Penodiadau cyhoeddus
Cliciwch ar y ddolen ‘Penodiadau Cyhoeddus’ yn y fwydlen uchod i chwilio am ein cyfleoedd presennol ac ymgeisio amdanynt.
I ymgeisio
I ymgeisio am benodiad, fe fydd angen i chi gofrestru am gyfrif ar ein system ymgeisio ar-lein. Gallwch wneud hyn yn hawdd drwy bwyso ‘Cofrestru’ uchod, a llenwi ffurflen gofrestru fyr. Os ydych wedi creu cyfrif yn y gorffennol, gallwch ‘Mewngofnodi’ gan ddefnyddio’r manylion wnaethoch chi gofrestru yn wreiddiol.
Mewngofnodi
Unwaith i chi greu cyfrif, gallwch fewngofnodi unrhyw bryd i ymgeisio am gyfleoedd, edrych ar statws eich ceisiadau ac edrych ar unrhyw ohebiaeth sydd wedi’i hanfon atoch ynghylch eich ceisiadau.
Rhybuddion Swydd
Unwaith y byddwch chi wedi mewngofnodi gallwch drefnu i dderbyn rhybuddion swydd dros e-bost i'ch hysbysu pan fyddwn yn hysbysebu Penodiadau Cyhoeddus newydd. Yn syml, cliciwch ar y ddolen 'Creu rhybudd swydd' ar waelod y rhestr o swyddi gwag a dilynwch y cyfarwyddiadau.
Help a chymorth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y broses ymgeisio, neu os hoffech gysylltu â ni, yna cliciwch ar yr opsiwn 'Canolfan Gymorth' yn y bar dewislen uchod.
Y Banc Talent Penodiadau Cyhoeddus
Unwaith i chi gael cyfrif, gallwch hefyd gofrestru ar gyfer y Banc Talent Penodiadau Cyhoeddus (dolen) os ydych chi'n aelod o grŵp sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.