Swydd Wag -- Penodi Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Manylion y swydd

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd o amgylch Lloegr, ond o leiaf unwaith y flwyddyn cynhelir cyfarfod yng Nghymru neu Ogledd Iwerddon. Cynhelir y rhan fwyaf o gyfarfodydd WFAC yn swyddfa’r ASB yng Nghaerdydd. Weithiau cynhelir cyfarfodydd Pwyllgor mewn mannau eraill yng Nghymru.

Rhoddir cyfanswm o £14,000 y flwyddyn fel tâl cydnabyddiaeth am weithio tua 35 diwrnod y flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:

 •              Bydd Aelod Anweithredol dros Gymru yn cael tâl cydnabyddiaeth o £8,000 y flwyddyn am weithio tua 20 diwrnod y flwyddyn. 

 •              Mae Cadeirydd WFAC yn cael tâl cydnabyddiaeth o £6,000 y flwyddyn am weithio tua 15 diwrnod y flwyddyn.

 •              Mae’r tâl cydnabyddiaeth yn drethadwy, ac yn ddarostyngedig i gyfraniadau Yswiriant Gwladol. Bydd y ddau beth hyn yn cael eu tynnu yn y ffynhonnell o dan TWE cyn i chi gael eich talu. Nid oes modd hawlio pensiwn ar dâl cydnabyddiaeth.  Nid yw aelodau’r Bwrdd yn cael eu cyflogi gan yr ASB.

 •             Gallwch hawlio costau teithio a chynhaliaeth, sy’n codi fel rhan briodol ac angenrheidiol o gyflawni eich rôl a’ch cyfrifoldebau fel Aelod Anweithredol o’r ASB, yn unol â pholisi teithio a chynhaliaeth a chyfraddau’r ASB. Gellir cael  copi o’r polisi a’r cyfraddau gan yr ASB.  

35
blwyddyn

Rôl y corff

Rôl statudol yr ASB yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Ers ei sefydlu ym mis Ebrill 2000, mae wedi creu argraff fel math newydd o awdurdod cyhoeddus – un annibynnol, rhagweithiol, egnïol, agored ynghylch polisi a gonest ynghylch peryglon.  

Arweinir yr ASB gan Fwrdd o hyd at o 12 aelod anweithredol, gan gynnwys y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd (yn ymarferol, ers sefydlu Safonau Bwyd yr Alban yn 2014, mae 10 aelod wedi bod ar y Bwrdd, gan fod dwy o’r rolau hyn ar y bwrdd wedi’u neilltuo i benodiadau gan lywodraeth yr Alban). Ar y cyd, mae aelodau’r Bwrdd yn rhannu cyfrifoldeb dros yr holl ASB.  

Caiff y Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gweithredu ar y cyd â’r Gweinidogion priodol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon. Caiff un aelod o’r Bwrdd ei benodi gan Weinidogion Cymru, ac un aelod gan y Gweinidog dros Iechyd yng Ngogledd Iwerddon. Yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, ceir Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd sy’n gweithredu fel llwybr ar gyfer rhannu â’r Bwrdd unrhyw wybodaeth a chyngor sy’n berthnasol i fuddiannau’r ASB yn eu gwledydd unigol. Mae aelod o’r Bwrdd yn cadeirio pob un o’r Pwyllgorau hyn. Caiff yr aelodau o Fwrdd yr ASB sy’n weddill eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r awdurdodau priodol yn ymgynghori â’i gilydd cyn gwneud y penodiadau hyn. Nid oes unrhyw gymwysterau daearyddol penodol ar gyfer y rolau hyn.  

Mae cylch gwaith yr ASB yn cynnwys rheoliadau a pholisi ym maes diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid ar draws yr holl gadwyn fwyd (o’r ‘fferm i’r fforc’). Mae’n gweithio i ddiogelu defnyddwyr drwy wella diogelwch bwyd a thrwy gyflwyno gwybodaeth onest ac eglur. Mae patrwm cymhleth o gyfrifoldebau dros bolisi a chyflawni diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid, maeth, a labelu a chyfansoddiad bwyd nad yw’n ymwneud â diogelwch, ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn golygu bod gan yr ASB gylch gwaith ychydig yn wahanol ym mhob gwlad.  

Mae’r ASB hefyd yn awdurdod gorfodi. Mae rhai o staff yr ASB yn gweithio mewn ffatrïoedd cig i wirio bod gofynion y rheoliadau, gan gynnwys safonau lles anifeiliaid, yn cael eu bodloni. Mae’r ASB yn cydweithio’n agos â Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a Swyddogion Safonau Masnach mewn 387 o awdurdodau lleol, a hynny er mwyn sicrhau bod bwyd o’r 600,000 a mwy o safleoedd bwyd ledled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ddiogel ac wedi’i labelu’n gywir.    

Mae’r Asiantaeth yn gweithio’n agos ag amrywiaeth eang iawn o grwpiau rhanddeiliaid i wella diogelwch bwyd ar bob cam o’r gadwyn fwyd. Mae’r ASB wedi cael cydnabyddiaeth am adfer ymddiriedaeth defnyddwyr y DU yn y ffordd y caiff diogelwch bwyd ei reoleiddio.  

