Swydd Wag -- Aelod - CAREER CHOICES DEWIS GYRFA (CCDG) yn gweithredu o dan enw Gyrfa Cymru. - Welsh Hanfodol

Manylion y swydd

Dewis Gyrfa
Fel arfer, caiff cyfarfodydd CCDG eu cynnal mewn lleoliadau ym mhob rhan o Gymru, ac fe'u cynhelir bob chwarter. Disgwylir i aelodau'r bwrdd ymgymryd â'u dyletswyddau drwy Gymru gyfan. Fel rhan o addasiad rhesymol, rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan aelodau sydd am gyfrannu o bell.

Nid gweithwyr cyflogedig i’r cwmni na Llywodraeth Cymru yw Aelodau Bwrdd CCDG, ac maent ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn wirfoddol ac yn ddi-dâl. Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth sy'n cael eu hysgwyddo gennych i fynd i gyfarfodydd CCDG neu wrth ymweld â lleoliadau ar ran CCDG, yn cael eu had-dalu gan CCDG yn ôl y gyfradd sy'n gymwys i aelodau o Bwyllgorau'r Llywodraeth.   Dylid hawlio ad-daliadau drwy Ysgrifenyddiaeth CCDG. Gellid hefyd talu costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol eraill a fydd yn cael eu hysgwyddo wrth wneud gwaith i CCDG. Mae Cadeiryddion y tri phwyllgor hefyd yn cael taliad dyddiol.

8
blwyddyn

Rôl y corff

Y cefndir

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni y mae Llywodraeth Cymru yn meddu arno a gafodd ei sefydlu ar 1 Ebrill 2013. Enw masnachol y cwmni yw Gyrfa Cymru, ac mae'n darparu gwasanaethau amrywiol sy'n integreiddio'r defnydd o dechnolegau digidol ochr yn ochr â chyfryngau wyneb yn wyneb mwy traddodiadol. Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, sy'n ddiduedd ac yn ddwyieithog, i bobl o bob oed yng Nghymru.

Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

Ym mis Ebrill 2021 lansiodd Gyrfa Cymru eu gweledigaeth bum mlynedd, ‘Dyfodol Disglair’. Uchelgais y weledigaeth hon yw creu dyfodol disglair i bob person ifanc a phob oedolyn yng Nghymru. I wireddu’r uchelgais mae Gyrfa Cymru wedi datblygu pedwar nod strategol:

  • Darparu gwasanaeth hyfforddiant ac arweiniad diduedd, cynhwysol a dwyieithog i bobl Cymru
  • Datblygu eu gwaith gyda chyflogwyr, darparwyr hyfforddiant ac entrepreneuriaid i ddeall eu gofynion o ran sgiliau a’r cyfleoedd i bobl ifanc ac oedolion
  • Helpu i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a chyfrannu at gyflawni ei bedwar diben ar gyfer dysgwyr
  • Datblygu gweithlu medrus, ymgysylltiol a dymunol ar gyfer Gyrfa Cymru a sicrhau y gellir darparu gwasanaethau o’r radd flaenaf sy’n canolbwyntio ar y cwsmeriaid

Caiff eu gwaith o gefnogi plant a phobl ifanc mewn addysg ei ariannu drwy eu grant Gyrfa Cymru craidd. Mae Gyrfa Cymru ar hyn o bryd yn cael cyllideb gwerth £18.8 miliwn o gyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru. Caiff eu gwaith o gefnogi’r rhai nad ydynt mwyach mewn addysg ei wneud drwy eu Gwasanaethau Cymru’n Gweithio, ac ariennir y gwaith hwn ar wahân.

Rôl y bwrdd yw:

  • rhoi arweiniad effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy'n cynnig her;
  • hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol; a
  • monitro perfformiad i sicrhau bod CCDG yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.

I wneud hynny, rhaid i'r bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, llywodraethu a rheoli mewnol. Disgwylir i'r bwrdd sicrhau ei hunan am effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol a rheoli risg.

