Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol – Cyfreithiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Manylion y swydd
Rôl y corff
Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynt) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Mae gan ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe boblogaeth o tua 390,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.
Disgrifiad o'r swydd
Chwarae rhan lawn a gweithredol yn llywodraethiant y Bwrdd Iechyd, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Bydd disgwyl ichi gynnig i’r Bwrdd farn annibynnol ar faterion yn ymwneud â pherfformiad, apwyntiadau allweddol, edrych i’r dyfodol ac atebolrwydd;
Cyfrannu at wireddu gweledigaeth strategol y Bwrdd, ar sail eich annibyniaeth, eich profiad blaenorol a’ch gwybodaeth, a'ch gallu i sefyll yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;
Deall, ymhen amser, y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol;
Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau preifat a gwirfoddol, gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;
Cefnogi’r Cadeirydd i ddatblygu bwrdd unedol effeithiol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Profiad perthnasol a diweddar mewn maes sy’n ymwneud â gwasanaethau Cyfreithiol;
Profiad o gyfrannu'n effeithiol mewn bwrdd a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i gefnogi datblygiad bwrdd unedol mewn sefydliad mawr a chymhleth;
Profiad o oruchwylio proses o gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth yn effeithiol a deall pryd a sut i ofyn am ragor o fanylion heb golli persbectif aelod annibynnol (anweithredol).
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:
Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus
Yr Uned Cyrff Cyhoeddus
E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr aelod annibynnol, cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: (01639) 683379. E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: https://bipba.gig.cymru/
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.