Swydd Wag -- Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeduus Cymru Penodi Cyfarwyddwr Anweithredol (Iechyd y Cyhoedd)
Manylion y swydd
Rôl y corff
Iechyd Cyhoeddus Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol ar gyfer iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Ei weledigaeth yw Gweithio i wireddu dyfodol iachach i Gymru ac, wrth gyflawni'r weledigaeth hon, mae'n chwarae rhan ganolog mewn ysgogi gwelliannau o ran iechyd a llesiant y boblogaeth, lleihau anghydraddoldebau iechyd, gwella canlyniadau gofal iechyd, diogelu'r cyhoedd a chefnogi datblygiad iechyd ym mhob polisi ledled Cymru.
Mae'r sefydliad yn gweithio'n agos gyda chymunedau, sefydliadau'r GIG, awdurdodau lleol, gweinidogion a swyddogion ac ystod eang o bartneriaid gan gynnwys y sector gwirfoddol, tai, addysg a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol. Mae ganddo rôl gynyddol hefyd o ran cefnogi iechyd y cyhoedd yn rhyngwladol fel Canolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy ei holl gysylltiadau â phartneriaid rhyngwladol gan gynnwys Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol.
Mae'n gyfnod cyffrous i iechyd y cyhoedd yng Nghymru gyda chyd-destun polisi a deddfwriaeth arloesol a blaengar sy'n sicrhau bod iechyd, llesiant a chynaliadwyedd yn flaenllaw yn y gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Y tri sbardun o bwys ar gyfer hyn yw Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), y Rhaglen Lywodraethu - Ffyniant i Bawb: y strategaeth genedlaethol a Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae ein ffocws yn glir iawn. Er mwyn gwneud gwelliannau i iechyd a llesiant ar raddfa fawr ac yn gyflym a lleihau anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru, bydd angen i ni ganolbwyntio ar yr hyn sy'n gweithio, cefnogi ein pobl yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn genedlaethol ac yn lleol, i feddwl, ymgysylltu a gweithio gyda phartneriaid yn wahanol a rheoli a chyflwyno newid yn dda. Mae angen i ni hefyd gefnogi ein partneriaid gan gynnwys cymunedau, gweithleoedd, y GIG, awdurdodau lleol, y trydydd sector, yr heddlu, gwasanaethau tân ac achub ac asiantaethau tai i ddod yn eiriolwyr ac yn hyrwyddwyr iechyd cyhoeddus o fewn ac ar draws cymunedau. Yn ogystal, mae angen moderneiddio sut rydym ni, a'r system iechyd cyhoeddus ehangach, yn ymgysylltu, yn rhyngweithio ac yn cyfathrebu â'r cyhoedd a chymunedau yn gyffredinol.
Rydym wedi sefydlu nifer o bartneriaethau strategol allweddol a chydweithrediadau i ysgogi gwelliannau mewn iechyd, llesiant a chynaliadwyedd ledled Cymru - gyda ffocws penodol ar adeiladu gwytnwch a'r penderfynyddion ehangach. Mae'r rhain yn cynnwys CymruWellWales, sef partneriaeth strategol draws-sector sy'n arwain Cymru o ran yr ymgyrch 1000 Diwrnod Cyntaf a Chanolfan Gymorth Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs), y rhaglen genedlaethol Camau Cynnar Gyda'n Gilydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol er mwyn ymgorffori dull iechyd cyhoeddus o blismona yng Nghymru a Phartneriaeth Iechyd a Thai strategol i Gymru.
Y prif rolau y mae'r Bwrdd yn eu cyflawni yn y sefydliad yw:
- llunio strategaeth a phennu cyfeiriad y sefydliad
- sicrhau atebolrwydd trwy ddwyn y Tîm Gweithredol i gyfrif am gyflawni'r strategaeth a thrwy geisio sicrwydd bod y systemau rheoli yn gadarn ac yn ddibynadwy
- pennu archwaeth risg y sefydliad, pennu'r risgiau strategol allweddol a goruchwylio'r gwaith o reoli a lliniaru'r risgiau hynny
- llywio diwylliant a naws gadarnhaol ar gyfer y Bwrdd a'r sefydliad.
Disgrifiad o'r swydd
Mae hwn yn amser cyffrous i Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth inni gychwyn ar strategaeth hirdymor newydd ac mae'n gyfle gwych i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch profiad i gyfrannu at ein gweledigaeth sef ‘Gweithio i Gyflawni Dyfodol Iachach i Gymru’.
