Swydd Wag -- Cadeirydd - Hybu Cig Cymru (HCC)

Manylion y swydd

Hybu Cig Cymru (HCC)
Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd fel arfer yn Aberystwyth gyda chyfarfodydd â’r diwydiant, sesiynau briffio, digwyddiadau a sioeau’n cael eu cynnal ledled Cymru, y DU a’r byd. Yn ystod pandemig Covid-19, rhith-gyfarfodydd a gynhelir. Caiff cyfarfodydd yn y dyfodol eu cynnal yn unol â chyngor Llywodraeth Cymru.

Mae Uned Tâl a Chydnabyddiaeth y Sector Cyhoeddus wedi cytuno ar dâl cydnabyddiaeth o £350 y dydd (hyd at ymrwymiad blynyddol o 72 diwrnod) ar gyfer swydd y Cadeirydd.
 

Gellir hawlio costau teithio a chostau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth wneud gwaith HCC oddi wrth HCC hyd at y terfynau cydnabyddedig. Efallai y byddwch yn gymwys hefyd i hawlio ad-daliad o gostau gofal plant/gofal am henoed/gofalwr cynorthwyol, tra’ch bod yn gwneud gwaith ar ran HCC.

72
blwyddyn

Rôl y corff

Hybu Cig Cymru (HCC) yw'r corff sy’n cael ei arwain gan y diwydiant sy’n gyfrifol am ddatblygu, marchnata a hyrwyddo diwydiant cig coch Cymru.

 

Daw prif ffynhonnell incwm HCC o’r Ardreth ar Gig Coch, tâl statudol a delir gan ffermwyr a phroseswyr/allforwyr gwartheg, defaid a moch a leddir yng Nghymru. Caiff ei defnyddio i helpu i farchnata brandiau cig coch Cymru a datblygu’r gadwyn gyflenwi ar y cyd.

 

Cafodd HCC ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2003. Ar 1 Ebrill 2007, cafodd HCC ei sefydlu fel corff sy’n eiddo llwyr i Weinidogion Cymru.

 

Mae dwy adran weithredol (Datblygu’r Farchnad a Datblygu’r Diwydiant) yn brif ffocws ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau ac fe’u cefnogir gan yr adran Gyfathrebu, yr adran Strategaeth a Pholisi Corfforaethol a’r adran Gwasanaethau Corfforaethol.

 

  • Datblygu’r Farchnad – y nod yw cynyddu elw’r diwydiant cig coch yng Nghymru trwy gynyddu gwerth y cig coch a werthir;

  • Datblygu’r Diwydiant – gweithio gyda’r diwydiant cig coch yng Nghymru i wella ansawdd a chynyddu ei gost-effeithlonrwydd mewn ffordd gynaliadwy;

  • Cyfathrebu – sicrhau bod rhanddeiliaid a chwsmeriaid yn cael gwybodaeth am ddatblygiadau sy’n ymwneud â chig coch Cymru a holl weithgareddau HCC;

  • Strategaeth a Pholisi Corfforaethol – gweithio i ddatblygu strategaethau a’u rhoi ar waith, a dylanwadu ar benderfyniadau ynghylch diwydiant cig coch Cymru; a

  • Gwasanaethau Corfforaethol – cefnogi darparu’r busnes gweithredol a rheoli’r adnoddau sydd eu hangen.

 

Mae holl waith HCC yn cael ei wneud mewn un swyddfa gofrestredig: Hybu Cig Cymru, Tŷ Rheidol, Parc Melin, Aberystwyth SY23 3FF.

 

Mae HCC wrthi’n datblygu marchnadoedd pwysig yma yng Nghymru a thu hwnt.  Mae gwaith yn cael ei wneud yn rheolaidd â manwerthwyr a busnesau gwasanaethau bwyd, i gomisiynu rhaglenni hyrwyddo rheolaidd ar gyfer Cig Oen â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Eidion PGI.  Mae HCC yn arloeswr o ran datblygiadau o fewn y diwydiant; gan gynnal ymchwil a datblygu, rhannu gwybodaeth a chefnogi hyfforddiant sy’n berthnasol i bob rhan o’r gadwyn gyflenwi.  Mae hynny’n sicrhau bod diwydiant cig coch Cymru’n gallu gwella ansawdd, gwella cost-effeithiolrwydd ac ychwanegu at werth cynnyrch cig coch Cymru ar draws y diwydiant cyfan.

