Swydd Wag -- Is-Lywydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Diben Llyfrgell Genedlaethol Cymru yw gwneud ein diwylliant a'n treftadaeth amrywiol yn hygyrch i bawb i ddysgu, ymchwilio a mwynhau.
Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, bydd y Llyfrgell yn derbyn £12.8m mewn cyllid refeniw blynyddol gan Lywodraeth Cymru yn 2021-2022. Mae'r Llyfrgell hefyd yn gorff Siarter Frenhinol ac yn elusen annibynnol gofrestredig. Goruchwylir ei reolaeth a'i weithrediadau gan Fwrdd Ymddiriedolwyr.
Mae'r Llyfrgell yn tanysgrifio i bolisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Iaith Gymraeg 2010 ac mae'n integreiddio ei gwaith i gefnogi pob un o'r saith nod llesiant yn ogystal â phum elfen lywodraethu'r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.
I gael rhagor o fanylion am ddiben, gweledigaeth ac amcanion y Llyfrgell, ewch i: https://www.llyfrgell.cymru/fileadmin/fileadmin/docs_gwefan/amdanom_ni/dogfennaeth_gorfforaethol/2017-2021_Cynllun_Strategol_TERFYNOL.pdf
Disgrifiad o'r swydd
- Bydd yr Is-lywydd yn cynorthwyo'r Llywydd i arwain cyfeiriad cyffredinol y Bwrdd ac yn ymgymryd â rolau'r Llywydd os yw'n absennol.
- Cadeirio Pwyllgorau Llyfrgell eraill a/neu yn absenoldeb y Cadeirydd penodedig.
- Ynghyd â'r Llywydd, gweithredu fel prif bwynt cyswllt rhwng y Bwrdd a'r Gweinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, a Phrif Chwip a swyddogion y Llywodraeth.
- Cefnogi'r Llywydd fel sy'n ofynnol wrth gysylltu â swyddogion eraill ac aelodau'r Bwrdd, a chydag uwch dîm gweithredol y Llyfrgell. Bydd gan yr Is-lywydd rôl bwysig i'w chwarae hefyd o ran craffu, herio a chefnogi'r weithrediaeth i gyflawni nodau, amcanion a thargedau'r Llyfrgell.
- Cymryd rhan yn y broses gynllunio gorfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
- Dirprwyo ar ran y Llywydd fel sy'n ofynnol wrth gynrychioli'r Llyfrgell wrth ddelio â'r Senedd a Llywodraeth Cymru.
- Mynd ati i hyrwyddo manteision y sector treftadaeth ddiwylliannol amrywiol yng Nghymru a thu hwnt.
- Bod â gweledigaeth glir o ran sut y gall y Llyfrgell barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisi treftadaeth ddiwylliannol y Llywodraeth
- Deall sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu.
- Cymryd rhan weithredol mewn annog aelodau bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o ymddiriedolwyr.
- Sicrhau bod y Llyfrgell yn cael gwerth am arian o fewn fframwaith o arfer gorau, rheoleidd-dra ac eiddo.
- Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cywirdeb a chyllid cyhoeddus.
- Bod yn wleidyddol annibynnol.
- Meddu ar ddealltwriaeth ac ymrwymiad clir i "Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus" Nolan.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Manyleb y Person - Dymunol
Rydym yn chwilio am rywun sy'n:
- dangos dealltwriaeth, ymrwymiad, a brwdfrydedd dros waith y Llyfrgell ac ar gyfer sector diwylliannol Cymru;
- ymwybyddiaeth o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a sut maent yn dylanwadu ar waith y Llyfrgell a'r sector diwylliant yn gyffredinol;
- meddu ar sgiliau arwain helaeth a phrofiad o sbarduno newid;
- ymrwymo i faterion cydraddoldeb ac i herio arferion gwahaniaethol;
- yn ymrwymo i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan https://www.gov.uk/government/publications/the-7-principles-of-public-life; ac
- yn gallu cyfathrebu'n effeithiol â chynulleidfaoedd y Llyfrgell yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Manyleb y Person - Hanfodol:
- Yn dangos ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a gwerthfawrogiad o'i rôl a'i phwrpas fel sefydliad cenedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys y cyd-destunau diwylliannol, dysgu, iechyd a lles, economaidd a chymdeithasol-wleidyddol y mae'n gweithredu ynddynt; a dealltwriaeth o'i rwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015;
- Yn gallu dangos sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid cryf, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol;
- Yn ymrwymo i gynyddu amrywiaeth a hyrwyddo cydraddoldeb, gan nodi profiad perthnasol i ddatblygu Bwrdd cynhwysol ac amrywiol;
- Yn meddu ar brofiad o ddatblygu partneriaethau strategol, a gweithgarwch allgymorth ac ymgysylltu a fydd yn llywio'r agenda o sicrhau bod y Llyfrgell yn gwasanaethu ac yn cynrychioli cymunedau a rhanbarthau amrywiol Cymru;
- Yn dangos sgiliau arwain uwch a'r gallu i ddarparu cymorth a her effeithiol i sefydliad uchel ei broffil;
- Yn dangos y gallu i feddwl a gweithredu'n strategol;
- Yn dangos dealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da;
- Yn dangos craffter busnes a masnachol a phrofiad o weithgareddau cynhyrchu incwm (gan gynnwys codi arian);
- Yn meddu ar brofiad o weithredu ar lefel uwch mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.