Swydd Wag -- Is-gadeirydd a Phum Aelod Annibynnol - Iechyd a Gofal Digidol Cymru

Manylion y swydd

Iechyd a Gofal Digidol Cymru
Efallai y bydd yn ofynnol i ddeiliaid y swyddi deithio i'r brif swyddfa yng Nghaerdydd a lleoliadau eraill ledled Cymru i fynychu cyfarfodydd a chyflawni dyletswyddau eraill sy'n gysylltiedig â'r rolau. Mewn ymateb i COVID-19, cynhaliwyd cyfarfodydd hefyd drwy lwyfannau digidol. Lle mae hyn wedi bod yn effeithiol, mae hyn yn debygol o barhau.

Bydd yr Is-gadeirydd yn cael tâl o £21,408 y flwyddyn a delir mewn ôl-daliadau yn fisol neu'n chwarterol, fel y cytunwyd gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru.

Bydd yr Aelod Annibynnol yn cael tâl o £9,360 y flwyddyn a delir mewn ôl-daliadau yn fisol neu yn chwarterol, fel y cytunwyd gydag Iechyd a Gofal Digidol Cymru. 

Lle caniateir i Aelod Annibynnol gael amser i ffwrdd o'i swydd bresennol gyda thâl i gyflawni ei ddyletswyddau, ni chaiff unrhyw dâl ychwanegol am ymgymryd â rôl yr Aelod Annibynnol. Byddant yn cael eu trin yr un ffordd â chyflogeion eraill sy'n cael amser i ffwrdd gyda thâl i ymgymryd â dyletswyddau cyhoeddus.

Ymrwymiad amser

Mae'r ymrwymiad amser ar gyfer y rolau hyn yn seiliedig ar o leiaf: 

  • Wyth (8) diwrnod y mis ar gyfer yr Is-gadeirydd, a
  • Pedwar (4) diwrnod y mis ar gyfer Aelod Annibynnol,

Ond, bydd hyn yn amodol ar ofynion y sefydliad, ac yn aml mae'n fwy na'r gofyniad sylfaenol.

4
mis

Rôl y corff

Mae Cymru Iachach yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynyddu buddsoddiad mewn Iechyd a Gofal digidol yn sylweddol. Bydd hyn yn rhan allweddol o drawsnewid ein system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cymru Iachach yn cydnabod yr her sylweddol o ysgogi newid digidol yn gyflym ac ar raddfa. Mae'n nodi meysydd blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi, yn disgrifio dull 'llwyfan agored' newydd o ymdrin ag arloesi digidol, ac yn cydnabod yr angen i gryfhau trefniadau arwain a darparu cenedlaethol.


Yn ystod ymateb y GIG i COVID-19 mae'r dull o ymdrin ag iechyd a gofal digidol wedi caniatáu iddo sicrhau mynediad parhaus at wasanaethau gofal iechyd.


Cyn hyn comisiynodd Llywodraeth Cymru ddau adolygiad mawr o ddarpariaeth ddigidol yng Nghymru yn dilyn adroddiad Archwilio Cymru ar "Systemau Gwybodeg yn GIG Cymru" a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2018 ac adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar "Systemau Gwybodeg yn GIG Cymru" a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2018. Archwiliodd yr adolygiad cyntaf sut y caiff systemau digidol eu cynllunio i gydweithio ('yr Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol') a'r ail ar strwythurau cyflawni a threfniadau gwneud penderfyniadau ('yr Adolygiad o Lywodraethu Gwybodeg Iechyd’). Mae'r ddau adolygiad yn darparu'r cyd-destun ar gyfer newidiadau i ddull a darpariaeth gwasanaethau digidol ar draws GIG Cymru.


Ar 30 Medi 2019, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y byddai Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn trosglwyddo o'i strwythur presennol, fel rhan o Ymddiriedolaeth Felindre, i Awdurdod Iechyd Arbennig newydd.