 

Mae blaenoriaethau gweithredol a thargedau perfformiad HCC yn seiliedig ar ac yn ymateb i lythyr cylch gwaith blynyddol Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig sy’n gosod blaenoriaethau strategol; unrhyw bolisïau penodol a chynlluniau gweithredu; a  holisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.

 

Mae  HCC yn cefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru i ddatblygu a chynnal diwydiant amaethyddol llewyrchus a chynaliadwy, fel a ddisgrifir yn ‘Ffermio Cynaliadwy a’n Tir’ https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2019-07/dogfen-ymgynghori-brexit.pdf.

 

Mae polisïau a blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru i’w gweld yn Ffyniant i Bawb https://llyw.cymru/ffyniant-i-bawb-y-strategaeth-genedlaethol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 https://www.legislation.gov.uk/anaw/2015/2/contents.  

 

Gyda’i gilydd, dyma’r fframwaith y cafodd nodau penodol HCC eu creu ar eu cyfer.

 

Yn ogystal, mae gofyn i’r corff integreiddio’i holl waith i gefnogi’r saith nod llesiant ynghyd â’r pum Egwyddor Datblygu Cynaliadwy.

 

Cafodd Gweledigaeth hyd 2025 HCC ei lansio ym mis Mai 2018. Ceir ynddi’r weledigaeth ar gyfer cefnogi diwydiant cig coch Cymreig sy’n broffidiol, effeithiol, cynaliadwy ac arloesol, sy’n dod â budd i bobl Cymru, sy’n gallu wynebu newidiadau gwleidyddol ac amgylcheddol ac sy’n gallu ymateb yn gystadleuol i dueddiadau yn y farchnad sy’n newid beunydd.  Dyma’r naw maes blaenoriaeth sy’n sail i’r weledigaeth honno:

 

  1. Sicrhau lle yn y farchnad i gig coch o Gymru fel cynnyrch premiwm;

  2. Datblygu cyfleoedd i fasnachu cig coch o Gymru yn yr UE;

  3. Cynyddu’r defnydd o gig coch o Gymru ym Mhrydain Fawr;

  4. Chwilio am ddefnyddwyr newydd o gig och o Gymru mewn marchnadoedd sefydledig;

  5. Cynyddu canran y cig coch o Gymru sy’n cael ei allforio y tu allan i’r UE;

  6. Datblygu diwydiant cig coch o Gymru sy’n gystadleuol;

  7. Lleihau effaith cynhyrchu a phrosesu cig coch o Gymru ar yr hinsawdd, yr amgylchedd a gwastraff;

  8. Cynllunio wrth gefn o safbwynt masnachu, cynhyrchu a phrosesu yn y dyfodol ar ôl Brexit; a

  9. Cyfathrebu’n effeithiol â phob rhan o’r diwydiant i sicrhau undod pwrpas.

 

Am ragor o wybodaeth, ewch i https://meatpromotion.wales/cy.  

Disgrifiad o'r swydd

Mae’r Cadeirydd yn cael ei recriwtio ar adeg o newid sylweddol yn y diwydiant ffermio. Prif gyfrifoldeb Cadeirydd HCC yw arwain y Bwrdd o Gyfarwyddwyr anweithredol a sicrhau bod HCC yn effeithlon. Cadeirydd HCC sy’n gyfrifol am lywodraethiant HCC ac am roi arweiniad i HCC gan ysgwyddo’r rôl bwysig o graffu ar holl fuddsoddiadau a gweithgareddau HCC.


Mae gan y Prif Weithredwr gyfrifoldeb fel Swyddog Cyfrif am weithrediad HCC. Fel Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, mae gofyn i HCC gydymffurfio â darpariaethau Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru.


