Swydd Wag -- Penodi Cadeirydd Bwrdd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil

Manylion y swydd

Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil
TBC

Bydd swydd y Cadeirydd yn derbyn £394 y diwrnod.  Bydd cynllun i ad-dalu treuliau cynhaliaeth, a threuliau eraill a ysgwyddir fel rhan o’r gwaith. Bydd y cynllun hwn yn cael ei gymeradwyo gan Weinidogion. Cewch hawlio treuliau teithio a 
threuliau rhesymol eraill a ysgwyddir wrth wneud eich gwaith yn unol â'r cynllun hwn. Mae’n bosibl hefyd y byddwch yn gymwys i hawlio ad-daliad am gostau gofal plant/gofal henoed/gofal cynorthwyol wrth wneud gwaith ar ran y corff.

Nid yw'r swydd hon yn bensiynadwy.

4
mis

Rôl y corff

Yn ystod y gwaith o sefydlu’r Comisiwn

  • Gweithio ar y cynllun gweithredu gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Swyddog Cyfrifol Llywodraeth Cymru ar Fwrdd y Rhaglen i sicrhau bod y Comisiwn yn weithredol mewn pryd ac yn addas i’w ddiben erbyn ei ddiwrnod gweithredu cyntaf 
  • Monitro risgiau, problemau, ac elfennau rhyngddibynnol ar lefel y rhaglen
  • Rhoi adborth i dîm y rhaglen ar y cynigion a’r cynnydd
  • Gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y prosiectau dan sylw yn cael eu datblygu ar y cyd, gan sicrhau'r cyfleoedd mwyaf posibl o ran cydadeiladu a dulliau gweithredu sy'n canolbwyntio ar ddatrys problemau. 
  • Ystyried buddiannau rhanddeiliaid allanol a staff y Comisiwn i’r dyfodol
  • Nodi cyfleoedd a manteision posibl.

Unwaith bydd y Comisiwn wedi'i sefydlu

  • Cefnogi'r Prif Swyddog Gweithredol i gyflawni cylch gwaith y Bwrdd
  • Arwain  gwaith unrhyw is-grŵp (yn ôl y gofyn) i gefnogi cynllun gwaith y Bwrdd a chyflawni targedau gweithredu Cydweithio â rhanddeiliaid wrth ddatblygu blaenoriaethau addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan sicrhau arferion gorau, gwerth am arian ac y cydymffurfir â blaenoriaethau eraill y llywodraeth.
  • Hyrwyddo addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, gan dynnu sylw at y cyfleoedd a'r manteision 
  • Sicrhau bod y Bwrdd yn cyflawni nodau a gweledigaeth strategol y Comisiwn yn effeithiol
  • Cyflawni ei swyddogaethau yn unol â'r cylch gorchwyl y cytunwyd arno
  • Hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb, a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud. Sgiliau Gofynnol ar gyfer Bwrdd y Comisiwn

Wrth benodi'r Cadeirydd ac aelodau cyffredin y Bwrdd, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru, o dan Atodlen 1 o’r Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru), roi sylw i allu neu arbenigedd aelodau'r Comisiwn (rhyngddynt) yn y meysydd canlynol:

  • Arbenigedd ymarferwyr neu o faes addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Profiad o hyrwyddo anghenion dysgwyr mewn addysg drydyddol
  • Cefndir gweinyddol/ymchwil 
  • Arbenigedd ariannol – neu gymhwyster cyfrifyddu
  • Archwilio
  • Cefndir diwydiannol neu fasnachol/busnes
  • Cefndir cyfreithiol 
  • Arbenigedd cydraddoldeb/amrywiaeth (fel arfer mae arbenigedd yn y maes hwn ar bob bwrdd)
  • Arbenigedd ar faterion cyfrwng Cymraeg 

Disgrifiad o'r swydd

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cadeirio Bwrdd y Comisiwn, gan ddatblygu Cylch Gorchwyl ar gyfer ei weithredu mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru.  Bydd Cadeirydd Bwrdd y Comisiwn yn cyfrannu at y trefniadau pontio sydd eu hangen er mwyn sefydlu'r corff newydd erbyn Ebrill 2024. Bydd hyn yn cynnwys gweithio  gyda'r Prif Swyddog Gweithredol i sicrhau bod systemau a phrosesau priodol yn eu lle i’w gwneud yn bosibl i staff drosglwyddo’n ddidrafferth. 