“Drwy ddangos bod ein sefydliad gwasanaethau digidol cenedlaethol yn sefydliad pwrpasol, rydym yn adlewyrchu bod technoleg ddigidol yn ffordd bwysig o sicrhau newid, fel yr amlinellir yn Cymru Iachach. Bydd y newid hwn yn cryfhau trefniadau llywodraethu ac atebolrwydd, o ran y berthynas â sefydliadau eraill yn GIG Cymru a thrwy fesurau arwain a goruchwylio cryfach. Gwneir hynny o dan arweiniad aelodau bwrdd a chadeirydd annibynnol sydd â phrofiad a dealltwriaeth o newid digidol.”


Mae sefydlu'r corff newydd hefyd yn cyd-fynd â gwaith yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal ac yn ymateb iddo, a'r adroddiadau a'r argymhellion gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.   Dechreuodd yr ymgynghoriad ar swyddogaethau Awdurdod Iechyd Digidol Arbennig Cymru ar 7 Medi 2020 a bydd yn para tan 30 Tachwedd 2020.


Mae'r swyddogaethau sy'n destun ymgynghoriad fel a ganlyn:

Datblygu a Chefnogi Ceisiadau

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ffynhonnell ar gyfer datblygu ceisiadau a llwyfan o fewn ecosystem o ddatblygwyr eraill ar draws Iechyd a Gofal a phartneriaid masnachol.  

 

Bydd yn rhoi cymorth wrth ddylunio, datblygu a phrofi yn erbyn y bensaernïaeth genedlaethol waeth beth fo'r sefydliad sy'n datblygu'r cais. Er enghraifft, a yw ceisiadau'n cael eu datblygu'n 'fewnol', mewn mannau eraill o fewn Iechyd a Gofal neu'n cael eu caffael gan bartneriaid masnachol. Bydd y Prif Swyddog Digidol (CDO) dros Iechyd a Gofal (a'u swyddogion perthnasol) yn pennu safonau pensaernïol cenedlaethol y cytunwyd arnynt gan Lywodraeth Cymru.


Dylunio, comisiynu, cynllunio a darparu Gwasanaethau Digidol

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn helpu i ddarparu technolegau a meddalwedd newydd ar draws y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.


Bydd yn cefnogi'r gwaith strategol o gynllunio, caffael, rheoli contractau, cyfathrebu, newid busnes a chyflawni prosiectau a rhaglenni ym maes Iechyd a Gofal yng Nghymru.


Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddarparu gwasanaethau TG a seilwaith i gefnogi gwasanaethau cenedlaethol a ddefnyddir ar draws y sector Iechyd a Gofal yng Nghymru.


Rheoli Ansawdd a Chydymffurfiaeth Reoleiddiol

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn ffynhonnell canllawiau rheoli ansawdd a chydymffurfiaeth reoleiddiol i sicrhau bod atebion a gwasanaethau digidol a ddefnyddir ar draws y Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru o'r ansawdd rheoleiddiol angenrheidiol er mwyn darparu diogelwch i gleifion a gweithwyr proffesiynol, gan sicrhau bod gwybodaeth am gleifion yn cael ei thrin â'r llywodraethu priodol.


Rheoli Gwybodaeth

Iechyd a Gofal Digidol Cymru fydd y Trydydd Parti canolog a chydnabyddedig ar gyfer data a gwybodaeth Iechyd a Gofal am y ddarpariaeth o wasanaethau Iechyd a Gofal yng Nghymru a/neu sy'n deillio ohono.


Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sefydlu ac yn gweithredu systemau digidol ar gyfer casglu, dadansoddi a lledaenu gwybodaeth, lle mae angen yr wybodaeth honno i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau Iechyd a Gofal yng Nghymru ac yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.


Bydd hyn yn cynnwys y gofyniad i gyrff yng Nghymru ddarparu Gwasanaethau Iechyd a Gofal a ariennir yn gyhoeddus i ddarparu gwybodaeth fel sy'n ofynnol yn unol â chyfarwyddiadau Llywodraeth Cymru.


