Swydd Wag -- Penodi Aelod o’r Bwrdd: Cefndir mewn rheoli’r amgylchedd, y dirwedd neu’r tir - Cyfoeth Naturiol Cymru
Manylion y swydd
Rôl y corff
Disgrifiad o'r swydd
Rydym yn chwilio am aelod newydd o'r Bwrdd i ddechrau ar 1 Medi 2021. Mae'r canllawiau hyn ar gyfer rôl Aelod o'r Bwrdd sydd â phrofiad o reoli'r amgylchedd, y dirwedd neu'r tir.
Mae CNC angen pobl ag uchelgais a syniadau a all ymrwymo i fynychu chwe chyfarfod Bwrdd y flwyddyn. Bydd disgwyl hefyd i aelodau'r Bwrdd fod yn aelodau o is-bwyllgorau statudol sy'n cyfarfod 4-6 gwaith y flwyddyn. Mae gan y rôl hon ymrwymiad amser o 36 diwrnod y flwyddyn a caiff ei chynnig fel penodiad cychwynnol o ddwy, tair neu bedair blynedd. Gellir lleoli'r swydd yn unrhyw le yng Nghymru ac mae tâl o £350 y dydd ynghyd â threuliau rhesymol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae angen i bob ymgeisydd ddangos y sgiliau a'r ymddygiadau canlynol:
- Parchu a deall egwyddorion atebolrwydd a llywodraethu da
- Crebwyll wrth wneud penderfyniadau cymhleth
- Y gallu i ddehongli a herio adroddiadau ariannol a materion perfformiad ehangach
- Ffocws ar genedlaethau'r dyfodol
- Ymrwymiad amlwg i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Hefyd, rydym yn chwilio am bobl sy'n bodloni'r sgiliau canlynol:
- Profiad o reoli'r amgylchedd, y dirwedd neu'r tir
- Naill ai proffil cyhoeddus neu brofiad cyfathrebu
- Gallu'r Gymraeg yn ddymunol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.