Swydd Wag -- Aelodau (2) - Gyrfa Cymru (Hanfodol i Gymru)

Manylion y swydd

Fel arfer, caiff cyfarfodydd CCDG eu cynnal mewn lleoliadau ym mhob rhan o Gymru, ac fe'u cynhelir bob chwarter. Disgwylir i aelodau'r bwrdd ymgymryd â'u dyletswyddau drwy Gymru gyfan. Fel rhan o addasiad rhesymol, rhoddir ystyriaeth i geisiadau gan aelodau sydd am gyfrannu o bell.
Nid gweithwyr cyflogedig i’r cwmni na Llywodraeth Cymru yw Aelodau Bwrdd CCDG, ac maent ar hyn o bryd yn gwasanaethu yn wirfoddol ac yn ddi-dâl. Caiff treuliau teithio a chynhaliaeth sy'n cael eu hysgwyddo gennych i fynd i gyfarfodydd CCDG neu wrth ymweld â lleoliadau ar ran CCDG, yn cael eu had-dalu gan CCDG yn ôl y gyfradd sy'n gymwys i aelodau o Bwyllgorau'r Llywodraeth.   Dylid hawlio ad-daliadau drwy Ysgrifenyddiaeth CCDG. Gellid hefyd talu costau gofal plant ac unigolion dibynnol eraill os cyflwynir derbynebau, yng nghyd-destun costau ychwanegol eraill a fydd yn cael eu hysgwyddo wrth wneud gwaith i CCDG. Mae Cadeiryddion y tri phwyllgor hefyd yn cael taliad dyddiol.
10
blwyddyn

Rôl y corff

Y cefndir

Mae Career Choices Dewis Gyrfa Ltd (CCDG) yn is-gwmni y mae Llywodraeth Cymru yn meddu arno a gafodd ei sefydlu ar 1 Ebrill 2013. Enw masnachol y cwmni yw Gyrfa Cymru, ac mae'n darparu gwasanaethau amrywiol sy'n integreiddio'r defnydd o dechnolegau digidol ochr yn ochr â chyfryngau wyneb yn wyneb mwy traddodiadol. Mae'r cwmni'n darparu gwasanaeth gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am yrfaoedd, sy'n ddiduedd ac yn ddwyieithog, i bobl o bob oed yng Nghymru.

 

Mae Gyrfa Cymru'n cefnogi cwsmeriaid i fod yn fwy effeithiol wrth gynllunio a rheoli eu gyrfaoedd, gan gydnabod nad yw rheoli gyrfa bellach yn golygu dewis un yrfa yn unig, ond yn hytrach ddilyn llwybr gyrfa o wahanol swyddi ar hyd eich oes. Drwy wella sgiliau a chymwyseddau rheoli gyrfa, gall cwsmeriaid drosglwyddo o un swydd i un arall yn rhwyddach, mwynhau lefel uwch o foddhad o ran gyrfa, a chwarae rhan fwy gweithgar yn yr economi.

 

Ym mis Ebrill 2017, roedd Gyrfa Cymru wedi lansio eu Gweledigaeth dair blynedd, 'Newid Bywydau'. Mae Newid Bywydau'n cynnig gweledigaeth sy'n sicrhau'r canlynol:

  • Ffocws cryfach ar bobl ifanc, gan bwysleisio'n bennaf ar Gyfnod Allweddol 4 a chymorth ar gyfer cyfnodau pontio eraill hyd at 19 oed;
  • Gwasanaethau gwell i gefnogi sefydliadau eraill er mwyn helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau; a
  • Mwy o ddefnydd o dechnoleg ddigidol.

Erbyn hyn, mae cynghorydd gyrfaoedd yn gysylltiedig â phob ysgol uwchradd er mwyn gweithio mewn partneriaeth i wella'r ddarpariaeth ar gyfer rhaglenni Gyrfaoedd a'r Byd Gwaith sy'n effeithiol. Mae Gyrfa Cymru wedi datblygu cynnig i ennyn diddordeb cyflogwyr ar gyfer ysgolion uwchradd drwy ddatblygu cronfa ddata'r Gyfnewidfa Addysg a Busnes. Mae'n gronfa ddata a gaiff ei hwyluso gan Gyrfa Cymru sy'n cadw gwybodaeth am gyflogwyr a busnesau ar ledled Cymru sydd wedi datgan eu bod yn fodlon i gefnogi ysgolion i wella'r cwricwlwm.