Byddant yn atebol i Weinidog y Gymraeg ac Addysg, ac yn gyfrifol am lywio penderfyniadau a’r hyn a gyflawnir mewn perthynas â sefydlu’r Comisiwn.  Bydd y Cadeirydd yn sicrhau bod cyngor awdurdodol ac amserol yn cael ei roi i Weinidogion Llywodraeth Cymru drwy swyddogion, a bydd yn rhoi adborth i'r sectorau.

Bydd deiliad y swydd:

  • Yn gweithio ar y cynllun gweithredu gyda'r Prif Swyddog Gweithredol ac Uwch Swyddog Cyfrifol Llywodraeth Cymru ar Fwrdd y Rhaglen i sicrhau bod y Comisiwn yn weithredol mewn pryd ac yn addas i’w ddiben erbyn ei ddiwrnod gweithredu cyntaf
  • Yn sicrhau bod gan holl aelodau Bwrdd y Comisiwn rolau a chyfrifoldebau clir o ran sefydlu a datblygu’r Comisiwn
  • Yn arwain bwrdd y Comisiwn o ran pennu cyfeiriad strategol y Comisiwn, ac asesu a gwerthuso’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth fusnes, cynlluniau ac amcanion perfformiad y sefydliad
  • Yn cadeirio a hwyluso cyfarfodydd Bwrdd y Comisiwn, penderfynu ar yr agenda a chymeradwyo'r cofnodion
  • Yn llywio’r gwaith o reoli perfformiad y Prif Swyddog Gweithredol ac yn gyfrifol am aelodau Bwrdd y Comisiwn
  • Yn asesu gweledigaeth, cenhadaeth a nodau’r Comisiwn
  • Yn meithrin perthynas gydag arweinwyr y sector
  • Yn darparu cynrychiolaeth ar gyfer prosiectau ar lefel uwch, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol 
  • Yn hyrwyddo safonau uchel o ran cyllid cyhoeddus; cynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian; sicrhau bod trefniadau llywodraethiant priodol yn cael eu sefydlu a'u gweithredu i gyflawni'r cyfrifoldebau, y swyddogaethau a'r dyletswyddau cyfreithiol a roddir ar y corff drwy Statud
  • Yn helpu i benodi'r Prif Swyddog Gweithredol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

I gael eich ystyried, mae'n rhaid ichi ddangos bod gennych y nodweddion a’r sgiliau i fodloni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer y penodiad hwn: 

  • Record rhagorol o arweinyddiaeth, goruchwylio trawsnewid sefydliadol, a datblygu ar lefel 
  • Bwrdd neu gyfatebol mewn sefydliad cymhleth, a'r gallu i ddarparu cyfeiriad strategol ac arweinyddiaeth gydlynol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth aeddfed o addysg a hyfforddiant ôl-orfodol
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o gyd-destun polisi addysg a hyfforddiant trydyddol Cymru, y DU ac yn rhyngwladol, a dealltwriaeth o'r heriau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil creu’r Comisiwn
  • Sgiliau rhesymu dadansoddol a chrebwyll o'r radd flaenaf, yn seiliedig ar allu arbenigol i brosesu a dehongli gwybodaeth gymhleth 

Dealltwriaeth glir o gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac ymrwymiad iddynt, a pharodrwydd i herio arferion sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl

  • Record gwych o ysbrydoli ac ysgogi staff a rhanddeiliaid sy'n dangos eich bod yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol, gan gynnwys gweithio mewn partneriaeth â chynrychiolwyr staff
  • Record o reoli cydberthnasau cymhleth a heriol yn llwyddiannus, gan gynnig cymorth priodol yn ôl yr angen a rheoli perfformiad yn effeithiol
  • Y gallu i ddeall ymrwymiadau rôl gyhoeddus, fel y'u diffinnir yn Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan
  • Y gallu i herio meddylfryd a phrofi barn, gyda pharodrwydd i gael eich herio, ac annog trafodaeth agored er mwyn dod i benderfyniadau gwell. 

Dymunol

Y gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Os nad oes gennych sgiliau o'r fath, dylech fod yn barod i wneud ymrwymiad i ddysgu ar ôl cael eich penodi.  Darperir hyfforddiant, gan gynnwys cefnogaeth a hyfforddiant unigol.   

Dyddiadau cyfweliadau

8 Tachwedd 2022
17 Tachwedd 2022

Dyddiad cau

30/09/22 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.