Swydd Wag -- Aelodau - Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (leoliadau amrywiol)

Manylion y swydd

Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (leoliadau amrywiol)
Mae 7 Cyngor Iechyd Cymuned lleol ledled Cymru. Gweler Atodiad D y pecyn ymgeiswyr am fanylion
Gwirfoddolwyr yw aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned. Ar ôl cael eu penodi, gall aelodau hawlio costau teithio a threuliau eraill o fewn rheswm yn unol â pholisïau'r Cynghorau.
3
mis

Rôl y corff

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn annibynnol a diduedd er mwyn dylanwadu ar y ffordd y caiff gwasanaethau iechyd cenedlaethol eu cynllunio a'u darparu yng Nghymru, a gwella hyn. 

Gwirfoddolwyr lleol yw aelodau’r Cynghorau, sy’n gweithredu fel llygaid a chlustiau cleifion a’r cyhoedd, gan wrando ar farn pobl am y gwasanaeth iechyd, a chynorthwyo pobl sydd eisiau rhannu pryder ynglŷn â’r gwasanaeth iechyd a gweithio gyda’r 
gwasanaeth iechyd i wella ansawdd gofal i gleifion. 

Cynghorau Iechyd Cymuned - strwythur sefydliadol
Mae saith Cyngor o'r fath yng Nghymru, pob un yn gyfrifol am ardal ddaearyddol benodol. Mae'r ardaloedd daearyddol hyn yn cyd-fynd â'r saith Bwrdd Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am lunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn yr ardal honno (gweler atodiadau 
D ac E). 

Caiff pob Cyngor ei gefnogi gan dîm bach o staff cyflogedig, yn ogystal ag aelodau awdurdod lleol, y trydydd sector a gwirfoddolwyr. Mae Bwrdd Cynghorau Iechyd 
Cymuned Cymru yn goruchwylio’r saith Cyngor. 

Gyda’r Cynghorau’n cynrychioli lleisiau cleifion yn eu hardal leol, mae’r Bwrdd yn cynrychioli llais y cleifion a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Y Bwrdd sy’n gosod y safonau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r Cynghorau eu cyrraedd, ac mae’n rhaid iddo 
ddarparu cyngor, canllawiau a chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu perfformiad. 

Mae Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru:

- Yn gwrando'n barhaus ar yr hyn sydd gan unigolion a'r gymuned i'w ddweud am eu GIG'

- Yn llais i'r cyhoedd drwy hysbysu arweinwyr a rheolwyr y GIG am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut gellir gwella pethau;

- Yn meithrin perthynas dda â gwasanaethau lleol y GIG;

- Yn ymgynghori'n uniongyrchol â'r cyhoedd ynghylch materion penodol; a throsglwyddo barn y cyhoedd i'r GIG; a

 - Yn rhoi help, cyngor a chymorth i bobl sydd am leisio pryder ynghylch gwasanaethau'r GIG

Disgrifiad o'r swydd

Beth mae aelodau'r Cynghorau Iechyd Cymuned yn ei wneud?

Mae rhai o weithgareddau'r Cynghorau, megis cefnogi unigolion i leisio pryder, yn cael eu gwneud gan staff y Cynghorau. Rôl aelodau'r Cynghorau yw cynnig safbwynt y cyhoedd. Mae'r aelodau'n ymwneud â'r gweithgareddau canlynol:

  • ymweld â gwasanaethau iechyd lleol a chraffu arnynt, gan gynnwys
  • ymweld â meddygfeydd, clinigau ac ysbytai a gwrando ar farn a phrofiadau cleifion, gofalwyr a staff;
  • bod yn rhan o bwyllgorau a gweithgorau sydd wedi'u sefydlu i fonitro ac adolygu perfformiad y GIG;
  • darllen a rhoi sylwadau ar amrywiaeth eang o ddogfennau'r GIG;
  • ymgysylltu'n barhaus â'r cymunedau maent yn eu cynrychioli a'r rheini sy'n darparu'r gwasanaethau iechyd yn y cymunedau hynny; a
  • cynrychioli buddion cleifion a'r cyhoedd o ran cynllunio a chytuno ar newidiadau i wasanaethau'r GIG

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall rhai geiriau ac ymadroddion sylfaenol
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Er mwyn cael eich ystyried, rhaid ichi allu dangos bod gennych y priodoleddau, y sgiliau a'r profiad i fodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Nid oes angen i aelodau fod yn arbenigwyr ar waith y GIG. Rydym yn chwilio am unigolion o bob cefndir sydd â diddordeb gwirioneddol mewn helpu eu cymunedau lleol i wella'r gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu. 

Mae’n rhaid i ymgeiswyr arddangos dealltwriaeth glir o’r canlynol, ac ymrwymiad iddynt:

- materion cydraddoldeb ac herio arferion sy’n gwahaniaethu
‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ Nolan. 

Disgwylir i aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned gadw at God Ymddygiad ar gyfer aelodau’r Cyngor Iechyd Cymuned. Mae’r Cod yn ymwneud â materion fel gwerthoedd y Cyngor Iechyd Cymuned, ymddygiad personol, cyfrinachedd a chyfle 
cyfartal.

Meini Prawf Hanfodol

Bydd angen i aelodau ddangos:

- diddordeb gwirioneddol mewn gwrando ar eraill a meddu ar sgiliau cymdeithasol cryf iawn;
- gallu i gynrychioli eraill mewn ffordd gytbwys;
- gallu i uniaethu â phobl o wahanol gefndiroedd; a
- gallu i weithio'n effeithiol fel rhan o dîm.

Dyddiadau cyfweliadau

22 Tachwedd 2021
26 Tachwedd 2021

Dyddiad cau

01/10/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

Manylion Cyswllt:

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am swyddogaeth aelodau, cysylltwch â Bwrdd y CICau ar:


Ffôn: 02920 235558;

E-bost: enquiries@waleschc.org.uk; neu ewch i’r wefan (www.wales.nhs.uk/cym)


Mae fersiwn Hawdd ei Ddeall o'r Pecyn Gwybodaeth i Ymgeiswyr ar gael ar Wybodaeth i bobl sydd am ddod yn aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru (nhs.wales).

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch i wneud cais am y swydd hon, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.