Swydd Wag -- Aelod Annibynnol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Baglan, Port Talbot
£15,936 y flwyddyn, ynghyd â chostau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.  
4
mis

Rôl y corff

Cafodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (a elwid gynt yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) ei greu ar 1 Ebrill 2019, ar ôl i’r cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gael ei drosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg i’r bwrdd newydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.   

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn gwasanaethu poblogaeth o tua 390,000 o bobl ac mae ganddo gyllideb flynyddol o dros £1 biliwn. Mae'n cyflogi tua 12,500 o staff - 70% ohonynt yn ymwneud â gofal uniongyrchol i gleifion.  Mae'n cynnig gofal integredig i gleifion, ac yn darparu gwasanaethau gofal trydyddol, acíwt, canolraddol, iechyd meddwl, cymunedol a sylfaenol yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.   

At hynny, mae’r Bwrdd yn darparu amrywiaeth o wasanaethau rhanbarthol ac is-ranbarthol, gan gynnwys llawdriniaeth ar y galon, a llawdriniaeth blastig ac ar gyfer llosgiadau i gleifion yn Ne-orllewin Lloegr, gwasanaethau iechyd meddwl fforensig i Dde Cymru a gwasanaethau anableddau dysgu o Abertawe i Gaerdydd, yn ogystal ag ardaloedd Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful.  

Disgrifiad o'r swydd

Fel aelod o'r Bwrdd, byddwch yn:

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Disgwylir i chi allu cynnig barn annibynnol i'r Bwrdd ar faterion perfformiad, penodiadau allweddol, edrych tua’r dyfodol, ac atebolrwydd; 
  • Cyfrannu at ddod â gweledigaeth strategol y Bwrdd yn fyw, yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad a'ch gwybodaeth yn y gorffennol, a'ch gallu i sefyll gam yn ôl oddi wrth y rheolaeth weithredol o ddydd i ddydd;  
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau sy’n gydgysylltiedig, yn gadarn ac yn dryloyw;
  • Dod, ymhen amser, i ddeall gwaith y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r Bwrdd Iechyd i weithredu'n effeithiol
  • Gweithio'n agos gyda chyrff cyhoeddus, preifat, a gwirfoddol eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • Cefnogi'r Cadeirydd i ddatblygu bwrdd unedol effeithiol.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu negeseuon sylfaenol ar bynciau pob dydd
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Mae'n hanfodol bod Aelod Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:-

Cwestiynau i'w hateb fel rhan o'ch cais yn eich datganiad personol, gan ddefnyddio dim mwy na 2 dudalen A4.

  1. Rhowch fanylion eich profiad o arwain a datblygu sefydliad ar lefel uwch-fwrdd neu rôl gyfatebol, a'r meysydd perthnasol o arbenigedd penodol y byddech yn eu cynnig i’r rôl hon.

  2. Drwy enghraifft benodol, dangoswch eich profiad blaenorol ym maes cyllid neu reolaeth fewnol ac o ddwyn eraill i gyfrif tra'n cynnal perthynas dda.  

  3. Disgrifiwch y ffyrdd yr ydych wedi cyfrannu at ddatblygu a chyflawni strategaeth, naill ai mewn rôl weithredol â chyfrifoldeb neu mewn rôl anweithredol sy'n goruchwylio.

  4. Dangoswch eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o faterion iechyd yng nghyd-destun Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar lefel cymuned, awdurdod lleol a chenedlaethol.

  5. Rhowch dystiolaeth o'ch sgiliau rhyngbersonol i ddangos eich effaith bersonol a'ch gallu i weithio mewn tîm.

Dyddiadau cyfweliadau

27 Medi 2021
8 Hydref 2021

Dyddiad cau

10/08/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

Y Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am rôl aelod annibynnol, cysylltwch ag Emma Woollett, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Rhif ffôn: (01639) 683379  E-bost: Emma.Woollett@wales.nhs.uk

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, efallai yr hoffech droi at wefan y Bwrdd Iechyd: 

Hafan - Bwrdd lechyd Prifysgol Bae Abertawe (gig.cymru)

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.