Swydd Wag -- Penodi Cadeiryddion - Annibynnol Adolygiadau o Ofal Iechyd Parhaus

Manylion y swydd

Paneli Adolygu Gofal Iechyd Parhaus y GIG
Cynhelir gwrandawiadau'r Panel yn rhanbarthol ar draws Cymru.

Y gyfradd fydd £337 y diwrnod (pro rata am hanner diwrnod). 

30
blwyddyn

Rôl y corff

Cefndir 

Mae Gofal Iechyd Parhaus y GIG yn ymwneud â sefyllfa lle, ar ôl cynnal asesiad, yr ystyrir bod gan rywun 'angen iechyd sylfaenol' (bydd y term hwn yn cael ei egluro'n nes ymlaen), ac felly y bydd costau ei anghenion iechyd a gofal cymdeithasol (gan gynnwys llety mewn rhai amgylchiadau) yn cael eu talu gan y GIG. Os bydd gan rywun anghenion iechyd a gofal cymdeithasol, ond nad yw'n gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus, bydd y GIG yn bodloni anghenion iechyd yr unigolyn hwnnw, ond o bosibl bydd ei ofal cymdeithasol yn cael ei ariannu gan yr awdurdod lleol (gan ddibynnu ar feini prawf yr awdurdod lleol a modd ariannol yr unigolyn), neu efallai mai'r unigolyn fydd yn gorfod talu costau'r gofal ei hunan. Mae'r GIG yn darparu gwasanaethau am ddim, ond gall yr awdurdod lleol godi tâl ar unigolyn. 

 

Mae'r penderfyniad a oes gan rywun 'angen iechyd sylfaenol' yn dibynnu ar natur, dwysedd a chymhlethdod ei angen iechyd, ac ar ba mor ansefydlog ydyw. Mae'r broses a ddefnyddir i benderfynu a oes gan rywun 'angen iechyd sylfaenol' yn dibynnu ar asesiad amlddisgyblaeth, a phenderfyniad a wneir gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Yr anghenion yn hytrach na'r diagnosis sy'n sail i'r penderfyniad ynghylch cymhwysedd.

 

Gellir darparu Gofal Iechyd Parhaus mewn unrhyw leoliad, gan gynnwys cartrefi nyrsio, hosbisau, neu gartref yr unigolyn. 

 

Ym mis Chwefror 2003, penderfynodd Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr fod tâl wedi ei godi ar gam ar nifer o bobl am elfennau o'u gofal a ddylai fod wedi eu darparu am ddim gan y GIG. Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylid gwneud ymdrech i unioni unrhyw anghyfiawnder ariannol yr oedd cleifion wedi ei ddioddef oherwydd nad oedd y meini prawf ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, neu'r ffordd yr oeddent wedi eu defnyddio, yn briodol nac yn deg.  Cafodd yr argymhelliad ei dderbyn yn Lloegr ac yng Nghymru.

 

Yn sgil hyn, rhoddwyd trefniadau ar waith a oedd yn caniatáu i bobl wneud hawliad ôl-weithredol os oeddent yn credu eu bod nhw (neu eu perthynas oedd bellach wedi marw) yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus, ond bod tâl wedi ei godi arnynt ar gam rhwng 1996 and 2003. Roedd y trefniadau hynny'n cynnwys craffu ar bapurau'r achos a bod panel, a oedd yn cynnwys un aelod o'r awdurdod lleol, un o'r bwrdd iechyd lleol, a chadeirydd annibynnol, yn cynnal adolygiad o'r achos hwnnw. Rôl y panel oedd sicrhau bod y dystiolaeth ynghylch cymhwysedd wedi ei hadolygu'n briodol, a hefyd bod penderfyniad y Bwrdd Iechyd ynghylch cymhwysedd wedi cael ei wneud mewn modd teg. Dyfarnwyd iawndal ariannol i'r hawlydd os oedd hwnnw (neu ei berthynas a oedd bellach wedi marw) yn gymwys i gael Gofal Iechyd Parhaus ond ei fod wedi gorfod talu am ei ofal am ran o'r cyfnod dan sylw, neu am y cyfnod cyfan.

 

Wrth weithredu'r trefniadau newydd, rhagwelir mai dim ond lleiafrif o geisiadau y bydd angen i'r Panel llawn eu hystyried, ond y bydd y Cadeirydd annibynnol yn dal i graffu ar yr achos i weld a oedd y broses newydd wedi ei dilyn yn briodol ac a oedd y penderfyniad ar iawndal yn un teg. Bydd y gweithgarwch craffu annibynnol hwn yn hanfodol er mwyn rhoi sicrwydd i hawlwyr bod yr adolygiad yn deg ac agored, ac er mwyn monitro bod cyllid cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio'n effeithiol. Felly, bydd angen i Gadeiryddion adolygu'r holl adroddiadau ac argymhellion terfynol er mwyn sicrhau bod y dystiolaeth amlddisgyblaeth berthnasol wedi ei hadolygu, a bod anghenion y claf wedi eu hasesu mewn modd cyson yn erbyn y meini prawf priodol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, wrth ddod i benderfyniad ar gymhwysedd unigolyn ac a ddylid gwrthod roi cyllid iddo. Rydym yn disgwyl na fydd angen ystyried mwy na 30% o hawliadau drwy gynnal adolygiad gan y panel llawn.

