Swydd Wag -- Is-Lywydd -Amgueddfa Cymru – National Museum Wales
Manylion y swydd
Rôl y corff
Amgueddfa Cymru
Amgueddfa Cymru yw un o brif sefydliadau diwylliannol a chenedlaethol Cymru. Mae 1.9 miliwn o bobl yn ymweld ag Amgueddfa Cymru bob blwyddyn.
Wedi'i sefydlu gan Siarter Frenhinol yn 1907, Amgueddfa Cymru yw un o'r amgueddfeydd mwyaf yn y Deyrnas Unedig, a'r sefydliad diwylliannol pwysicaf yng
Nghymru. Mae'r Amgueddfa yn geidwad casgliadau amrywiol a rhyngwladol bwysig, ac yn arwain ar addysg a chyfranogi diwylliannol.
Mae Amgueddfa Cymru yn gyfrifol am saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd: Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan; Y Pwll
Mawr: Yr Amgueddfa Lo Genedlaethol ym Mlaenafon; Yr Amgueddfa Wlân Genedlaethol yn Nhre-fach, Felindre; Amgueddfa'r Lleng Brydeinig yng Nghaerllion;
Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau,Abertawe. Mae gan Amgueddfa Cymru Ganolfan Casgliadau Cenedlaethol hefyd ger
Caerdydd. Mae dros 5 miliwn o eitemau unigol yn ein casgliadau, yn cynnwys gwaith celf a dylunio, hanes ac archaeoleg, a'r gwyddorau naturiol.
Caiff Amgueddfa Cymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, fel Corff a Noddir, ac mae ganddi Fwrdd o Ymddiriedolwyr sydd â'r swyddogaeth o bennu cyfeiriad
strategol y sefydliad, ac o sicrhau bod yr adnoddau yn cael eu rheoli yn iawn.
Mae Amgueddfa Cymru yn perthyn i ni i gyd
Ein gweledigaeth yw ysbrydoli pobl drwy amgueddfeydd a chasgliadau cenedlaethol Cymru i ddod o hyd i ymdeimlad o les a hunaniaeth, i ddarganfod, mwynhau a
dysgu’n ddwyieithog, ac i ddeall lle Cymru yn y byd ehangach.
Credwn fod gan bawb yr hawl i gymryd rhan ym mywyd diwylliannol eu cymunedau a’u cenedl. Rydym wedi bod yn datblygu strategaeth ddeng mlynedd newydd ar gyfer
yr Amgueddfa – Amgueddfa Cymru 2030 – sy’n cynnwys chwe ymrwymiad clir. Byddwn yn gweithio gyda phobl a chymunedau ledled Cymru, drwy gasgliadau,
rhaglenni cyhoeddus a phartneriaethau, i:
• Sicrhewch fod pawb yn cael eu cynrychioli
• Ysbrydoli creadigrwydd a dysgu am oes
• Helpu i warchod ac adfer byd natur a'n hamgylchedd
• Cefnogi lles trwy fannau a phrofiadau ysbrydoledig
• Darganfod ac archwilio'r amgueddfa yn ddigidol
• Adeiladu cysylltiadau byd-eang.
Bydd gan ein Is-Lywydd newydd ran hollbwysig i'w chwarae i wireddu'r ymrwymiadau hyn.