Rôl a chyfrifoldebau
Bydd Cyfarwyddwyr Anweithredol ymysg pethau eraill yn:
- Cyflawni llywodraethiant effeithiol ar y sefydliad, yn ei holl ffurfiau integredig. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
- Cyfrannu at ddatblygu a chynnal diwylliant iach ar draws swyddogaethau a gwasanaethau'r sefydliad.
- Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli o ddydd i ddydd.
- Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw.
- Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.
- Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill gan sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i lywio, datblygu a gwella gwasanaethau.
- Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;
- Goruchwylio stiwardiaeth effeithiol ar adnoddau, gan sicrhau atebolrwydd ac agwedd agored wrth ddyrannu a defnyddio adnoddau.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Mae’n fwy na thebyg y byddwch yn gweithio, neu wedi bod yn gweithio, ar lefel uchel mewn rôl arweinyddiaeth genedlaethol sy’n gysylltiedig ag iechyd y boblogaeth. Gyda phrofiad sylweddol o arwain gwelliannau ar raddfa fawr mewn iechyd a llesiant. Bydd eich dealltwriaeth a’ch gwerthfawrogiad o faterion yn ymwneud ag iechyd y boblogaeth, a’r amgylchedd polisi, yng Nghymru, yn hanfodol i’ch gallu i gyflawni’r swydd hon.
Meini Prawf Penodol i'r Rôl:
- Profiad sylweddol o weithio’n llwyddiannus mewn uwch-swydd arweinyddiaeth genedlaethol ym maes iechyd y boblogaeth.
- Profiad, gyda thystiolaeth, o welliant ar raddfa fawr ym maes iechyd a llesiant.
- Y gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion iechyd y boblobgaeth mewn cyd-destun Bwrdd cenedlaethol strategol
Y Meini Prawf sy'n Ddymunol
Yn ddelfrydol byddwch wedi gwasanaethu mewn rôl anweithredol neu fel ymddiriedolwr.
- Yn ogystal â'r meini prawf penodol i'r rôl uchod, byddwn yn chwilio am unigolion talentog sy'n frwdfrydig am y gwaith yr ydym yn ei wneud, ac sy'n gallu dangos:
- Annibyniaeth ar y sefydliad a'r gallu i gyfrannu yn wrthrychol ac yn adeiladol at y Bwrdd a'i waith.
- Gwerthfawrogiad a dealltwriaeth eang o faterion iechyd y cyhoedd a'r boblogaeth ynghyd ag awydd dilys i wella iechyd a llesiant pobl Cymru;
- Y gallu i weithio gyda'r Cyfarwyddwyr Gweithredol ac aelodau eraill o'r Bwrdd, fel Bwrdd unedol, i sicrhau arweinyddiaeth effeithiol ar lefel y Bwrdd. Lle bo angen, byddwch yn dangos sgiliau a fydd yn eich galluogi i ddwyn y Cyfarwyddwyr Gweithredol i gyfrif, gyda her a chymorth priodol, am berfformiad gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd
- y gallu i gyfrannu at ofynion y sefydliad o safbwynt llywodraethiant a chydymffurfio deddfwriaethol, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith;
- y gallu a phrofiad o ddadansoddi gwybodaeth gymhleth a chyfrannu at benderfyniadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth;
- y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
- gwerthfawrogiad o ofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a dylanwad hyn ar sicrhau “Dyfodol Iachach i Gymru” ar gyfer poblogaeth Cymru a chenedlaethau’r dyfodol;
- y gallu i fod yn llysgennad effeithiol ar gyfer y sefydliad a gweithio gyda rhanddeiliaid a dylanwadu arnynt mewn ffordd strategol;
- y gallu i roi'r amser a'r egni angenrheidiol i wasanaethu fel aelod effeithiol o'r Bwrdd.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r:
I gael rhagor o wybodaeth am rôl Cyfarwyddwyr Anweithredol, cysylltwch â:
Helen Bushell, Ysgrifennydd y Bwrdd a Phennaeth Uned Fusnes y Bwrdd.
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Ffôn: 07711 819665
I gael rhagor o wybodaeth am Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch fynd i wefan y sefydliad: http://www.publichealthwales.wales.nhs.uk/
Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus yn
I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.