 

Felly mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i benodi chwe chadeirydd annibynnol i helpu byrddau iechyd i ymdrin â'r hawliadau sy'n dal heb eu datrys. Ar hyn o bryd, rydym yn disgwyl y bydd pob Cadeirydd yn gweithio am o leiaf 30 diwrnod y flwyddyn, gyda'r amser wedi ei rannu rhwng cadeirio paneli a chraffu ar adroddiadau, sydd ag argymhellion sydd wedi eu paratoi gan ymgynghorwyr clinigol ac wedi eu trafod nes cyrraedd setliad gyda'r hawlydd neu ei gynrychiolydd. Bydd y Cadeiryddion yn cael eu cefnogi gyda'u gwaith ar y panel gan gynghorwyr clinigol a chlinigwyr sydd â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n berthnasol i gyflwr meddygol y sawl sy'n destun yr hawliad, er na chânt fod yn gysylltiedig â'r sefydliad sydd wedi darparu gofal i'r unigolyn dan sylw. Bydd yr awdurdod lleol yn cyfrannu at y broses fel y bo angen

Disgrifiad o'r swydd

Diben y Swydd

 

Ystyried adroddiadau gan gynghorwyr clinigol, ar hawliadau ôl-weithredol, er mwyn sicrhau, drwy adolygu'r dystiolaeth, bod y broses briodol wedi ei dilyn yn gywir, a hefyd bod y meini prawf cymhwysedd perthnasol ar gyfer gofal iechyd parhaus wedi eu defnyddio mewn modd cyson.

 

Wrth ymdrin â hawliadau mwy cymhleth a chynhennus, byddwch yn cadeirio panel sydd wedi eu ffurfio'n bwrpasol, gan ddarparu cyfeiriad a chyfarwyddyd i'r aelodau er mwyn iddynt ddod i gasgliadau cadarn a gwneud argymhellion, yng ngoleuni'r dogfennau sy'n berthnasol i'r penderfyniad.

 

Dyletswyddau a Chyfrifoldebau:

 

1.    Yn rhinwedd eich rôl fel unigolyn annibynnol ac allanol, byddwch yn craffu ar adroddiadau y mae cynghorwyr clinigol wedi eu paratoi a'u cyflwyno at ddibenion adolygu, gan wneud yn siŵr bod y broses gywir wedi ei dilyn wrth adolygu'r holl dystiolaeth berthnasol, a bod y meini prawf priodol wedi eu defnyddio mewn modd cyson, cyn gwneud eu hargymhelliad. Dilysu'r ddogfen benderfynu derfynol a rhoi sylwadau arni - dyma ddogfen a fydd yn cael ei rhannu gyda'r hawlydd a/neu ei gynrychiolydd cyfreithiol. 

 

2.   Darparu cyngor a chyfarwyddyd, ar lafar ac ar ffurf adborth ysgrifenedig ffurfiol, i'r cynghorwyr clinigol pan fyddwch, yn rhinwedd eich swydd fel cadeirydd, yn ystyried bod angen adolygu achos a bod angen i'r panel llawn benderfynu arno mewn gwrandawiad, gan nodi'r rhesymau manwl y tu ôl i'w argymhelliad.

 

3.   Gweithredu fel Cadeirydd Annibynnol ar gyfer Paneli Adolygu Ôl-weithredol lle y bydd cymhwysedd ar gyfer cael cyllid gofal iechyd parhaus yn cael ei ystyried. Bydd y Cadeirydd yn cydgysylltu gwaith cynghorydd clinigol annibynnol a chlinigydd sydd â phrofiad priodol sy'n berthnasol i gefndir clinigol y claf sy'n destun yr hawliad.

 

4.    Sicrhau bod hawlwyr neu eu cynrychiolwyr yn cael gwybodaeth glir ar ffurf dogfen benderfynu fanwl sy'n ategu'r argymhelliad sy'n deillio o'r adolygiad annibynnol, boed hynny wedi'i gynnal drwy graffu neu drwy ystyriaeth gan y panel. Mae hynny'n golygu y bydd yn rhaid i Gadeiryddion hefyd gynhyrchu eu gohebiaeth eu hunain fel rhan o'r broses adolygu.

 

5.    Cynnal egwyddorion cyfathrebu ac ymgysylltu effeithiol, fel y'u nodir yn y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar sicrhau bod unigolion yn cael cymryd rhan drwy gyfrwng eu dewis iaith.

 

6.    Cynnal cysylltiadau effeithiol ag Arweinydd y Prosiect ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus, cynghorwyr clinigol, a chadeiryddion eraill.

