Swydd Wag -- Penodiadau - Cadeirydd - Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Manylion y swydd

Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru
Fodydd i’w cynnal ledled Cymru
£400 y dydd, a threuliau teithio a threuliau rhesymol eraill o fewn terfynau rhesymol.
5
mis

Rôl y corff

Diben
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru (CSCC) i gefnogi cyngor annibynnol, mwy gwybodus ar strategaeth hirdymor ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith, sy’n ymgorffori egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
 
Llywodraethiant a chylch gwaith
 
Sefydlwyd CSCC fel corff cynghori anstatudol i ddarparu cyngor ac argymhellion i Weinidogion Cymru ar anghenion seilwaith economaidd ac amgylcheddol Cymru dros 5 - 30 mlynedd.
 
Mae cylch gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar anghenion economaidd ac amgylcheddol, ond dylai ystyried hefyd sut mae’r anghenion hyn yn rhyngweithio â ‘seilwaith cymdeithasol’, megis ysgolion, ysbytai a thai. Fodd bynnag, ni ddisgwylir y bydd CSCC yn ystyried a chynghori ar anghenion seilwaith cymdeithasol mewn manylder. 
 
Bydd Llywodraeth Cymru’n amlinellu trwy lythyr cylch gwaith blynyddol y meysydd yr hoffai i CSCC ganolbwyntio arnynt, ynghyd â’r gyllideb sydd ar gael. Bydd y llythyr hwn yn cael ei anfon at Gadeirydd y Comisiwn cyn dechrau pob blwyddyn ariannol. 
 
Bydd y cyngor a ddarperir gan CSCC o natur strategol ac yn edrych i’r dyfodol. Ni ddarperir cyngor ar gynlluniau seilwaith presennol neu gynlluniau sydd i ddod sydd wedi’u cytuno eisoes. 
 
O fewn ei gyngor, rhaid i CSCC adlewyrchu nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 20151. Mae hyn yn cynnwys: 
 
Amcanion Llesiant
Llywodraeth Cymru 
Y Pum Ffordd o Weithio 
Egwyddor Datblygu Cynaliadwy

 
Rhaid i CSCC ystyried hefyd rwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, a rhwymedigaethau deddfwriaethol eraill, wrth ddarparu cyngor. 
 
Bydd trefniadau gwaith manwl CSCC yn cael eu cytuno rhwng Llywodraeth Cymru a’r Comisiynwyr a benodwyd trwy ddogfen Cyfansoddiad. Disgwylir i CSCC gynhyrchu a chyhoeddi ‘Adroddiad Cyflwr y Genedl’ bob 3-5 mlynedd. Bydd yr adroddiad hwn yn ystyried cyflwr presennol y seilwaith economaidd ac amgylcheddol ledled Cymru mewn ffordd ddiduedd. 
 

Yn ogystal, disgwylir i’r Comisiwn gynhyrchu adroddiad blynyddol ar ei weithgarwch y flwyddyn flaenorol ac unrhyw adroddiadau ad hoc y bydd Llywodraeth Cymru a/neu CSCC yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
 
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi annibyniaeth CSCC trwy:   Ymateb yn ffurfiol i Adroddiad Cyflwr y Genedl a chyflwyno’r adroddiad, a’r ymateb, yn y Cynulliad Cenedlaethol.   Cyflwyno adroddiadau CSCC yn y Cynulliad Cenedlaethol.   Ymateb yn ffurfiol i argymhellion CSCC a chyflwyno’r ymateb hwn yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan gynnwys y rheswm pam mae argymhellion wedi’u cymeradwyo neu heb eu derbyn. 
 
Aelodaeth a’r Ysgrifenyddiaeth 
 
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys 12 o Gomisiynwyr, gan gynnwys y Cadeirydd. 
 
Caiff penodiadau eu gwneud gan Weinidogion Cymru am uchafswm o 3 blynedd.
 
Penodir aelodau ar sail teilyngdod ac arbenigedd, a disgwylir iddynt ddangos gallu i ystyried natur amrywiol cymunedau yng Nghymru. 
 
Bydd aelodau’n cael eu cefnogi gan ysgrifenyddiaeth sy’n cynnwys staff Llywodraeth Cymru. 
 
