Swydd Wag -- Cadeirydd Pwyllgor Cyllido Cymru - Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Manylion y swydd
Rôl y corff
Sefydlir Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fel corff cyhoeddus anadrannol gan Ddeddf Seneddol. Mae’r Bwrdd yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol y Gronfa, fel y nodir yn ei Fframwaith Strategol, Pobl yn Arwain ac am lywodraethu’r Gronfa.
Dirprwyir penderfyniadau ariannu i bum pwyllgor ariannu (y DU, Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban), Swyddogion Gweithredol, ac ar adegau pwyllgorau arbenigol, gyda’r Bwrdd yn cadw goruchwyliaeth strategol ar gyfer cyflawni fframwaith strategol y Gronfa: Pobl yn Arwain, a chyfrifoldeb llywodraethu.
Yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a’r gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi. Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am bolisi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gan gynnwys pennu cyfarwyddiadau polisi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Fframwaith Strategol y Gronfa Pobl yn Arwain a’i rhaglenni ar ein gwefan.
Disgrifiad o'r swydd
- Cytuno ar gyfeiriad strategol y portffolio i ddarparu Pobl yn Arwain yng Nghymru ar y cyd â’r pwyllgor a’r tîm gweithredol.
- Sicrhau bod y Bwrdd yn ymgysylltu ac yn ymwybodol o faterion a chyfleoedd allweddol sy’n effeithio ar waith y Gronfa yng Nghymru.
- Dod â mewnwelediad a safbwynt i’r weithrediaeth er mwyn gwella
- effaith y Gronfa drwy ddulliau ariannu o’r radd flaenaf.
- Sicrhau bod penderfyniadau rhaglenni a chyllid yn cyd-fynd â fframwaith atebolrwydd y Gronfa, a gynghorir gan y weithrediaeth.
- Llunio a chynnal grŵp o aelodau pwyllgor amrywiol o ansawdd uchel sydd â gwybodaeth a dealltwriaeth briodol o fywyd cymunedol a chyhoeddus ledled Cymru.
- Sicrhau bod y pwyllgor yn gweithredu’n unigol ac ar y cyd i’r safonau a’r perfformiad uchaf.
- Goruchwylio penderfyniadau ar geisiadau ariannu mawr yn uniongyrchol neu drwy bwyllgorau arbenigol.
- Adolygu ac ystyried cyflwr a datblygiad portffolio Cymru.
- Gweithredu fel llysgennad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ac, ar adegau, y DU.
- Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am aelodau presennol pwyllgor Cymru ar ein gwefan yma
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Hanfodol
Bydd angen i bob ymgeisydd ddangos yn ei gais ei fod yn bodloni’r rhan fwyaf o’r meini prawf hanfodol canlynol i safon uchel:
- Dealltwriaeth briodol o’r sector Cymunedol, Gwirfoddol a Mentrau Cymdeithasol yng Nghymru a’r gallu i ymgysylltu ag uwch randdeiliaid ynddo ynghyd ag uwch randdeiliaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat.
- Profiad o gyllid elusennol a chymunedol.
- Profiad helaeth o weithredu fel rhywun anweithredol, a’r gallu i weithredu fel Cadeirydd
- Dealltwriaeth o reoli portffolios, ariannu penderfyniadau a goruchwylio ar lefel uwch.
- Cyfathrebu o’r radd flaenaf a sgiliau rhyngbersonol gyda’r gallu i herio’n adeiladol.
- Ymrwymiad i wella amrywiaeth a chynhwysiant.
- Dealltwriaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg a’r gofynion deddfwriaethol perthnasol.
Dymunol
- Profiad o wneud penderfyniadau mewn portffolio ariannu ar raddfa debyg
- Ymrwymiad i egwyddorion llywodraethu corfforaethol, cysondeb ac atebolrwydd mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus anadrannol.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.