 

7.    Cynnal cysylltiadau ag aelodau'r panel a rhoi cyngor iddynt ar weithdrefnau'r panel;

8.     Cynnal cysylltiadau â'r cynghorwyr clinigol priodol, a chael cyngor ganddynt;

 
9.     Cydweithio â'r panel i gynhyrchu dogfen benderfynu sy'n cynnwys argymhellion ar gymhwysedd i'r bwrdd iechyd lleol perthnasol, lle bo hynny'n briodol;


10.  Sicrhau bod y panel yn cyflawni ei gyfrifoldeb i: 

  • adolygu'r broses benderfynu mewn perthynas â rhoi cyllid gofal iechyd parhaus y GIG i glaf unigol a/neu 
  • sicrhau bod pob achos yn cael ei ystyried yn llawn ac mewn modd diduedd a theg, yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru; 
  • cynnal cyfrinachedd y claf bob amser;


11.  Sicrhau bod pob aelod o'r panel yn cael y cyfle cyfartal i gyfrannu'n llawn at drafodaethau'r panel, gan roi sylw i'r prif faterion sydd o dan ystyriaeth; hwyluso pan fo gwahaniaeth barn, gan alluogi'r panel i ddod i gasgliadau ar y cyd ynghylch a gafodd y broses ei dilyn a'r meini prawf cymhwysedd eu defnyddio yn y modd cywir, er mwyn cydlynu argymhelliad y panel ar gymhwysedd fel y bo'n briodol.

 

12. Cymryd rhan mewn hyfforddiant fel y bo angen, fel y nodir yn y paragraff isod am Hyfforddiant Cynefino a Datblygu Parhaus.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Bydd Cadeirydd Adolygiadau Ôl-weithredol o Ofal Iechyd Parhaus y GIG yn annibynnol ar holl sefydliadau a chomisiynwyr y GIG a llywodraeth leol, yn ogystal â darparwyr gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mae croeso i unigolion un o unrhyw gefndir wneud cais am rôl Cadeirydd, ond rhaid bod gan yr unigolyn hwnnw ddiddordeb gwirioneddol mewn gofal iechyd. Byddai rhywfaint o brofiad blaenorol o weithio'n agos gyda'r GIG, y gwasanaethau cymdeithasol, y sector gwirfoddol neu annibynnol, neu gyda sefydliadau tebyg, yn fanteisiol. Rhaid bod gan yr ymgeiswyr llwyddiannus ddealltwriaeth o sut mae'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl hŷn a grwpiau gofal eraill sy'n agored i niwed wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf. Byddai gwybod am ddeddfwriaeth a pholisïau perthnasol yn ddefnyddiol, er nad yn hanfodol, gan y rhoddir hyfforddiant arnynt.

 

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol (wedi eu rhannu'n arbenigeddau hanfodol a dymunol).

 

MEINI PRAWF HANFODOL:

Mae'n rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod yn gallu gwneud y canlynol:

 

  • Dangos dealltwriaeth eang o'r materion sy'n ymwneud â pholisïau iechyd a gofal cymdeithasol y mae Gofal Iechyd Parhaus yn seiliedig arnynt.

 

  • Defnyddio crebwyll cadarn wrth benderfynu ar faterion cymhleth a sensitif a bod yn fedrus am wneud penderfyniadau. Aros yn ddiduedd a phwyso a mesur y dadleuon gan allu cydymdeimlo yr un pryd.

 

  • Dangos bod ganddynt sgiliau arweinyddiaeth da, ac yn ddelfrydol brofiad o gadeirio cyfarfodydd;

 

  • Y gallu i ddeall manylion a chrynhoi gwybodaeth yn effeithiol;

 

  • Cyfathrebu'n effeithiol, gan ddefnyddio sgiliau llafar ac ysgrifenedig;

 

  • Dangos dealltwriaeth glir o Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan ac ymrwymiad i gadw atynt; yn ogystal â dealltwriaeth o faterion yn ymwneud â chydraddoldeb a pharodrwydd, lle bo’n briodol, i herio arferion sy'n gwahaniaethu yn erbyn pobl. 

 

 

MEINI PRAWF DYMUNOL:

 

  • Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn ddymunol. 

 

Bydd gofyn i'r Cadeirydd fod yn hyblyg o ran oriau gwaith ac yn barod i deithio i wahanol leoliadau ledled Cymru.  

Dyddiadau cyfweliadau

28 Ionawr 2019
8 Chwefror 2019

Dyddiad cau

04/01/19 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Rhagor o Wybodaeth ac Ymholiadau

 

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ymgeisio, cysylltwch â'r tîm Penodiadau Cyhoeddus yn Llywodraeth Cymru drwy ffonio 03000 616095 neu drwy e-bostio: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.


I gael rhagor o wybodaeth am swydd y Cadeirydd Annibynnol, cysylltwch â

elizabeth.wyatt@wales.nhs.uk   Ffôn: 07969 921 141

julia.flaherty@wales.nhs.uk       Ffôn: 07964 117 629

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Uned Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar 03000 616095 neu drwy anfon e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.