Atebolrwydd
 
Bydd CSCC yn atebol i Weinidogion Cymru am ansawdd a phriodoldeb ei gyngor a’i argymhellion, a’i ddefnydd o arian cyhoeddus. Efallai y creffir ar waith CSCC ac y bydd yn cael ei ddwyn i gyfrif gan y Cynulliad, ac efallai y gofynnir i aelodau gymryd rhan yng ngwrandawiadau pwyllgorau’r Cynulliad. 
 
Bydd Llywodraeth Cymru’n cael ei dwyn i gyfrif gan y Cynulliad am y cyfarwyddyd y mae’n ei darparu i CSCC. Creffir arno hefyd mewn perthynas â’r argymhellion y mae’n eu derbyn, neu’n eu gwrthod, a’r sail resymegol y tu ôl i’r penderfyniadau hyn. 
 
Adolygiad
 
Bydd CSCC yn amodol ar adolygiad cynhwysfawr o’i statws, ei gylch gwaith a’i amcanion cyn diwedd pumed tymor y Cynulliad (2016-2021). 
 
Bydd trefniadau dilynol ar gyfer adolygu CSCC yn cael eu sefydlu ar ôl yr adolygiad cychwynnol hwn.

Disgrifiad o'r swydd

Bydd y Cadeirydd yn feddyliwr blaenllaw ac yn llais annibynnol ar seilwaith, ac yn gweithio gyda grŵp amrywiol o Gomisiynwyr. Bydd gan y Cadeirydd broffil cyhoeddus amlwg a bydd yn cyflwyno argymhellion CSCC i’r cyhoedd ac i’r Cynulliad Cenedlaethol ac yn profi’r gwaith o gyflawni argymhellion CSCC a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru. Bydd y Cadeirydd yn ategu rôl CSCC ac yn creu consensws gyda’r diwydiant a rhanddeiliaid eraill.

 

Bydd y Cadeirydd yn gyfrifol am:

 

  • arweinyddiaeth strategol CSCC; pennu blaenoriaethau a sicrhau annibyniaeth ei argymhellion; goruchwylio darpariaeth gwaith CSCC, gan gynnwys monitro’r ddarpariaeth gan Lywodraeth Cymru;

 

  • cyfarwyddo mewnbwn Comisiynwyr a manteisio ar eu sgiliau, eu profiad a’u harbenigedd;

 

  • darparu cyngor diduedd, arbenigol i Lywodraeth Cymru ar seilwaith, gan gynnwys cyngor ar flaenoriaethu a gwerth am arian ar fuddsoddiadau cyhoeddus a phreifat;

 

  • creu consensws mewn perthynas ag argymhellion CSCC;

 

  • ymgysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys llywodraeth, diwydiant, y byd academaidd, grwpiau â buddiant a’r cyhoedd;

 

  • creu perthynas waith â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol y DU;

 

  • cynrychioli CSCC yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau.

Sgiliau yn y Gymraeg

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd datblygu a chynyddu sgiliau dwyieithog o fewn apwyntiadau cyhoeddus, ac yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n medru gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.  Seiliwyd y rhestr isod o ofynion iaith y swydd ar asesiad gwrthrychol y corff sy'n recriwtio o’r sgiliau yn y Gymraeg sy’n angenrheidiol i ymgymryd â dyletswyddau’r swydd benodol hon.
Dymunol

Manyleb y person

Meini Prawf Hanfodol  

  • arweinydd o safon uchel, gyda’r gallu i arwain byrddau a sefydliadau’n effeithiol; 
  • y gallu i ddarparu cyngor annibynnol, cadarn o dan lefel uchel o graffu a diddordeb cyhoeddus a defnyddio proffil cyhoeddus i greu consensws; 
  • hygrededd gyda llywodraeth, diwydiant a’r cyhoedd; 
  • y gallu i brosesu gwybodaeth gymhleth, ystyried pethau o safbwynt tymor hir a phwyso a mesur tebygolrwydd i ddod i gasgliadau clir; 
  • y gallu i gyfathrebu pynciau cymhleth yn glir;  
  • dealltwriaeth o amcanion seilwaith Llywodraeth Cymru, ei fframwaith polisi, cyflawni ac ariannu ehangach, gan gynnwys y dyletswyddau a’r ymrwymiadau  (dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r setliad datganoli).