Disgrifiad o'r swydd

Disgrifiad o’r rôl

Mae Aelod Bwrdd yr ASB dros Gymru yn gyfrifol am y canlynol:

·    sicrhau bod yr ASB yn cyflawni ei dyletswyddau yn unol â’r gofyniad i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd

·    osod ac atgyfnerthu gwerthoedd craidd yr ASB trwy ddatblygu a monitro amcanion, cynlluniau a pholisïau strategol

·    cynrychioli’r ASB a’i gwerthoedd mewn cyfathrebiadau â rhanddeiliaid allweddol

·    monitro perfformiad y Weithrediaeth o ran bodloni amcanion a thargedau cytunedig, gan gynnwys darparu gwasanaethau; gwelliant parhaus; perfformiad ariannol, a rheoli risg

·    cynorthwyo â phenodi’r Prif Weithredwr

·    chwarae rhan effeithiol yng nghyfarfodydd, trafodaethau a phenderfyniadau’r Bwrdd, a gweithio i sicrhau llwyddiant ar y cyd

·    cymryd rhan fel aelod neu Gadeirydd un neu fwy o Bwyllgorau’r Bwrdd: Busnes, ac Archwilio a Sicrwydd Risg

·    gweithredu er budd y cyhoedd bob amser, nid fel cynrychiolydd ar ran buddiannau unrhyw sector penodol, a heb ystyried unrhyw fuddiannau personol

·    cynghori Bwrdd yr ASB ar faterion sy’n ymwneud â Chymru

·    ymrwymo hyd at 20 diwrnod y flwyddyn i’r ASB a theithio i gyfarfodydd ledled y wlad. Bydd modd hawlio treuliau ar gyfer hyn. Yn ogystal, disgwylir i aelodau’r Bwrdd ddarllen yn eang er mwyn datblygu sgiliau personol a sicrhau effeithiolrwydd yn y rôl.


Mae aelodau’r Bwrdd yn cael cyngor a chefnogaeth gan y Weithrediaeth mewn perthynas â’u dyletswyddau a rhoddir gwybodaeth gefndirol iddynt allu cyflawni eu dyletswyddau. Mae ysgrifenyddiaeth benodol i gynorthwyo’r Bwrdd. Nid yw’r Bwrdd yn defnyddio papur yn ei gyfarfodydd.


Yn ogystal â chyfrifoldebau aelod o’r Bwrdd, dyma gyfrifoldebau Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru:

·    gwasanaethu fel aelod WFAC a chadeirio cyfarfodydd mewn modd sy’n hwyluso cyfraniad effeithiol gan aelodau’r Pwyllgor trwy greu amgylchedd lle maent yn gallu rhannu eu gwybodaeth a’u harbenigedd

·    cynllunio busnes y cyfarfodydd Pwyllgor gyda Chyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru, gan gynnwys codi materion yn rhagweithiol i’r Pwyllgor eu trafod

·    arwain WFAC ar ddarparu cyngor neu wybodaeth i’r ASB am faterion yn gysylltiedig â’i swyddogaethau, yn enwedig y rhai sy’n berthnasol i Gymru

·    annog WFAC i ystyried llais defnyddwyr Cymru a chryfhau persbectif y defnyddiwr, mewn perthynas â materion allweddol y mae Bwrdd yr ASB yn eu hystyried

·    cefnogi’r ASB wrth gyfathrebu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru a meithrin y perthnasoedd os oes angen er mwyn  i’r Pwyllgor weithredu’n effeithiol

·    cynnal gwerthusiad o berfformiad aelodau’r Pwyllgor unwaith bob tymor

·    gweithredu er budd y cyhoedd bob amser, nid fel cynrychiolydd ar ran buddiannau unrhyw sector penodol, a heb ystyried unrhyw fuddiannau personol

·    rhoi tua 15 diwrnod y flwyddyn i’r ASB yn ogystal ag unrhyw ymrwymiad amser fel Aelod Bwrdd, a theithio i gyfarfodydd ledled Cymru.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o feini prawf hanfodol y rôl.

Meini Prawf Hanfodol

 

  • Sgiliau gwneud penderfyniadau cryf, a’r gallu i bwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro’r sail ar gyfer penderfyniad.
  • Profiad o weithio gyda, neu ar ran y cyhoedd a’r gallu i gynrychioli buddiannau defnyddwyr
  • Bod â meddwl a phrofiad strategol a’r gallu i helpu i lunio cyfeiriad strategol yr ASB
  • Y gallu i gyflawni newid sylweddol a gweithredu ar draws rhwydweithiau cymhleth
  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, gan gynnwys y gallu i hyrwyddo amrywiaeth ac ymdrin yn hyderus â sefyllfaoedd anodd mewn modd sensitif
  • Tystiolaeth o’r gallu i gadeirio cyfarfodydd sefydliad cenedlaethol arwyddocaol, a chefnogi a chynnal bwrdd effeithiol gyda pherthnasoedd cryf ag aelodau’r Bwrdd.

Meini Prawf Dymunol

Er mwyn sicrhau Bwrdd cytbwys, yn ddelfrydol bydd Aelodau newydd yn gallu dod â sgiliau a phrofiad un neu fwy o’r meysydd canlynol:

 

  • Profiad yn y sector bwyd (cynhyrchu cynradd, gweithgynhyrchu, manwerthu)
  • Arbenigedd mewn diogelwch a safonau yn y diwydiant bwyd
  • Profiad mewn llywodraeth leol
  • Dealltwriaeth o faes iechyd y cyhoedd (neu’r amgylchedd) mewn perthynas â bwyd
  • Uwch wyddonydd sy’n gweithio mewn maes sy’n ymwneud yn agos â phortffolio’r ASB
  • Arbenigedd (neu ddealltwriaeth) mewn arloesi sy’n berthnasol i gynhyrchion/prosesau bwyd neu lwybrau dosbarthu i’r defnyddiwr 
  • Dealltwriaeth (neu brofiad) o gorff rheoleiddio’r llywodraeth
  • Sgiliau Cymraeg

Dyddiadau cyfweliadau

26 Mehefin 2023
30 Mehefin 2023

Dyddiad cau

30/04/23 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.