Disgrifiad o'r swydd
Rôl yr Is-lywydd
Yn ogystal â chyfrifoldebau ymddiriedolwr, bydd yr Is-lywydd yn
• Cynorthwyo'r Llywydd i arwain cyfeiriad cyffredinol y Bwrdd, gan gymryd rôl y Llywydd os yw'n absennol, ac eirioli ar ran Amgueddfa Cymru;
• Cadeirio Pwyllgorau eraill Amgueddfa Cymru a/neu yn absenoldeb y Cadeirydd penodedig;
• Gyda'r Llywydd, gweithredu fel pwynt cyswllt allweddol rhwng y Bwrdd a'r Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip a swyddogion y Llywodraeth;
• Cefnogi’r Llywydd yn ôl yr angen i gysylltu â swyddogion eraill ac aelodau’r Bwrdd, a chydag uwch dîm gweithredol yr Amgueddfa. Bydd gan yr Is-lywydd hefyd rôl bwysig i’w chwarae yn y gwaith o graffu, herio a chefnogi’r Bwrdd Gweithredol i gyflawni nodau, amcanion a thargedau Amgueddfa Cymru;
• Cymryd rhan yn y broses cynllunio corfforaethol, gan gynnwys cytuno ar gynlluniau cyllideb blynyddol ar gyfer rhaglenni gweithredol a gweithgareddau corfforaethol;
• Dirprwyo ar ran y Llywydd yn ôl y gofyn wrth gynrychioli Amgueddfa Cymru yn ei hymwneud â'r Senedd a Llywodraeth Cymru;
• Mynd ati i hyrwyddo manteision y sector treftadaeth ddiwylliannol amrywiol yng Nghymru a thu hwnt;
• Meddu ar weledigaeth glir o ran sut y gall Amgueddfa Cymru barhau i gyfrannu fel prif ddarparwr polisïau treftadaeth ddiwylliannol Llywodraeth
Cymru;
• Meddu ar ddealltwriaeth o sut mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn gweithredu;
• Cymryd rhan weithredol mewn annog aelodaeth bwrdd a'r genhedlaeth nesaf o ymddiriedolwyr;
• Sicrhau bod Amgueddfa Cymru yn cyflawni gwerth am arian o fewn fframwaith o arferion gorau, rheoleidd-dra ac eiddo;
• Gweithredu mewn ffordd sy'n hyrwyddo safonau uchel o ran cywirdeb a chyllid cyhoeddus;
• Bod yn wleidyddol annibynnol.
Sgiliau yn y Gymraeg
Manyleb y person
Rydym yn edrych am rhywun sydd:
• Yn arweinydd profiadol a diplomyddol sydd ag ymrwymiad i werthoedd a gweledigaeth Amgueddfa Cymru ac sy'n gwerthfawrogi ei rôl yn cefnogi newid a datblygiad yng Nghymru trwy gyfranogiad diwylliannol;
• Yn angerddol dros ddiwylliant yng Nghymru, sy'n deall y sector diwylliant ac sy'n sensitif i faterion diwylliannol yng Nghymru;
• Meddu ar sgiliau rhyngbersonol, cyfathrebu a rheoli rhanddeiliaid rhagorol, gan gynnwys sgiliau llysgenhadol, ac yn gallu gweithio mewn modd colegol;
• Yn gallu dangos eu gallu i feddwl a gweithredu'n strategol;
• Yn ymwybodol o bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru a sut mae'r rhain yn dylanwadu ar waith Amgueddfa Cymru a'r sector diwylliant yng Nghymru;
• Wedi ymrwymo i Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus Nolan.
IS-LYWYDD - MEINI PRAWF HANFODOL
• Profiad o weithredu fel uwch arweinydd mewn sefydliad cymhleth, amlddisgyblaethol;
• Profiad o ddatblygu partneriaethau strategol;
• Gallu dangos tystiolaeth o ddealltwriaeth drylwyr o lywodraethu da
• Ymrwymiad profedig i gynyddu amrywiaeth, a hyrwyddo cynhwysiant a chydraddoldeb;
• Dealltwriaeth o, a phrofiad o weithio gyda chymunedau neu gynulleidfaoedd amrywiol, yn ethnig, yn gymdeithasol-economaidd neu fel arall.
Bydd pob ymgeisydd yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf hanfodol a restrir.
Dyddiadau cyfweliadau
Dyddiad cau
Gwybodaeth ychwanegol
Sut i wneud cais
I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru. Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.
Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais. I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr. Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4. Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn. Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol. Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.
Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan. Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf.
Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth. Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro. Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.
I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).
Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.
Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus
Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.