Yn benodol, mae'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • sefydlu a datblygu nodau ac amcanion strategol CCDG sy'n gyson â'i ddiben cyffredinol ac yn rhan o ddogfen Erthyglau Cymdeithasu a Fframwaith CCDG a bennir gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth;
  • sicrhau bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o gael effaith ar gyfeiriad strategol CCDG neu ar ei allu i gyrraedd ei dargedau, ac am y camau sydd eu hangen i ymdrin â newidiadau o'r fath;
  • sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio cyllid cyhoeddus;
  • sicrhau ei fod yn derbyn ac yn adolygu gwybodaeth ariannol ynghylch gwaith rheoli CCDG yn rheolaidd; a
  • dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys defnyddio'r pwyllgor archwilio i helpu'r bwrdd i ymdrin â risgiau ariannol allweddol a rhai eraill. 

Disgrifiad o'r swydd

Rôl a chyfrifoldebau


Bydd Aelod o Fwrdd CCDG yn ymwneud â'r canlynol:

  • Chwarae rôl weithgar wrth gyflawni cylch gwaith CCDG gan sicrhau y bydd CCDG yn gwneud yr argraff orau. Bydd hynny'n cynnwys rhannu eu harbenigedd a’u profiad ynghylch yr hyn sy'n gweithio, herio'r status quo ac awgrymu atebion;
  • Sicrhau cydymffurfedd â rheolau caffael perthnasol, mewn perthynas â chael cyllid gan Lywodraeth Cymru (o ran bod CCDG yn is-gwmni y mae Llywodraeth yn berchen arno, ac yn gwmni Teckal) a gwariant CCDG fel awdurdod contractio sy'n ddarostyngedig i'r rheolau caffael.
  • Mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn rheolaidd a pharatoi'n drylwyr ar gyfer y cyfarfodydd hynny;
  • Bod yn barod i wasanaethu ar is-bwyllgorau;
  • Rhoi arweiniad i reolwyr a staff CCDG o safbwynt llunio a gweithredu Gweledigaeth Strategol newydd am bum mlynedd ar gyfer Gyrfa Cymru;
  • Mynd ati i roi her a chynnig cymorth, a sicrhau bod y naill yn cydbwyso'r llall, i reolwyr a staff CCDG wrth eu gwaith;
  • Cynrychioli CCDG mewn digwyddiadau cyhoeddus; (os byddai’n gyfweliad ffurfiol neu’n ddatganiad byddai angen cysylltu â’n hadran farchnata i ddechrau)
  • Hyrwyddo proffil CCDG; a
  • Hwyluso'r cysylltiad â rhanddeiliaid CCDG a mynd ati i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar y cyd â chymunedau a rhanddeiliaid perthnasol;
  • Deall a chydymffurfio ag ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'i diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Manyleb y person

Mae CCDG yn chwilio am ddau aelod newydd o'r bwrdd (Cymraeg yn ddymunol) sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws amrediad o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol. 

 

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â sgiliau yn un o'r meysydd canlynol: Addysg (Uwchradd / AB)

Meini Prawf Hanfodol

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi:

  • Y gallu i herio mewn ffordd adeiladol
  • Prawf o lwyddiant blaenorol mewn meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
  • Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i egluro materion cymhleth mewn modd cryno a chlir, gan ddangos parch at safbwyntiau pobl eraill
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol

 

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar restr fer ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a dangos tystiolaeth.

Y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog mewn penodiadau cyhoeddus yng Nghymru, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae'r rhestr ganlynol o ofynion iaith yn cynrychioli asesiad gwrthrychol gan y corff recriwtio o'r sgiliau Cymraeg sydd eu hangen i ymgymryd â dyletswyddau'r swydd benodol hon.

 

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon, fel a ganlyn:

 

Deall – Gallu deall sgyrsiau arferol sy'n gysylltiedig â gwaith

Siarad – Gallu sgwrsio mewn rhai sgyrsiau sy'n gysylltiedig â gwaith

Ysgrifennu – Gallu paratoi deunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith a’i wirio

Darllen - Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol sy'n gysylltiedig â gwaith gyda chymorth e.e. geiriadur


Mae CCDG yn darparu gwasanaethau dwyieithog a bydd yn chwarae rôl amlwg wrth hyrwyddo ac integreiddio cymorth a chyngor ynghylch y Gymraeg a sgiliau Cymraeg fel rhan o'i weithrediadau ac wrth ddarparu gwasanaethau cynghorol.

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2022
8 Rhagfyr 2022

Dyddiad cau

17/10/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.