Swydd Wag -- Aelod - Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (“y Comisiwn”) yn Gorff annibynnol a Noddir gan Lywodraeth Cymru y mae ei ddyletswyddau statudol wedi'u nodi yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.
Mae’r dyletswyddau hyn yn cynnwys:
- Sicrhau bod trefniadau etholiadol prif ardaloedd yn addas i'r diben – gan ddatblygu a chyflwyno rhaglen dreigl ddeng mlynedd o adolygiadau etholiadol.
- Gwneud Gorchmynion mewn perthynas â chynigion gan brif gynghorau ar gyfer newidiadau i ardaloedd cymunedol yn dilyn eu hadolygiadau o ffiniau cymunedol a threfniadau etholiadol.
- Fel y bo'n briodol, sicrhau bod ffiniau ardaloedd prif gynghorau yn addas i'r diben.
- Cynnal lefel uchel o lywodraethiant corfforaethol ar gyfer y Comisiwn.
Yn ogystal â'i ddyletswyddau statudol, gall y Comisiwn gynnal adolygiadau neu ddarparu cyngor a gwybodaeth ar gais awdurdodau lleol neu yn unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru.
O ran trefniadau prif ardaloedd, mae'r Comisiwn yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sydd, yn ei farn ef, er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y Comisiwn yn mynd drwy gyfnod o newidiadau mawr, a gellir gweld y manylion hyn ym Mhapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar Weinyddu a Diwygio Etholiadol Papur Gwyn ar weinyddu a diwygio etholiadol | LLYW.CYMRU.
Cynhelir cyfarfodydd y Comisiwn yn fisol. Fel arfer, mae'r rôl yn golygu diwrnod neu ddau y mis, ond gallai fod yn dri neu bedwar diwrnod y mis yn ystod y rhaglen adolygu. Cynhelir cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ogystal â thrwy fideogynadledda.
Caiff Gweinidogion Cymru benodi hyd at bum aelod i'r Comisiwn, sy'n cynnwys Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a hyd at dri aelod arall. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd yw tri.
Darperir ysgrifenyddiaeth i'r Comisiwn gan brif weithredwr a naw aelod o staff. Mae'r strwythur staffio yn newid yn unol â rhaglenni gwaith y Comisiwn.
Mae'r Comisiwn yn cynnal cyfarfodydd hybrid a gall yr aelodau ddewis eu mynychu yn swyddfa'r Comisiwn yn Nhŷ Hastings, Caerdydd, neu yn rhithiwir drwy MS Teams. Darperir offer a chymorth TGCh i bob Comisiynydd i'w galluogi i fynychu cyfarfodydd. Oherwydd natur gwaith y Comisiwn, efallai y bydd adegau pan fydd angen cyfarfodydd wyneb yn wyneb ledled Cymru.
Telir swydd y cadeirydd ym Mand 2 - £198 am ddiwrnod llawn, £99 am hanner diwrnod.
Ystyrir bod aelodau Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ddeiliaid swydd at ddibenion treth ac Yswiriant Gwladol. Bydd treth yn daladwy ar y ffioedd a delir, yn unol ag Atodlen E i'r Ddeddf Trethi, yn ogystal â chyfraniadau Yswiriant Gwladol dosbarth 1, a chânt eu talu drwy gyflogres y Comisiwn. Nid oes TAW yn daladwy ar y ffioedd.
Gellir hawlio costau teithio a threuliau rhesymol eraill y gellid eu hysgwyddo wrth wneud gwaith ar ran y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol ar gyfraddau a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru. Efallai y bydd Aelodau hefyd yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau mewn perthynas â gofal plant/gofal yr henoed/gofalwr cynorthwyol, tra'n gwneud gwaith ar ran y Comisiwn.
Gwneir pob ymdrech i ddarparu pa bynnag gymorth rhesymol sydd ei angen ar aelodau ag anabledd i'w helpu i gyflawni eu dyletswyddau.
Bydd y Comisiwn a Llywodraeth Cymru yn darparu sesiynau cynefino ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Disgrifiad o'r swydd
Y Rhaglen Adolygu
Bydd yr Aelodau yn:
- Datblygu’r Polisi ac Ymarfer a’r Fethodoleg Maint Cynghorau ar gyfer y Rhaglen Adolygu Etholiadol nesaf, gan adlewyrchu’r hyn a ddysgwyd o'r rhaglen flaenorol a chomisiynu ymchwil ar faterion penodol.
- Sicrhau bod ymgynghori eang â Llywodraeth Cymru, cynghorau sir a bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned a thref, a'r holl randdeiliaid eraill fel rhan o’r broses hon.
- Asesu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer nifer cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli, gan ystyried cymhlethdodau ac, yn aml ffactorau sy’n gwrth-ddweud ei gilydd, o ran demograffeg a seilwaith yr ardal sy'n cael ei hadolygu, ac ystod eang o safbwyntiau a geir yn adborth drwy ymgynghori.
- Gweithredu ar y cyd i wneud penderfyniadau drafft a therfynol ar adolygiadau etholiadol unigol.
