Swydd Wag -- Aelodau - Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
"Bydd pwyllgor cynghorol yng Nghymru er mwyn cynnig cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth am faterion sy’n ymwneud â’i swyddogaethau (gan gynnwys, yn benodol, materion sy’n effeithio ar Gymru neu sy’n ymwneud â ni)."
Dylai aelodau sydd wedi'u penodi i'r Pwyllgor gydymffurfio ar bob adeg â'r Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, a osodwyd gan Bwyllgor Nolan ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus (Atodiad C).
Disgrifiad o'r swydd
Sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn 2000 er mwyn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r ASB (atodlen 2 o’r Ddeddf Safonau Bwyd). Bydd cyngor a gwybodaeth o'r fath ar ddiogelwch bwyd, safonau bwyd a materion perthnasol, yn enwedig os ydynt yn berthnasol i Gymru. Mae'n ofynnol bod yr Asiantaeth yn ystyried cyngor neu wybodaeth sy'n rhesymol neu'n ymarferol, p'un a roddir y cyngor neu'r wybodaeth ar gais yr Asiantaeth ai peidio. Caiff aelodau'r Pwyllgor eu penodi gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a’r Gymraeg yn unol â Deddf Safonau Bwyd 1999, er mwyn darparu ystod eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol.
Mae'r Pwyllgor yn:
- gweithredu fel cyfrwng adborth i swyddogion yr Asiantaeth a'i Bwrdd ar faterion penodol
- gweithredu ar y cyd er lles y cyhoedd
- cynghori ar ddatblygiadau polisi a deddfwriaeth yr Asiantaeth
- helpu i sefydlu blaenoriaethau'r Asiantaeth, gan ystyried:
- pryderon defnyddwy
- data gwyliadwriaeth neu ymchwil
- materion amserol
- barn aelodau'r Pwyllgor
Mae'r Pwyllgor wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd agored a thryloyw drwy:
- gynnal cyfarfodydd cyhoeddus mewn ystod o leoliadau ar draws Cymru;
- gwrando ar safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru;
- cefnogi'r ASB mewn digwyddiadau cyhoeddus;
- nodi materion sy'n bwysig i Gymru;
- cynhyrchu cyngor trylwyr ac ystyrlon.
Mewn unrhyw flwyddyn benodol mae'r Pwyllgor yn debygol o:
- gynnal hyd at bedwar cyfarfod agored yng Nghymru wedi'u hategu gan gyfarfodydd busnes, diwrnodau hyfforddi a digwyddiadau rhanddeiliaid;
- rhoi cyngor i'r Asiantaeth ar ystod o bynciau, gan gynnwys: Alergenau, Rheolaethau Bwyd Anifeiliaid Swyddogol, Cynllun Strategol yr ASB, Strategaeth Samplu'r ASB, Cynfod Pontio’r UE, Cyflawni Cydymffurfiaeth Busnes ac Ymwrthedd Gwrthficrobaidd.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae'r Pwyllgor yn chwilio am unigolion sy'n bodloni'r meini prawf canlynol:
Sgiliau a gwybodaeth hanfodol
- Arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth gyfredol a pharhaus o faterion diogelwch a safonau bwyd, gan gynnwys datblygu polisi a thirwedd rhanddeiliaid, fel y maent yn berthnasol i Gymru.
- Sgiliau dadansoddi, strategol a gwneud penderfyniadau cryf, yn gallu pwyso a mesur tystiolaeth gymhleth ac egluro sail y cyngor.
- Bod yn graff ei farn/barn, gyda lefel uchel o onestrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus, ynghyd â'r gallu i gyfrannu at wneud penderfyniadau anodd.
- Y gallu i ddehongli a chyfathrebu gwybodaeth yn effeithiol ar lafar, yn ysgrifenedig a thrwy ystod o gyfryngau.
- Y gallu i wasanaethu un ai heb wrthdaro buddiannau neu i ddangos sut y byddant yn ymdrin â gwrthdaro buddiannau posibl, boed y rheiny yn rhai go iawn neu'n rhai tybiedig.
- Y gallu i ystyried a deall cyngor, tystiolaeth a dadleuon gwyddonol.
- Ymrwymiad i faterion defnyddwyr neu ddod â mewnwelediadau bwyd/defnyddwyr o fewn cyd-destun Cymru.
- Ar gyfer o leiaf un swydd – y gallu i gyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg.
Dangos profiad perthnasol yn un (neu fwy) o'r canlynol:
- Gwyddoniaeth (er enghraifft Microbioleg, Meddygol, Epidemioleg, Milfeddygol, Iechyd y Cyhoedd neu Wyddorau Cymdeithasol, newid ymddygiad yn benodol)
- Polisi Bwyd (Llywodraethu, safonau a sicrwydd y system fwyd)
- Cyfraith Bwyd (Gorfodi Cyfraith Bwyd)
- Addysg/Academia (er enghraifft systemau a diogelwch bwyd)
- Cyfathrebu (er enghraifft ymgysylltu â defnyddwyr drwy ystod o gyfryngau, gan gynnwys cyfryngau cymdeithasu/blogio)
- Cynhyrchu bwyd/Lletygarwch (Cefndir cynhyrchu/diwydiant bwyd/arlwyo)
- Cyrff cyhoeddus perthnasol (er enghraifft diogelu defnyddwyr, gorfodi cyfraith bwyd, twyll bwyd, iechyd y cyhoedd)
- Arall (er enghraifft diwydiant bwyd neu'r sector arlwyo/bwytai/gwestai, mentrau bwyd cymunedol, ymchwil defnyddwyr, llunio polisi mewn meysydd perthnasol)
- *Sylwch nad yw cylch gwaith yr ASB yng Nghymru yn ymwneud â Maeth.
Gwybodaeth a sgiliau dymunol
- Ymrwymiad amlwg i roi'r defnyddiwr yn gyntaf, gydag ymwybyddiaeth o fuddiannau defnyddwyr; gan gynnwys anghenion defnyddwyr ifanc a hŷn mewn perthynas â bwyd a sut mae'r system fwyd fyd-eang yn newid.
- Deall rôl aelod Pwyllgor sefydliad cyhoeddus mawr a'r holl gyfrifoldebau cyfunol perthnasol.
- Parodrwydd i gymryd rhan mewn hyfforddiant ar y Gymraeg i alluogi sgyrsiau cwrdd a chyfarch syml.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.