Swydd Wag -- Penodi Aelod Annibynnol (Cyffredinol / Busnes Corfforaethol)

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Mae pencadlys y Bwrdd Iechyd yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf, ond mae'n darparu gwasanaethau ar draws y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd disgwyl i'r ymgeisydd llwyddiannus deithio, felly.
Caiff aelod annibynnol o’r Bwrdd Iechyd daliad cydnabyddiaeth penodedig o £13,344 y flwyddyn (adolygiad tâl yn yr arfaeth).
4
mis

Rôl y corff

Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ar 1 Ebrill 2019, ac mae'n darparu ac yn comisiynu ystod lawn o wasanaethau ysbyty, cymunedol a gwasanaethau iechyd y boblogaeth i drigolion y Rhondda, Taf Elái, Merthyr Tudful, Cwm Cynon a Pen-y-bont ar Ogwr.  Mae hyn yn cynnwys darparu gwasanaethau gofal sylfaenol lleol (meddygfeydd teulu, deintyddion, optometryddion a fferyllwyr cymunedol) a rhedeg ysbytai, canolfannau iechyd a thimau iechyd cymunedol. Mae'r Bwrdd Iechyd hefyd yn gyfrifol am wneud trefniadau i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd mwy arbenigol lle na ddarperir y rhain o fewn ffin y Bwrdd Iechyd.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-

  • Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff y Bwrdd Iechyd ei reoli, yn glinigol ac yn gorfforaethol.  Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.
  • Gweithredu fel Ymddiriedolwr Corfforaethol Elusen Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli gweithredol o ddydd i ddydd;
  • Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw
  • Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol;
  • Bod yn gefnogol i’r angen i weithio’n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau;
  • Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn; 
  • Disgwylir iddynt gefnogi Gwerthoedd ac Ymddygiadau’r Bwrdd Iechyd, gan 'fyw' y gwerthoedd yn eu rôl fel Aelod o'r Bwrdd.
  • Gallu cyfrannu at brosesau llywodraethu ac ariannu y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei fod yn agored ac yn onest yn ei waith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Hanfodol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau arferol mewn sefyllfa waith
Gallu cynnal sgwrs mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Manyleb y person

Bydd angen i ymgeiswyr dystiolaethu'r MEINI PRAWF HANFODOL canlynol yn eu gwybodaeth a'u profiad. Er mwyn cael eich ystyried, rhaid i chi allu dangos bod gennych y rhinweddau, y sgiliau a'r profiad i gyflawni'r holl feini prawf hanfodol ar gyfer penodi.

Meini Prawf Hanfodol (Arddangosir Trwy CV a Datganiad Personol)

  • Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;
  • Y gallu i ddwyn y tîm gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;
  • Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;
  • Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee Deddf Diogelu Data 2018 (y Rheoliad  Cyffredinol ar Ddiogelu Data)
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb ac amrywiaeth a sut y mae'r rhain yn ymwneud â'r sector iechyd

 

Er mwyn cefnogi cymysgedd sgiliau cyfoethog ar draws Aelodau'r Bwrdd, hoffai CTMUHB ddenu ymgeiswyr sydd â'r sgiliau a'r ddealltwriaeth a gafwyd trwy brofiad busnes corfforaethol a / neu fasnachol. Gall y rhain gynnwys y meysydd a nodir yn y tabl canlynol.

Gwahoddir ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad lle bydd y panel yn archwilio sgiliau a phrofiad arall a gafwyd trwy brofiad busnes corfforaethol a / neu fasnachol. Mae'r sgiliau DESIRABLE canlynol yn arwydd o'r meysydd y bydd y panel yn eu harchwilio mewn cyfweliad;

Sgiliau a Phrofiad Eraill (Arddangoswyd yn y Cyfweliad) :

  • Ymwybyddiaeth Fasnachol/Partneriaethau
  • Cynhyrchiant ac effeithlonrwydd gan gynnwys gweithredu strategaethau busnes ac agenda weddnewid
  • Datblygu Busnes a Thwf
  • Arweinyddiaeth Strategol
  • Cyfathrebu/Marchnata
  • Systemau a Pholisïau Corfforaethol
  • Cynllunio a Datblygu Eiddo/Cyfalaf Strategol
  • Datblygu perthnasoedd cryf yn fewnol ac yn allanol
  • Profiad o weithio yn y sector cyhoeddus a/neu'r sector preifat – Busnes a Masnachol.

 

Dyddiadau cyfweliadau

20 Medi 2021
20 Medi 2021

Dyddiad cau

03/08/21 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â'r:

Tîm Penodiadau Cyhoeddus

Yr Uned Cyrff Cyhoeddus

E-bost: Penodiadaucyhoeddus@LlywCymru

Am ragor o wybodaeth am rôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg cysylltwch â Georgina Galletly, y Cyfarwyddwr Llywodraethiant Corfforaethol.

Ffôn: 01443 744818

E-bost: Georgina.galletly2@wales.nhs.uk

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar Penodiadaucyhoeddus@LlywCymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i https://llyw.cymru/penodiadau-cyhoeddus

 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.