- Gweithio gyda phrif gynghorau i sicrhau bod ffiniau cymunedau a threfniadau etholiadol yn cael eu hadolygu a'u cydgysylltu'n rheolaidd â'r rhaglen o adolygiadau etholiadol.
- Gweithredu ar y cyd i wneud gorchmynion ar adolygiadau cymunedol unigol.
- Bod yn ymwybodol, bob amser, o'r risgiau, o ran enw da a materion eraill, sy'n gysylltiedig â'r adolygiadau, a'r canlyniadau posibl i'r Comisiwn, ei aelodau a Llywodraeth Cymru.
- Rhoi cymorth a rheolaeth i'r Comisiwn wrth iddo fabwysiadu methodoleg newydd i gynnal adolygiadau etholiadol ac ehangu ei gylch gwaith i wneud gwaith Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Comisiynydd Arweiniol
Mae pob Aelod yn gyfrifol am oruchwylio nifer o adolygiadau etholiadol penodol fel Comisiynydd Arweiniol. Wrth gyflawni'r rôl hon bydd aelod yn:
- Arwain cyflwyniadau ac annerch cyfarfodydd ymgysylltu â chynghorau sir a bwrdeistref sirol gan gynnwys yr arweinydd, aelodau cabinet, cynghorwyr wardiau, arweinwyr grwpiau gwleidyddol, ac uwch-swyddogion cynghorau; cynghorwyr a chlercod cynghorau cymuned a thref; y cyhoedd a grwpiau eraill a fydd â diddordeb yn yr adolygiad.
- Ymweld â'r ardal leol sy'n cael ei hadolygu.
- Cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu e.e. gweithdai, seminarau
- Asesu ystod gychwynnol o opsiynau ar gyfer nifer y cynghorwyr a'r ardaloedd y maent yn eu cynrychioli.
- Cynnig yr opsiynau a ffefrir a'r rhesymau dros y penderfyniadau hynny i'r Comisiwn.
- Goruchwylio'r broses sicrhau ansawdd ar gyfer cynhyrchu adroddiadau drafft a therfynol.
Llywodraethiant Corfforaethol
Rhaid i’r Aelodau hefyd:
- Sicrhau bod y sefydliad yn cael ei redeg yn dda a’i fod yn atebol
- Monitro'r gyllideb yn fisol (£1,205,000 yn 2022/23). Mae hyn yn cynnwys cyllideb yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ar gyfer y Comisiwn Ffiniau i Gymru (sy'n ymwneud ag adolygiadau seneddol).
- Sicrhau bod y Comisiwn yn gweithio yn unol â deddfwriaeth, ei gynlluniau, ei weithdrefnau a'i bolisïau a bod y rhain yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
- Bod yn ymwybodol o nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru a sicrhau bod ei hegwyddorion o ran datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth a'r Gymraeg yn rhan annatod o waith y Comisiwn.
- Darparu arweiniad a ffocws i'r sefydliad wrth iddo wireddu ei amcanion a chyflawni ei ddyletswyddau a sicrhau bod Llythyr Cylch Gwaith y Gweinidog yn cael ei gyflawni.
- Cefnogi'r Prif Weithredwr mewn perthynas â materion adnoddau dynol, gan sicrhau bod sgiliau'r staff yn cael eu datblygu a'u cynnal.
- Gweithio'n agos fel tîm o Gomisiynwyr a chyda'r staff.
- Ymgysylltu'n gyson â rhanddeiliaid i gynnal yr enw da am ragoriaeth.
Yn ogystal, efallai y bydd Aelod yn ymuno â'r Pwyllgor Archwilio ac Asesu Risg neu Is-bwyllgor y Gweithlu, a byddai hynny’n cynnwys ymrwymiad pellach o ran amser.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'r sgiliau a'r profiadau rydym yn chwilio amdanynt wedi'u nodi isod. Wrth gyflwyno eich datganiad personol dylech ddangos sut y gellid defnyddio eich sgiliau a'ch profiadau yn y rôl hon.
Elfennau hanfodol
Rhaid i ymgeiswyr allu dangos:
- gwybodaeth a dealltwriaeth resymol o sut mae llywodraeth leol yn gweithredu yng Nghymru;
- sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu cryf – yn gallu ymgysylltu ag amrywiaeth eang o bobl ar lefel un i un ac yn dorfol;
- y gallu i ddefnyddio barn annibynnol – gwneud penderfyniadau ac egluro sut yr ydych wedi gwneud y penderfyniad hwnnw;
- y gallu i ganfod a llunio datrysiadau gan ddefnyddio dull trefnus a dadansoddol;
- y gallu i werthuso amrywiaeth eang o wybodaeth, gan gynnwys data daearyddol, a llunio casgliad rhesymegol;
- dealltwriaeth o bwysigrwydd rheolaeth gorfforaethol ac ariannol effeithiol ar sefydliad;
- cyfrifoldeb corfforaethol ar y cyd a dealltwriaeth o risg;
- profiad o weithio ym maes newid sefydliadol;
- dealltwriaeth o ddefnyddio ymchwil a dadansoddi i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.