Llywodraethu Gwybodaeth

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chynnal Fframwaith Llywodraethu Gwybodaeth cenedlaethol sy'n cefnogi polisi Llywodraethu Gwybodaeth Iechyd a Gofal yng Nghymru.


Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cefnogi'r datblygiad drwy ddefnyddio arbenigedd a phrofiad wrth ddehongli'r gyfraith, darparu cyngor, arweiniad ac asesiadau cydymffurfio.

 

Seiberddiogelwch

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn darparu swyddogaeth strategol Seiberddiogelwch ar ran Iechyd a Gofal yng Nghymru a bydd yn cysylltu â gwledydd cartref eraill a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.


Bydd Uned Seiberddiogelwch Iechyd a Gofal Digidol Cymru, ochr yn ochr â Phrif Swyddog Digidol Iechyd a Gofal Cymru a'i swyddogion perthnasol, yn gosod safonau gofynnol ar gyfer GIG Cymru gan gynnwys ymgymryd â'r rolau sy'n ofynnol gan yr Awdurdod Cymwys ar ran Gweinidogion Cymru, yn unol â'r Gyfarwyddeb Systemau Rhwydwaith a Gwybodaeth.


Cyllid a Sicrwydd Busnes

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn sicrhau bod eu holl risgiau a'u cynilion ariannol yn cael eu cydnabod a'u rheoli.


Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn rheoli ei chyllidebau dirprwyedig a bydd yn gwneud penderfyniadau yn unol â'r trefniadau manwl yn y llythyr cylch gwaith blynyddol.


Gwasanaethau Adrodd

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyfrifol am ledaenu a defnyddio data a gesglir gan systemau TG cenedlaethol.


Gwella'r Gweithlu

Bydd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynorthwyo Addysg a Gwella Iechyd Cymru (HEIW) i drawsnewid, addysgu a gwella'r gweithlu digidol.

Bydd creu Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn cynrychioli dull strategol newydd o ddatblygu a chyflawni pensaernïaeth a systemau digidol y GIG yng Nghymru.  


Llywodraethu

Bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru fel Awdurdod Iechyd Arbennig gan ddefnyddio pwerau a bennir yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Caiff deddfwriaeth ei gosod gerbron y Senedd dros y misoedd nesaf i'n galluogi i fwrw ymlaen â recriwtio'r bwrdd annibynnol a fydd yn goruchwylio gwaith Iechyd a Gofal Digidol Cymru.


Dechreuodd Llywodraeth Cymru ar y broses recriwtio ar gyfer aelodau nad ydynt yn swyddogion y Bwrdd ym mis Tachwedd 2020. Mae cynlluniau ar gyfer recriwtio'r Swyddogion Gweithredol wrthi'n cael eu cytuno. Bydd hyn yn caniatáu i drefniadau llywodraethu gael eu sefydlu cyn sefydlu'r sefydliad newydd ar 1 Ebrill 2021.


Penodwyd Bob Hudson yn Gadeirydd Dros Dro o 6 Tachwedd 2020, i lywio'r broses o drosglwyddo i Iechyd a Gofal Digidol Cymru, yn amodol ar ewyllys y Senedd mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol ar gyfer sefydlu Iechyd a Gofal Digidol Cymru.


Mae angen i ymgeiswyr fod yn ymwybodol, pe na bai'r ddeddfwriaeth a osodir gerbron y Senedd yn cael ei phasio, na fydd unrhyw benodiadau a wneir drwy'r broses recriwtio hon yn cael eu datblygu ac y bydd yr ymgyrch yn dod i ben ar unwaith.

 

Rhan o GIG Cymru

Bydd y sefydliad newydd yn gorff newydd yng nheulu GIG Cymru, gan chwarae ei rôl ochr yn ochr â byrddau iechyd, ymddiriedolaethau ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, yr Awdurdod Iechyd Arbennig arall ar Dîm Gweithredol GIG Cymru. Cyflogeion y GIG fydd y staff, a lle y bo'n bosibl, bydd yr holl systemau a phrosesau yn rhai GIG Cymru.