 

Mae gan Gyrfa Cymru gyllideb o £18.8m o gyllid grant craidd gan Lywodraeth Cymru.

 

 

Rôl y Bwrdd

Rôl y bwrdd yw:

  • rhoi arweiniad effeithiol; diffinio a datblygu cyfeiriad strategol a gosod amcanion sy'n cynnig her;
  • hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus a chynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian;
  • sicrhau bod gweithgareddau CCDG yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol; a
  • monitro perfformiad i sicrhau bod CCDG yn ysgwyddo'i ddyletswyddau, amcanion, nodau a thargedau perfformiad statudol yn llawn.
  •  


I wneud hynny, rhaid i'r bwrdd sicrhau bod trefniadau effeithiol ar waith i roi sicrwydd ar reoli risg, llywodraethu a rheoli mewnol. Disgwylir i'r bwrdd sicrhau ei hunan am effeithiolrwydd y systemau rheoli mewnol a rheoli risg.

 

Yn benodol, mae'r bwrdd yn gyfrifol am:

  • sefydlu a datblygu nodau ac amcanion strategol CCDG sy'n gyson â'i ddiben cyffredinol ac yn rhan o ddogfen Erthyglau Cymdeithasu a Fframwaith CCDG a bennir gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth;
  • sicrhau bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cael gwybod am unrhyw newidiadau sy'n debygol o gael effaith ar gyfeiriad strategol CCDG neu ar ei allu i gyrraedd ei dargedau, ac am y camau sydd eu hangen i ymdrin â newidiadau o'r fath;
  • sicrhau cydymffurfedd ag unrhyw ofynion statudol neu weinyddol mewn perthynas â defnyddio cyllid cyhoeddus;
  • sicrhau ei fod yn derbyn ac yn adolygu gwybodaeth ariannol ynghylch gwaith rheoli CCDG yn rheolaidd; a
  • dangos safonau uchel o lywodraethu corfforaethol bob amser, gan gynnwys defnyddio'r pwyllgor archwilio i helpu'r bwrdd i ymdrin â risgiau ariannol allweddol a rhai eraill.

Disgrifiad o'r swydd

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen rhywfaint o ddeunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda chymorth e.e. geiriadur
Gallu paratoi deunydd arferol mewn sefyllfa waith gyda rhywfaint o wirio
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Mae CCDG yn chwilio am ddau aelod newydd o'r bwrdd (Cymraeg yn ddymunol) sydd ag amrywiaeth o arbenigedd, ar draws amrediad o sectorau economaidd, proffesiynau a grwpiau cymdeithasol.

 

Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau gan unigolion â sgiliau yn un o'r meysydd canlynol:

  • Cefndir ym maes cyfrifyddu/cyllid
  • Rheoli Risg
  • Addysg
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Busnes (Diwydiant Preifat)
  • Y Gyfraith
  • Rheoli Ystadau

Meini Prawf Hanfodol

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi:

 

  • Y gallu i herio mewn ffordd adeiladol  
  • Prawf o lwyddiant blaenorol mewn meithrin cysylltiadau ag amrywiaeth o randdeiliaid
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o faterion sy'n ymwneud â dysgu a gwaith ar lefel gymunedol, lleol, rhanbarthol neu genedlaethol
  • Ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth
  • Sgiliau cyfathrebu rhagorol, a'r gallu i egluro materion cymhleth mewn modd cryno a chlir, gan ddangos parch at safbwyntiau pobl eraill
  • Barn gadarn, sensitifrwydd ac ymwybyddiaeth wleidyddol

 

Bydd gofyn i'r ymgeiswyr sy'n cael eu rhoi ar restr fer ymhelaethu ar sut y maent yn bodloni'r meini prawf uchod gan ddefnyddio enghreifftiau a dangos tystiolaeth.

Dyddiadau cyfweliadau

3 Chwefror 2021
4 Chwefror 2021

Dyddiad cau

07/12/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Contacts:

For further information regarding the selection process, please contact:

 

Public Appointments, Public Bodies Unit

Tel: 03000 255454

Email: publicappointments@gov.wales

 

For further information regarding the role of the CCDG Board and the role of Members please contact: Tylee Perry, Careers Policy Manager, Careers policy:

 

Tel: 0300 062 5260

Email: tylee.perry@gov.wales

 

If you need any further assistance in applying for this role, please contact the Public Appointments Unit on publicappointments@gov.wales

 

For further information about Public Appointments in Wales, please visit www.gov.wales/publicappointments

 

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.