Swydd Wag -- Penodi Comisiynwyr - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru - Cais Saesneg

Manylion y swydd

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Cyfarfodydd i’w cynnal ledled Cymru
£300 y dydd, a threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
2
mis

Rôl y corff

Diben

Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i gefnogi cyngor annibynnol, mwy gwybodus ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Llywodraethiant a chylch gwaith

Sefydlwyd CSCC fel corff cynghori anstatudol i ddarparu cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros 5 - 30 mlynedd.

Mae cylch gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar anghenion economaidd ac amgylcheddol, ond dylai ystyried hefyd sut mae’r anghenion hyn yn rhyngweithio â ‘seilwaith cymdeithasol’, megis ysgolion, ysbytai a thai. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd CSCC yn ystyried a chynghori ar anghenion seilwaith cymdeithasol mewn manylder.

Bydd Llywodraeth Cymru’n amlinellu trwy lythyr cylch gwaith blynyddol y meysydd yr hoffai i CSCC ganolbwyntio arnynt, ynghyd â’r gyllideb sydd ar gael. Bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon at Gadeirydd y Comisiwn cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.

Bydd y cyngor a ddarperir gan CSCC o natur strategol ac yn edrych i’r dyfodol. Ni ddarperir cyngor ar gynlluniau seilwaith presennol neu gynlluniau sydd i ddod sydd wedi’u cytuno eisoes.

O fewn ei gyngor, rhaid i CSCC adlewyrchu nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hyn yn cynnwys:

  • Amcanion Llesiant Llywodraeth Cymru
  • Y Pum Ffordd o Weithio
  • Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

Rhaid i CSCC ystyried hefyd rwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill, wrth ddarparu cyngor.

Bydd trefniadau gwaith manwl CSCC yn cael eu cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynwyr a benodwyd trwy ddogfen Cyfansoddiad. Bydd y cyfansoddiad hwn yn cael ei gefnogi gan lythyrau cylch gwaith blynyddol a fydd yn amlinellu meysydd blaenoriaeth a chyllideb flynyddol CSCC.

Disgwylir i CSCC gynhyrchu a chyhoeddi ‘Adroddiad Cyflwr y Genedl’ bob 3-5 mlynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried cyflwr presennol y seilwaith economaidd ac amgylcheddol ledled Cymru mewn ffordd ddiduedd.

Yn ogystal, disgwylir i’r Comisiwn gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei weithgarwch y flwyddyn flaenorol ac unrhyw adroddiadau ad hoc y bydd Llywodraeth Cymru a/neu CSCC yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth CSCC trwy:

  • Ymateb yn ffurfiol i Adroddiad Cyflwr y Genedl a chyflwyno’r adroddiad, a’r ymateb, yn y Cynulliad Cenedlaethol.
  • Cyflwyno adroddiadau CSCC yn y Cynulliad Cenedlaethol.
  • Ymateb yn ffurfiol i argymhellion CSCC a chyflwyno’r ymateb hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y rheswm pam mae argymhellion wedi’u cymeradwyo neu heb eu derbyn.

https://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/2/pdfs/anaw_20150002_we.pdf

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Comisiynwyr CSCC yn cael cyfle unigryw i edrych ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol hirdymor Cymru, gan lywio rhwydweithiau seilwaith i’r dyfodol trwy ddylanwadu’n gryf ar argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gysylltiadau strategol, dibyniaethau a blaenoriaethau, gan gynnwys y cysylltiad â seilwaith cymdeithasol megis tai. Bydd Comisiynwyr yn helpu i ategu rôl CSCC a chreu consensws gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.

Rydym yn gobeithio recriwtio hyd at 11 o Gomisiynwyr o bob math o wahanol gefndiroedd.

Bydd Comisiynwyr yn arweinwyr yn eu maes, gyda phrofiad ar lefel uwch mewn sector seilwaith penodol neu faes perthnasol.

Bydd y Comisiynwyr yn gyfrifol am:

  • ddarparu cyngor diduedd, arbenigol i Lywodraeth Cymru ar seilwaith
  • dod â sgiliau neu brofiad penodol o sectorau arbennig i CSCC
  • ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, grwpiau â buddiant a’r cyhoedd, i hyrwyddo CSCC a dwyn ynghyd safbwyntiau eang ar seilwaith i’r dyfodol
  • ymgysylltu â’r cyfryngau o bryd i’w gilydd 

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Dim sgiliau
Dim sgiliau
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

I gael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych chi’r priodweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni’r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad.

Meini Prawf Hanfodol

Gallu

  • y gallu i ddarparu cyngor annibynnol, cadarn i Lywodraeth Cymru
  • y gallu i brosesu gwybodaeth gymhleth ac ystyried datblygiad hirdymor Cymru
  • y gallu i gyfathrebu pynciau cymhleth yn glir
  • dealltwriaeth o amcanion seilwaith Llywodraeth Cymru, ei fframwaith polisi, cyflawni ac ariannu ehangach, gan gynnwys y dyletswyddau a’r ymrwymiadau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r setliad datganoli;
  • disgwylir i o leiaf ddau o’r Comisiynwyr fod yn siaradwyr Cymraeg rhugl a chynrychioli CSCC yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Profiad

  • arweinydd yn ei f/maes, gyda phrofiad lefel uwch mewn sector seilwaith economaidd neu amgylcheddol penodol (megis ynni, trafnidiaeth, gwastraff, llifogydd, cyfathrebu digidol) neu faes perthnasol (megis economeg, cynllunio, rheoleiddio, cyllid prosiect/seilwaith, dylunio, peirianneg, pensaernïaeth a dadansoddi systemau, technoleg ac arloesedd);
  • profiad o gyfathrebu a dylanwadu ar y lefelau uchaf;
  • profiad o gynrychioli sefydliadau yn gyhoeddus ac ymgysylltu ag ystod eang o randdeiliaid. 

Dyddiadau cyfweliadau

1 Gorffennaf 2018
31 Gorffennaf 2018

Dyddiad cau

04/03/18 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Bydd 12 o bobl ar y Comisiwn: y Cadeirydd ac 11 o Gomisiynwyr – ar gyfer 3 swydd yn y Comisiwn, mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol, ond nid ydynt yn ofynnol ar gyfer y 9 swydd arall.

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma: https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-8d1f9e73671f/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/ 

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y swydd Comisiynwyr Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru ac yna ar ‘Gwneud Cais’ yn y gornel waelod ochr chwith. Y tro cyntaf y byddwch chi’n gwneud cais am swydd, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ymgeisio ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith y bydd angen i chi gofrestru, a gallwch ddilyn eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych chi wedi’u gwneud, drwy’r system trwy eich cyfrif cofrestredig. 

Ar ôl i chi gofrestru, gallwch gael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen i chi lanlwytho datganiad personol a CV i’r adran ‘Rhesymau dros wneud cais’ ar y ffurflen gais ar-lein. 

 

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.