Dyma brif gyfrifoldebau Cadeirydd HCC:

 

  • Arwain y Bwrdd i wireddu “Gweledigaeth 2025 – Gweledigaeth a Chyfeiriad Strategol ar gyfer Sector Cig Coch Cymru hyd 2025”;

  • Arwain y gwaith o ddatblygu Cynllun Corfforaethol HCC a Chynllun Gweithredol HCC trwy’r Bwrdd;

  • Rhoi arweiniad ar gyfer uchelgais y diwydiant cyfan i gynyddu cynhyrchiant yn gynaliadwy, yng nghyd-destun cyfnod o ddiwygio sylweddol ym maes polisi ffermio, agenda uchelgeisiol ar gyfer masnachu â’r byd a heriau cyfrannu at fod yn sero net o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd;

  • Chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo barn HCC i’r cyhoedd, cadeirio cyfarfodydd y Bwrdd ac arwain is-bwyllgorau’r Bwrdd i sicrhau eu bod yn effeithlon;

  • Sicrhau bod systemau i fonitro effeithiolrwydd y Bwrdd a bod gan holl Aelodau’r Bwrdd wybodaeth gywir, amserol a chlir ar berfformiad y cwmni;

  • Cynnal systemau llywodraethu corfforaethol cadarn a sicrhau y cynhelir yr holl weithgareddau ag uniondeb ac yn briodol fel ag sy’n ofynnol gan gorff sy’n gwario arian cyhoeddus; a

  • Sicrhau bod trefniadau effeithiol ar gyfer rheoli, llywodraethu a rheolaeth fewnol rhag risg. Mae disgwyl i’r Bwrdd sicrhau bod y systemau rheoli a rheoli risg mewnol yn effeithiol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o’r meini prawf sy’n hanfodol ar gyfer y penodiad:

 

Meini Prawf Hanfodol


Sgiliau arwain, gweithio mewn tîm a chyfathrebu
 

  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r hyn y mae arweinyddiaeth gynhwysol yn ei olygu;

  • Sgiliau cyfathrebu a dylanwadu rhagorol, gyda’r gallu i ysbrydoli a chymell;

  • Y gallu i reoli grŵp amrywiol ei farn ai arwain i wneud penderfyniadau effeithiol a datblygu polisïau ystyrlon; 

  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth gyda chymunedau a rhanddeiliaid priodol; a

  • Y sgiliau a’r gallu i gyfathrebu’n glir a chydag argyhoeddiad o fewn y corff a chyda rhanddeiliaid, y cyfryngau ac amrywiaeth o gyrff sector cyhoeddus a phreifat.

Gwerthfawrogi amaethyddiaeth ac anghenion ehangach y diwydiant 

  • Yn gallu dangos gwerthfawrogiad o’r pynciau llosg sy’n wynebu’r diwydiant a thalwyr ardoll cig coch Cymru;

  • Meddu ar wybodaeth am y pynciau sy’n berthnasol i gadwyn gyflenwi cig coch Cymru neu’r gallu i’w deall; a

  • Sgiliau rhyngbersonol da, y gallu i feithrin perthynas dda â thalwyr yr ardoll cig coch, rhanddeiliaid ehangach ac eraill.

Datblygu Strategol

 

  • Y gallu i feddwl yn strategol a datblygu gweledigaeth tymor hir ar gyfer y sefydliad;

  • Dealltwriaeth o lywodraethu corfforaethol a rôl a chylch gwaith Bwrdd HCC, gan sicrhau eu bod yn cyflawni eu rolau gydag uniondeb ac yn briodol;

  • Deall y cyd-destun strategol ehangach a’i ystyried wrth wneud penderfyniadau; a

  • Y gallu i ddadansoddi gwybodaeth gymhleth iawn.

 

 

Y Gymraeg

Byddai’n ddymunol iawn i rôl Cadeirydd HCC pe bai’n meddu ar sgiliau Cymraeg.

 

Hefyd, dylai’r holl ymgeiswyr ddangos eu bod yn ymwybodol o bwysigrwydd y Gymraeg mewn Cymru ddwyieithog a gwerthfawrogi polisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr iaith. 

Dyddiadau cyfweliadau

7 Rhagfyr 2020
11 Rhagfyr 2020

Dyddiad cau

21/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sylwch, 72 yw'r nifer uchaf o ddyddiau sy'n ofynnol ar gyfer y rôl hon, nid yr isafswm (fel y nodwyd uchod).

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.