae’r cynigion hyn wedi’u hamlinellu ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol.


Mae swydd aelod o’r Comisiwn hefyd yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd, a chroesawn geisiadau ar gyfer y ddwy swydd.

 

Disgrifiad o'r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i fod yn rhan o bennu ystod ac uchafswm y tâl sy'n daladwy i:

 

  • Gynghorwyr sir a bwrdeistref sirol
  • Aelodau Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol
  • Aelodau Awdurdodau Tân ac Achub Cymru
  • Cynghorwyr tref a chymuned

 

Rôl a chyfrifoldebau 

Mae'n ofynnol i'r Panel lunio adroddiad blynyddol, sy’n rhagnodi lefel y lwfansau a delir i gynghorwyr ac aelodau o'r sefydliadau a restrir uchod. Caiff y Panel hefyd lunio Adroddiadau Atodol ar unrhyw adeg y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol. Wrth baratoi ei adroddiadau, mae'n ofynnol i'r Panel ystyried effaith ariannol debygol ei benderfyniadau ar yr awdurdod neu'r awdurdodau dan sylw. Mae aelodau'r panel hefyd yn ystyried unrhyw newidiadau a awgrymir i gyflog prif weithredwr cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, yn ôl yr angen.

 

Disgrifiad rôl yr Aelod
 

  • Cymryd rhan yng Nghyfarfodydd y Panel gan gynnwys gosod yr agenda a'r trywydd, cynhyrchu tystiolaeth, trafod a herio’n adeiladol a phennu lefelau cydnabyddiaeth ariannol.
  • Ymgysylltu'n fwriadol ag ystod eang o unigolion a sefydliadau ynghylch materion yn ymwneud â chydnabyddiaeth.       
  • Dadansoddi a dehongli gwybodaeth a defnydd effeithiol o dystiolaeth i gefnogi proses benderfynu’r Panel.  
  • Cyfrannu at ddatblygu polisi drwy brofiad / gwybodaeth am lywodraeth leol neu ganghennau eraill o wasanaethau cyhoeddus.
  • Deall ac ymrwymo i gydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol wrth ymgymryd â rôl yr Aelod. 

    Sgiliau yn y Gymraeg

    Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
    Dymunol
    Gallu darllen y rhan fwyaf o ddeunydd mewn sefyllfa waith
    Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
    Deall sgyrsiau ym mhob sefyllfa waith
    Gallu sgwrsio yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd gwaith

    Manyleb y person

    Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad.


    Meini Prawf Hanfodol

    Dylai pob Ymgeisydd ddangos tystiolaeth o:

     

    • Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig ag unigolion sy'n amrywio o aelodau o'r cyhoedd i gynrychiolwyr etholedig ac uwch arweinwyr.
    • Y gallu i ddehongli a dadansoddi tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau a dod i benderfyniadau ar sail y dystiolaeth honno sy'n deg ac yn rhesymol.
    • Y gallu i weithio'n hyderus fel aelod o'r tîm ac yn annibynnol yn ôl y gofyn.
    • Dealltwriaeth ac ymrwymiad i gydraddoldeb a herio arferion gwahaniaethol.
    • Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt; (Egwyddorion Nolan).
    • Y gallu i weithio mewn ffordd wleidyddol niwtral.
    • Dealltwriaeth o bwysigrwydd democratiaeth leol a gwasanaethau cyhoeddus.

     

    Meini prawf dymunol ar gyfer rôl yr Aelod 

    • Y gallu i ddeall a siarad Cymraeg
    • Ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr a / neu waith cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau tref a chymuned, Awdurdodau Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru.
    • Profiad o gomisiynu a dadansoddi ymchwil
    • Profiad o bolisïau cydnabyddiaeth tâl yn y sector cyhoeddus

     

    Dyddiadau cyfweliadau

    13 Mawrth 2023
    17 Mawrth 2023

    Dyddiad cau

    27/01/23 16:00

    Gwybodaeth ychwanegol

    I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

     

    Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

    Yr Uned Penodiadau Cyhoeddus

    E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

     

    I gael rhagor o wybodaeth am rôl Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a rôl yr Aelod, cysylltwch â Leighton Jones, yr Is-adran Democratiaeth Llywodraeth Leol:

     

    Ffôn: 0300 025 3038

    E-bost: Leighton.jones@llyw.cymru

     

    Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â'r  Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

     

    I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus  

    Sut i wneud cais

    I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

    Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

    Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

    Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

    I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

    Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

    Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

    Commissioner for Public Appointments logo

    Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.