Methu Golygu
Rydych wedi ceisio golygu rhai pethau sydd wedi'u cwblhau ond nid yw'n bosib arbed y newidiadau. Dilynwch y cyfarwyddiadau isod
Sut i Olygu'r Rhannau sydd wedi'u Cwblhau
Y peth cyntaf i'w wneud yw gwneud copi o'r wybodaeth rydych wedi ei harbed ar y dudalen honno ar hyn o bryd. Y cam nesaf yw clirio'r dudalen gyfan. Gwnewch hyn drwy glicio ar y ddolen 'Cliciwch yma i glirio pob rhan' - o dan 'Arbed ac Ymlaen'. Bydd hyn yn cael gwared ar bob data yn y rhannau ar y dudalen honno. Wedi clirio'r rhannau dylech allu arbed unrhyw wybodaeth newydd.
Mae'r botwm 'Ail-osod tudalen' yn cael ei ddefnyddio i gael unrhyw ddata a gafodd ei ddileu gennych ar y dudalen honno yn ôl cyn i ichi bwyso'r botwm 'Arbed ac Ymlaen' i fynd i'r dudalen nesaf. Er enghraifft, os wnaethoch chi ddileu eich cyfeiriad mewn camgymeriad, cewch bwyso y botwm 'Ail-osod Tudalen' i gael yr wybodaeth honno yn ôl, cyn belled ag nad ydych wedi symud ymlaen i'r dudalen nesaf drwy bwyso'r botwm 'Arbed ac Ymlaen'.