Swydd Wag -- 3 x Aelodau Anweithredol - S4C (Sianel Pedwar Cymru)

Manylion y swydd

S4C (Sianel Pedwar Cymru)
Ar hyn o bryd mae Bwrdd S4C yn cyfarfod bob mis, fel arfer ym mhencadlys S4C yng Nghaerfyrddin, ond mae hefyd yn cyfarfod mewn lleoliadau eraill yn ystod y flwyddyn ac yn cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ledled Cymru.
£9,650 y flwyddyn. Gellir hawlio treuliau rhesymol.
1
wythnos

Rôl y corff

Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, bob un ohonynt wedi’u penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Daw aelodau â sgiliau a phrofiad amrywiol i’r Bwrdd, er bod disgwyl i bob un ohonynt sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gorchwyl o ran gwasanaeth cyhoeddus a bod arian cyhoeddus ac arian o ffi’r drwydded a ddyrennir i S4C yn cael eu defnyddio’n briodol.

Bydd hefyd yn ofynnol i Aelodau’r Bwrdd sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus S4C yn cael eu darparu yn unol â gorchwyl statudol S4C a darpariaethau’r Cytundeb Partneriaeth presennol y cytunwyd arno rhwng S4C a’r BBC.

Disgrifiad o'r swydd

Mae disgwyl i Aelodau’r Bwrdd wneud y canlynol:

  • Gweithredu ar y cyd fel bwrdd unedol S4C a rhoi cymorth a chyngor, a hefyd sicrhau bod y Prif Weithredwr a’i dîm gweithredol yn cael eu herio’n briodol a’u dal i gyfrif.
  • Rhoi cymorth i’r Cadeirydd, ar y cyd â’r Prif Weithredwr, wrth oruchwylio’r berthynas â’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS), y BBC, Ofcom a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a’r sector cynhyrchu annibynnol.
  • Cyflawni dyletswyddau ymgysylltu â’r cyhoedd fel y bo angen ar ran S4C, gan gynnwys cyfarfodydd ac achlysuron cyhoeddus ledled Cymru.
  • Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd ac unrhyw gyfarfodydd/diwrnodau arbennig, a mynychu is-bwyllgorau’r Bwrdd fel y bo angen.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Bydd angen dysgu sgiliau yn y Gymraeg pan benodir

Manyleb y person

Mae’r Bwrdd yn ceisio sicrhau bod ei aelodau, rhyngddynt, yn gallu tynnu ar ystod eang o arbenigedd a gwybodaeth mewn meysydd arbennig sy’n berthnasol i waith S4C. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i:

  • Darlledu, cyfryngau digidol a’r diwydiannau creadigol ehangach
  • Yr iaith Gymraeg
  • Cyfathrebu a marchnata
  • Busnes a masnach
  • Cyllid, archwilio a sicrwydd

Yn dilyn yr adolygiad annibynnol o S4C a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2018, mae llywodraethu S4C bellach yn seiliedig ar fodel Bwrdd Unedol (yn lle’r Bwrdd Awdurdod Anweithredol blaenorol). Hyd nes y cyflwynir deddfwriaeth sylfaenol i hwyluso nifer o elfennau’r strwythur arfaethedig, bydd y Bwrdd yn gweithredu fel Bwrdd Unedol Cysgodol yn unol â Rheolau Sefydlog newydd y Bwrdd. Disgwylir i’r Aelodau a benodir barhau yn eu swyddi pan gaiff y bwrdd statudol ei ffurfio.

Dyddiadau cyfweliadau

14 Rhagfyr 2020
14 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

30/10/20 17:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais, i wneud cais, anfonwch y canlynol at philip.hodges@dcms.gov.uk


● CV, heb fod yn fwy na dwy ochr A4;

● Datganiad ategol, heb fod yn fwy na thair ochr A4, gan roi enghreifftiau a nodi sut rydych yn bodloni’r meini prawf; a


Nodwch ‘Aelod S4C’ yn y llinell Pwnc. Os hoffech siarad â rhywun am y broses ymgeisio a phenodi, cysylltwch â Phil Hodges yn yr Adran DCMS ar 020 7211 2898 (cyfeiriad e-bost: philip.hodges@dcms.gov.uk).

I siarad â rhywun am S4C a’i Bwrdd, cysylltwch ag Owain Lloyd, Ysgrifennydd Bwrdd S4C (Owain.Lloyd@s4c.cymru).
Ceir gwybodaeth bellach ar wefan S4C yn http://www.s4c.cymru/cy/

Hyderus Ynghylch Anabledd Rydym yn eich sicrhau y byddwn yn rhoi cyfweliad i unrhyw un ag anabledd y mae ei gais yn bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y swydd. O ddefnyddio’r term ‘meini prawf sylfaenol’, rydym yn golygu bod yn rhaid i chi roi tystiolaeth yn eich cais sy’n dangos eich bod yn bodloni lefel y cymhwysedd sy’n ofynnol o dan bob un o’r meini prawf hanfodol. Os hoffech wneud cais drwy’r cynllun hwn, nodwch hyn yn yr e-bost neu’r llythyr eglurhaol wrth gyflwyno’ch cais.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.