Swydd Wag -- Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd, Cymru

Manylion y swydd

Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd, Cymru
Lleoliad gweithio hyblyg yn y DU
£ 425 (cyfradd dydd) ynghyd â threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau y cytunwyd arnynt.
20
blwyddyn

Rôl y corff

Cefndir

Ar ddiwedd y cyfnod pontio rhwng y DU a’r UE (sydd wedi’i drefnu ar gyfer 31 Rhagfyr 2020), bydd goruchwyliaeth y Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â llywodraethu amgylcheddol yn y DU yn dod i ben. Gan fod diogelu’r amgylchedd yn fater sydd wedi’i ddatganoli i Gymru, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw penderfynu ar y trefniadau ar gyfer y dyfodol.

Er mwyn pontio’r bwlch rhwng diwedd y cyfnod pontio a gweithredu’r mecanwaith llywodraethu amgylcheddol parhaol ar gyfer Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sefydlu system gwyno interim a fydd yn weithredol o 1 Ionawr 2021. Bydd yn sicrhau bod dinasyddion Cymru yn cadw’r hawl i roi gwybod am bryderon ynghylch methiant i weithredu’r gyfraith amgylcheddol neu i gydymffurfio â’r gyfraith honno ar ôl y cyfnod pontio.

Bydd gweithrediad y dull gweithredu interim yn cael ei fonitro a’i werthuso’n fanwl, gan ddarparu gwybodaeth werthfawr i lywio dyluniad y corff parhaol. Bydd yn galluogi pontio didrafferth i fodel llywodraethu amgylcheddol cadarn a chydnerth ar gyfer pobl Cymru, un a fydd yn ategu ein fframwaith presennol ar gyfer deddfwriaeth amgylcheddol.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd yr Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd yn darparu platfform lle y bydd modd rhoi gwybod am achosion o fethiant i weithredu cyfraith amgylcheddol neu i gydymffurfio â’r gyfraith honno yng Nghymru gan unigolion, busnesau preifat a sefydliadau eraill.

Bydd prif gyfrifoldebau’r Asesydd Interim yn cynnwys: 

  • derbyn a chofnodi cwynion ar ôl y cyfnod pontio;
  • fetio cwynion;
  • ailgyfeirio cwynion at gyrff eraill pan fo angen;
  • symud cwynion a ystyrir yn rhai ‘difrifol’ neu ‘dybryd’ yn eu blaen; ac
  • adrodd ar nifer y cwynion yn flynyddol.


Yr Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd fydd yn arwain trefniadau llywodraethu amgylcheddol interim Cymru a chaiff ei gefnogi gan banel arbenigol. Bydd aelodau’r panel yn ymwneud â’r gwaith fesul achos sy’n golygu y bydd yr Asesydd Dros Interim yn gallu manteisio ar arbenigedd perthnasol pan fo angen.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall darnau o sgwrs sylfaenol
Gallu cynnal sgwrs sylfaenol yn y Gymraeg

Manyleb y person

I gael eich ystyried, rhaid i chi ddangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a’r profiad i fodloni meini prawf hanfodol y penodiad.

 

Meini prawf hanfodol 

  • Cymhwyster cyfreithiol o’r safon isod:

           i. LPC a chyfnod hyfforddiant cydnabyddedig o 2 flynedd neu fwy; neu
           ii. Ôl-radd meistr mewn maes perthnasol

  • Deallusrwydd o ddeddfwriaeth bresennol Cymru sy’n ymwneud â’r amgylchedd, sef Deddf yr Amgylchedd (Cymru) a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol, SMNR (Datblygu Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy) ac egwyddorion Datblygu Cynaliadwy sy’n sail i’r ddeddfwriaeth a’r fframwaith gweithredol yng Nghymru;

  • Dealltwriaeth o rolau a chyfrifoldebau presennol Cyfoeth Naturiol Cymru (NRW) yn ogystal â’r rhyngddibyniaethau rhwng cyrff cyhoeddus eraill Cymru mewn perthynas â materion amgylcheddol; a

  • Deallusrwydd o’r gyfraith cenedlaethol a rhyngwladol ehangach a sut mae corff y gyfraith yn ymwneud â chyfraith Cymru.


Priodoleddau Dymunol

  • Sgiliau rhyngbersonol cadarn gydag effaith, cadernid a hygrededd personol i reoli cysylltiadau’n effeithiol gyda Gweinidogion, Aelodau’r Senedd, rhanddeiliaid a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru;

  • Sgiliau cyfathrebu ardderchog, gyda’r gallu i fod yn glir a chryno ac i hwyluso dealltwriaeth o faterion cymhleth;

  • Y gallu i werthuso tystiolaeth gymhleth o fewn amserlen fyr i wneud penderfyniadau rhesymegol ar ddifrifoldeb posibl materion;

  • Deall egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymo iddynt; a

  • Deall yn glir gydraddoldeb ac amrywiaeth ac ymrwymo iddynt, a bod yn barod i herio arferion gwahaniaethol.

Dyddiadau cyfweliadau

12 Tachwedd 2020
16 Tachwedd 2020

Dyddiad cau

11/10/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.