Swydd Wag -- Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: Penodi Aelod Annibynnol (Cymuned)

Manylion y swydd

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Caerleon
£15,936 y flwyddyn
4
mis

Rôl y corff

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yw enw gweithredol Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Aneurin Bevan. Sefydlwyd y Bwrdd Iechyd ar 1 Hydref 2009 ac mae'n cwmpasu ardaloedd Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ac yn darparu rhai gwasanaethau i boblogaeth De Powys. 

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cyflogi dros 13,000 o staff, y mae dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud â gofal cleifion uniongyrchol. Ceir mwy na 250 o ymgynghorwyr mewn cyfanswm o fwy na 1000 o feddygon ysbyty a meddygon teulu, a 6,000 o nyrsys, bydwragedd, gweithwyr proffesiynol perthynol a gweithwyr cymunedol.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn cael ei arwain gan y Cadeirydd, cyfarwyddwyr anweithredol, y Prif Weithredwr a chyfarwyddwyr gweithredol eraill. Cefnogir y Bwrdd gan y Tîm Uwch-reolwyr.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd Aelodau Annibynnol, ymhlith pethau eraill, yn:-

Chwarae rhan lawn a gweithgar yn y ffordd y caiff Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ei lywodraethu, o safbwynt clinigol a chorfforaethol. Byddwch yn cymryd rhan weithredol mewn trafodaethau, gan gynnig eich barn a herio a chefnogi'r Bwrdd ar faterion allweddol.

Cyfrannu at waith y Bwrdd yn seiliedig ar eich annibyniaeth, eich profiad yn y gorffennol a'ch gwybodaeth, a'ch gallu i gymryd cam yn ôl o'r gwaith rheoli beunyddiol;

Cyfrannu at benderfyniadau corfforaethol a'u derbyn, er mwyn sicrhau bod y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau cydgysylltiedig, cadarn a thryloyw

Dod, ymhen amser, i ddeall y sefydliad yn llawn drwy gymryd rhan weithredol, er mwyn galluogi'r sefydliad i weithredu'n effeithiol.

Gweithio'n agos gyda chyrff preifat, gwirfoddol a chyhoeddus eraill a sicrhau bod safbwyntiau cleifion, gofalwyr a theuluoedd yn cael eu cynnwys yn llawn er mwyn helpu i siapio, datblygu a gwella gwasanaethau.

Dadansoddi ac adolygu gwybodaeth gymhleth mewn modd beirniadol a chyfrannu at benderfyniadau cadarn;

Gallu cyfrannu at brosesau 'llywodraethu ac ariannu' y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau ei bod yn agored ac yn onest yn ei gwaith drwy gyfrannu'n llawn at y broses o wneud penderfyniadau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol
Gallu darllen a deall deunydd syml ar bynciau pob dydd
Gallu ysgrifennu gohebiaeth syml mewn sefyllfa waith
Deall sgyrsiau sylfaenol am bynciau pob dydd
Gallu cynnal sgwrs syml mewn sefyllfa waith

Manyleb y person

Mae'n hanfodol bod Aelodau Annibynnol yn dangos y priodoleddau canlynol:- 


Dealltwriaeth o faterion iechyd a blaenoriaethau yn ardal y Bwrdd Iechyd a'r gallu i ddeall rôl a gwaith y Bwrdd;

Y gallu i ddwyn yr aelodau gweithredol i gyfrif am berfformiad, gan gynnal perthynas adeiladol ar yr un pryd;

Y gallu i ddarparu safbwynt gwybodus, diduedd a chytbwys ar amrywiaeth o faterion sensitif a chymhleth;

Dealltwriaeth eang o'r gofynion o ran llywodraethu gwybodaeth y mae eu hangen i gydymffurfio â deddfwriaeth, ee y Ddeddf Diogelu Data.

Dealltwriaeth o amrywiaeth a chynhwysiant ac ymrwymiad iddynt

 

Dyddiadau cyfweliadau

3 Chwefror 2020
7 Chwefror 2020

Dyddiad cau

10/01/20 16:00

Gwybodaeth ychwanegol

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â:

E-bost y Tîm Penodiadau Cyhoeddus: PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru 

I gael rhagor o wybodaeth am rôl yr Aelod Annibynnol, cysylltwch ag Ann Lloyd CBE, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Ffôn: 01633 435957, E-bost: Ann.Lloyd@wales.nhs.uk   

Neu Richard Bevan, Ysgrifennydd y Bwrdd. Ffôn 01633 435959, E-bost: richard.bevan@wales.nhs.uk   

I gael rhagor o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, efallai yr hoffech fynd i wefan y Bwrdd Iechyd: http://www.wales.nhs.uk/sitesplus/866/hafan 

Os oes angen mwy o gymorth arnoch i wneud cais, cysylltwch â'r Tîm Penodiadau Cyhoeddus ar penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Benodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Sut i wneud cais

I wneud cais, ewch i wefan penodiadau cyhoeddus Llywodraeth Cymru yma https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-1ae823e13adc/candidate/jobboard/vacancy/7/adv/.

Ar ôl cofrestru, byddwch yn gallu gweld y ffurflen gais. I wneud cais, bydd angen ichi gyflwyno'r ffurflen gais a dwy ddogfen ategol. Y cyntaf yw dogfen yn ateb y cwestiynau ar dudalennau 3 a 4 o'r wybodaeth i ymgeiswyr, datganiad personal. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Gallai eich cais gael ei wrthod os byddwch yn mynd dros y terfyn hwn. CV llawn, cyfredol yw'r ail ddogfen y bydd rhaid ichi ei chyflwyno. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen i'r adran “Rhesymau dros ymgeisio” o'r ffurflen gais ar-lein.

Commissioner for Public Appointments logo

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.