Disgrifiad o'r swydd

Ar y cyd â'r Cadeirydd a'r Swyddogion Gweithredol, bydd Is-gadeirydd* ac Aelodau Annibynnol y Bwrdd yn gyfrifol am:

  •  
  • Sefydlu a bwrw ymlaen â nodau ac amcanion strategol Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn gyson â'i diben cyffredinol ac o fewn y fframwaith polisi ac adnoddau a bennwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
  • cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar ei annibyniaeth, ei brofiad yn y gorffennol a'i wybodaeth, a'i allu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
  • dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth yn feirniadol a chyfrannu at wneud penderfyniadau cadarn, gan sicrhau bod y penderfyniadau'n agored ac yn dryloyw;
  • sicrhau cydymffurfiaeth ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio arian cyhoeddus a deddfwriaeth sy'n berthnasol i'r sefydliad;
  • ei bod yn gweithredu o fewn terfynau’r awdurdod statudol ac unrhyw awdurdod dirprwyedig y cytunir â Llywodraeth Cymru, ac yn unol ag unrhyw amodau eraill sy'n ymwneud ag arian cyhoeddus
  • sicrhau'i bod, wrth wneud penderfyniadau, yn cymryd i ystyriaeth y canllawiau a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru;
  • sicrhau ei fod yn derbyn, yn adolygu ac yn craffu'n rheolaidd ar wybodaeth ariannol am reoli Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
  • sicrhau ei fod yn cael ei hysbysu'n brydlon am unrhyw bryderon ynghylch gweithgareddau Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'i fod, lle y bo'n berthnasol, yn rhoi sicrwydd cadarnhaol i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, drwy'r Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol bod camau unioni priodol wedi'u cymryd i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon o'r fath;
  • dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys trwy helpu Pwyllgorau priodol i helpu'r Bwrdd i dderbyn sicrwydd ac i fynd i'r afael â risgiau ariannol a risgiau eraill;
  • sicrhau diwylliant cadarnhaol a hyrwyddo gwerthoedd a safonau ymddygiad i'r sefydliad a staff; a
  • gweithio'n agos gyda chyrff y GIG, sefydliadau cyhoeddus, preifat, a thrydydd sector a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.

 

Mewn amser, bydd disgwyl i ymgeiswyr llwyddiannus ddeall y busnes yn llawn a chefnogi perfformiad effeithiol y sefydliad drwy gymryd rhan lawn ynddo.

*Yn ogystal â'r uchod, bydd yr Is-gadeirydd hefyd yn gyfrifol am y canlynol:

  • darparu arweinyddiaeth gref, effeithiol a gweladwy, ar draws systemau a gwasanaethau digidol o fewn gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, iechyd meddwl ac anabledd dysgu. Yn fewnol drwy'r bwrdd a'i bwyllgorau, ac yn allanol drwy gysylltiadau ag amrywiol randdeiliaid a phartneriaid o fewn y gymuned ehangach
  • dirprwyo ar ran y Cadeirydd ac arwain y Bwrdd yn ei absenoldeb, gan gyflawni swyddogaethau ychwanegol fel y cytunwyd gyda'r Cadeirydd;
  • cymryd rhan fel aelod o Rwydwaith Is-gadeiryddion Cymru Gyfan.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Manyleb y person

I gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos y rhinweddau a'r profiad canlynol:

 

Meini Prawf Hanfodol

Profiad o o leiaf un o'r canlynol:

  • Profiad o’r sector iechyd a gofal;
  • Dealltwriaeth eang o lwyfannau, systemau a gwasanaethau digidol;
  • Arweinyddiaeth strategol;
  • Llywodraethu/Cyfreithiol;
  • Cynllunio strategol/Busnes;
  • Cyllid/cyfrifyddu;
  • Adnoddau dynol/cynllunio'r gweithlu;
  • Gwaith gwella; neu,
  • Cyfathrebu/marchnata.