 

Sgiliau

  • y gallu i arwain ar lefel strategol mewn llywodraeth neu yn y byd academaidd neu fusnes; 
  • profiad o gyfathrebu a dylanwadu ar y lefelau uchaf; 
  • y gallu i gynrychioli sefydliadau yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y cyfryngau a gyda gwahanol randdeiliaid; 
  • profiad mewn un sector neu fwy ym maes seilwaith economaidd a/neu amgylcheddol (dymunol); 
  • y gallu i ddangos profiad o ymrwymiad i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth, ac o weithredu yn unol â nhw; 
  • dealltwriaeth o egwyddorion bywyd cyhoeddus ac ymrwymiad iddynt.

 

Y Gymraeg  

  • Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ond nid oes rhaid eich bod yn meddu arnynt cyn cael eich penodi.

Dyddiadau cyfweliadau

6 Ionawr 2020
10 Ionawr 2020

Dyddiad cau

21/10/19 23:55

Gwybodaeth ychwanegol

Cysylltiadau:


I gael mwy o wybodaeth am rôl CSCC a rôl y Cadeirydd, cysylltwch â:

 
Adrian Davies

Swyddfa Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru

Ffôn: 03000 257691

E-bost: Adrian.Davies2@llyw.cymru


 
Os bydd angen unrhyw gymorth pellach arnoch i wneud cais am y swydd hon, anfonwch e-bost i penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru.  
 

Sut i wneud cais

I wneud cais am y swydd hon, cliciwch ar y botwm ‘Gwneud cais’ isod. Y tro gyntaf i chi wneud cais am swydd, fe fydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru ar gyfer system ceisiadau ar-lein Llywodraeth Cymru.  Dim ond unwaith sydd angen i chi gofrestru, a thrwy wneud hynny, byddwch yn gallu dilyn hynt eich cais, ac unrhyw geisiadau eraill rydych yn eu hanfon, trwy eich cyfrif.

Unwaith i chi gofrestru, fe fyddwch yn gallu cael mynediad at y ffurflen gais.  I wneud cais, fe fydd angen i chi gyflwyno dwy ddogfen ategol, sef dogfen sy’n amlinellu sut mae’ch gwybodaeth, sgiliau a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl, sydd wedi’u nodi yn y wybodaeth i ymgeiswyr.  Ni ddylai’r ddogfen hon fod yn fwy na dwy dudalen A4.  Mae’n bosib caiff eich cais ei wrthod os ydych chi’n mynd dros y terfyn hwn.  Yr ail ddogfen fydd angen i chi ei gyflwyno yw CV llawn, cyfredol.  Dylech lanlwytho’r ddwy ddogfen ar y dudalen ‘Rhesymau dros ymgeisio’ yn y ffurflen gais ar-lein.

Yn eich cais, fe fydd hefyd angen i chi ddarparu manylion unrhyw weithgareddau sydd wedi eich  sydd wedi eich cynorthwyo i ddatblygu sgiliau fyddai’n ddefnyddiol mewn penodiad cyhoeddus, a rhestri’r sefydliadau yr oeddech yn gweithredu ar eu rhan.  Rydym hefyd angen gwybod am unrhyw weithgareddau gwleidyddol rydych wedi eu gwneud yn y 5 mlynedd ddiwethaf. 

Byddwn yn argymell i chi gofrestru am gyfrif ac agor y ffurflen gais cyn gynted â phosib er mwyn i chi gael golwg dros strwythur y ffurflen gais, cyn i chi gychwyn paratoi eich tystiolaeth.  Does dim rhaid i chi gwblhau’r ffurflen gais i gyd mewn un tro.  Gallwch gadw’ch atebion, a mewngofnodi ac allgofnodi yn ôl yr angen, tan eich bod yn barod i anfon eich cais - i wneud hyn, dilynwch y cyfarwyddiadau yn y ffurflen gais.

I gwblhau cais yn y Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod yn pwyso ‘Gwneud cais’ isod ar y dudalen hon (yn hytrach na phwyso ‘Apply’ ar y dudalen Saesneg).

Os oes angen rhagor o gymorth arnoch chi i wneud cais am y rôl hon, cysylltwch â  Tĩm Penodiadau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru ar e-bost i PenodiadauCyhoeddus@llyw.cymru.

Am ragor o wybodaeth ynghylch Penodiadau Cyhoeddus yng Nghymru, ewch i www.llyw.cymru/penodiadaucyhoeddus.

Mae'r swydd hon ar gau i ymgeiswyr.