Swydd Wag -- Cadeirydd

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Port Talbot
£69,840 y flwyddyn.
15
mis

Rôl y corff

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn un o'r sefydliadau iechyd integredig mwyaf yn y DU, ac mae'n hyrwyddo ac ysgogi rhagoriaeth ac ymchwil glinigol.  Mae ganddo boblogaeth o tua 500,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 16,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud yn uniongyrchol â gofal i gleifion.  Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd yn atebol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am berfformiad y Bwrdd a’i lywodraethu effeithiol, am gynnal gwerthoedd y GIG, ac am ennyn hyder y cyhoedd a phartneriaid ledled Cymru. 

 

Bydd Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:-

 

  • Yn datblygu Gweledigaeth Strategol ar gyfer gwasanaethau'r Bwrdd yn y dyfodol, gan nodi a gwireddu'r sgiliau a'r potensial cynhenid o fewn y sefydliad i ddatblygu gwasanaeth arloesol o'r radd flaenaf;

 

  • Yn cynnig arweiniad cryf, effeithiol a gweladwy ar draws cyfrifoldebau'r Bwrdd, yn fewnol drwy'r Bwrdd, ac yn allanol drwy ei gysylltiadau ag ystod eang o randdeiliaid a phartneriaid ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd Iechyd ac yn genedlaethol;

 

  • Yn sicrhau bod y Bwrdd yn darparu'n effeithiol nodau strategol a gweithredol y Bwrdd Iechyd drwy gyflawni nodau strategol, polisïau a threfn lywodraethu;

 

  • Yn gyfrifol am gynnal yr ansawdd uchaf o ran safonau ac arferion iechyd cyhoeddus, gan wella ansawdd a diogelwch gofal iechyd;

 

  • Yn atebol am berfformiad y Bwrdd ar lefel y gymuned, yr awdurdod lleol, y Bwrdd ac yn genedlaethol, drwy gytuno ar gynllun tymor canolig integredig tair blynedd a chynllun cyflawni blynyddol, a'r gwerthusiad blynyddol o’r cyraeddiadau yn erbyn y cynllun yn gyhoeddus gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

  • Yn sicrhau bod y Prif Weithredwr yn atebol am bob un o'i gyfrifoldebau;

 

  • Yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid, yn arbennig Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol, y Trydydd Sector a Phartneriaid Cymdeithasol, a hefyd gyda chontractwyr gofal sylfaenol, i sicrhau bod gwasanaethau diogel ac effeithiol yn cael eu cynllunio a'u darparu;

 

  • Yn rhoi sicrwydd a threfn lywodraethu ar gyfer gofalu'n briodol am arian cyhoeddus ac adnoddau eraill y mae'r Bwrdd yn atebol amdanynt;

 

  • Yn rhoi sicrwydd bod y Bwrdd yn cael ei lywodraethu'n effeithiol, yn unol â'r fframwaith a'r safonau a osodwyd ar gyfer y GIG yng Nghymru;

 

  • Mabwysiadu rôl fel llysgennad allanol, gan gynrychioli'r Bwrdd yn gyhoeddus a meithrin hyder y cyhoedd.

 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Gwybodaeth a Phrofiad

Hanfodol

  • Y gallu i ddatblygu gweledigaeth strategol ar gyfer y dyfodol;

  • Y gallu i ddarparu arweinyddiaeth ar systemau a gweithio gyda Byrddau Iechyd, Llywodraeth Cymru, grwpiau cymunedol, cleifion a rhanddeiliaid eraill i ddatblygu ac ysgogi'r weledigaeth strategol honno;

  • Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

  • Dealltwriaeth eang o faterion llywodraethu a sut y mae llywodraethu yn berthnasol i reoli corfforaethol, clinigol a rheoli gwybodaeth.


Dymunol

  • Deall problemau a blaenoriaethau iechyd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;


Priodoleddau a Sgiliau Personol


Hanfodol


  • Y gallu i arwain ac ysbrydoli staff, edrych i'r dyfodol a nodi'r materion allweddol ar gyfer y Bwrdd;
  • Ymrwymiad a phenderfyniad, ynghyd â’r gallu i feithrin gweledigaeth a datblygu strategaethau wedi'u diffinio, er mwyn cyflawni nodau hirdymor a thymor byr;

  • Y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill;

  • Y gallu i sicrhau bod aelodau'r Bwrdd yn gweithio'n effeithiol gyda'i gilydd drwy gymryd rhan mewn proses gadarn a thryloyw o wneud penderfyniadau;

  • Y gallu i ysgogi a datblygu'r Bwrdd i ddiffinio rolau a chyfrifoldebau er mwyn sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd;



Dymunol


  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn a digon o ddylanwad personol a hygrededd i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol â sgiliau dylanwadu a negodi cadarn;

  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, ynghyd â'r gallu i fod yn glir a chryno, a'r gallu i feithrin cysylltiad â phobl ar bob lefel;

  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;

  • Y gallu i fod yn annibynnol ac yn gadarn.


 


 Rhaid i’r Cadeirydd hefyd ddangos:


  • Dealltwriaeth glir o faterion cydraddoldeb ac ymrwymiad iddynt. 

 

Dyddiadau cyfweliadau

27 Mai 2019
31 Mai 2019

Dyddiad cau

10/05/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 

Y Ganolfan Cydwasanaethau Corfforaethol

Ffôn: 03000 255454

E-bost: PublicAppointments@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth neu i drefnu trafodaeth anffurfiol am rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

 

Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru.

Ffôn: 03000 251182 (Dr Goodall)

E-bost: Andrew.Goodall@llyw.cymru.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: https://bipba.gig.cymru/

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â Desg Gymorth Canolfan Cydwasanaethau Corfforaethol Llywodraeth Cymru ar 03000 255454 neu anfonwch e-bost i publicappointments@llyw.cymru.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y rôl hon, cliciwch ar swydd wag Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ac yna cliciwch ar y botwm 'Gwneud cais' ar waelod y dudalen ar yr ochr chwith. Y tro cyntaf ichi wneud cais am swydd, bydd angen ichi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith y mae angen ichi gofrestru, a thrwy wneud hynny byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu cyflwyno, trwy'ch cyfrif.

 

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais.  I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol.

 

Datganiad personol yn ateb y cwestiynau isod yw'r ddogfen gyntaf. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen ategol y bydd rhaid ichi ei chyflwyno.

 

Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein. 

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.