 

Gwybodaeth a Phrofiad:

  • dealltwriaeth o'r materion a'r blaenoriaethau sy'n debygol o fod yn bwysig i Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
  • gallu gwneud yr aelodau gweithredol yn atebol am berfformiad, a chynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
  • gallu meddwl yn strategol ac arfer barn gadarn ar faterion cymhleth a sensitif;
  • gallu dadansoddi a dehongli gwybodaeth fanwl;
  • dealltwriaeth o sut y mae grwpiau amrywiol yn cyfrannu eu profiadau fel sgiliau a phrofiad trosglwyddadwy

* Yn ogystal, bydd gan yr Is-gadeirydd brofiad o rôl arwain o fewn y sector preifat, y sector cyhoeddus neu'r trydydd sector, gyda'r gallu i edrych ymlaen a darparu arweinyddiaeth strategol

 

Sgiliau a Phriodoleddau Personol:

  • sgiliau cyfathrebu da a'r gallu i ymgysylltu â gweithwyr, cynrychiolwyr gweithwyr a rhanddeiliaid i helpu i lunio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • ymrwymiad clir i ddeall a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant;
  • gallu dangos gwerthfawrogiad o ddwyieithrwydd a diwylliant, ac ymrwymiad i hyrwyddo a phrif ffrydio'r Gymraeg.

*Yn ogystal, bydd gan yr Is-gadeirydd:

  • y gallu i fod yn eiriolwr a llysgennad effeithiol, gan feithrin gweledigaeth, ynghyd â'r gallu i ddylanwadu ar eraill;
  • y gallu i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth, gan ddangos parch at farn pobl eraill
  • barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol;
  • dealltwriaeth gref o lwyfannau, systemau neu wasanaethau digidol a gwybodaeth ymarferol am sut y defnyddir y rhain i alluogi newid.

Dyddiadau cyfweliadau

1 Chwefror 2021
12 Chwefror 2021

Dyddiad cau

04/01/21 17:00

Gwybodaeth ychwanegol

DATGANWCH YN GLIR YN EICH DATGANIAD PERSONOL YDYCH CHI EISIAU YSTYRIED AR GYFER Y CADEIRYDD IS-GAN, SEFYLLFA AELODAU ANNIBYNNOL NEU DDAU

Y Gymraeg

Bydd Sgiliau Iaith Gymraeg yn hanfodol i un ymgeisydd llwyddiannus ac yn ddymunol ond nid yn rhagofyniad ar gyfer gweddill y penodiadau. Fodd bynnag, disgwylir i bob ymgeisydd ddangos empathi tuag at yr iaith, a dangos arweiniad i gryfhau'r ddarpariaeth o wasanaethau dwyieithog yn y GIG yng Nghymru. Mae lefel y sgiliau sydd ei hangen fel a ganlyn:


Hanfodol

  • Deall = 3 - Gallu deall sgyrsiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith; 

  • Darllen = 3 - Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur; 

  • Siarad = 4 - Gallu cyfrannu at y rhan fwyaf o sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith; a 

  • Ysgrifennu = 3 - Gallu paratoi deunydd pob dydd sy'n ymwneud â'r gwaith yn amodol ar gael rhywun i'w wirio.



Dymunol


  • Deall = 2 - Gallu deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau bob dydd; 

  • Darllen = 2 - Gallu darllen deunydd syml ar bynciau bob dydd gyda dealltwriaeth; 

  • Siarad = 3 - Gallu cyfrannu at rai sgyrsiau sy'n ymwneud â'r gwaith; a

  • Ysgrifennu = 1 - Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau bob dydd. 


Cysylltiadau:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru



I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Is-gadeirydd neu Aelod Annibynnol, cysylltwch â Bob Hudson, Cadeirydd Dros Dro neu Ifan Evans, Cyfarwyddwr y Rhaglen 

Rhif ffôn:      07453 978482

E-bost:          bob.hudson@wales.nhs.uk


Rhif ffôn:       251496

E-bost:         ifan.evans@llyw.cymru

 

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus.


Estynnwyd y dyddiad cau ar gyfer y swydd hon i 12:00, 04.01.21



Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.