Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol – Cyfreithiol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Baglan, Port Talbot
£15,936 y flwyddyn, ynghyd â chostau teithio a chostau eraill o fewn rheswm.   
4
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg gynt) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.   

Mae gan ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe boblogaeth o tua 390,000 o bobl a chyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff, a 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion. Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.

Disgrifiad o'r swydd

  • Chwarae rhan lawn a gweithredol yn llywodraethiant y Bwrdd Iechyd, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Bydd disgwyl ichi gynnig i’r Bwrdd farn annibynnol ar faterion yn ymwneud â pherfformiad, apwyntiadau allweddol, edrych i’r dyfodol ac atebolrwydd; 

  • Cyfrannu at wireddu gweledigaeth strategol y Bwrdd, ar sail eich annibyniaeth, eich profiad blaenorol a’ch gwybodaeth, a'ch gallu i sefyll yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;  

  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a’u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw;

  • Deall, ymhen amser, y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol;

  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus eraill a sefydliadau preifat a gwirfoddol, gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau;

  • Cefnogi’r Cadeirydd i ddatblygu bwrdd unedol effeithiol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

  • Profiad perthnasol a diweddar mewn maes sy’n ymwneud â gwasanaethau Cyfreithiol;

  • Profiad o gyfrannu'n effeithiol mewn bwrdd a dealltwriaeth o'r hyn sydd ei angen i gefnogi datblygiad bwrdd unedol mewn sefydliad mawr a chymhleth;

  • Profiad o oruchwylio proses o gyflawni blaenoriaethau gwasanaeth yn effeithiol a deall pryd a sut i ofyn am ragor o fanylion heb golli persbectif aelod annibynnol (anweithredol).

Dyddiadau cyfweliadau

7 Mawrth 2023
7 Mawrth 2023

Dyddiad cau

14/12/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

 Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr aelod annibynnol,  cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Ffôn: (01639) 683379. E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, ewch i wefan y Bwrdd Iechyd: https://bipba.gig.cymru/

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.